Merthyr Tudful

Castell Cyfarthfa

Porth i raeadrau, treftadaeth ac antur. Mae Merthyr Tudful, un o drefi mwyaf diddorol Cymru o safbwynt hanes ac un o’r harddaf, mewn lleoliad delfrydol rhwng Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Chaerdydd, prifddinas Cymru.

Am Ferthyr Tudful

Wedi’i lleoli ar ymyl deheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Merthyr Tudful yn un o’r prif drefi porth i dirwedd o raeadrau, mynyddoedd a threftadaeth ddiwydiannol sydd wedi llunio’r rhan hon o Gymru. Ar un adeg, roedd y dref yn cael ei hadnabod fel prifddinas haearn y byd; heddiw, mae’n cyfuno diwylliant, antur awyr agored a mynediad hwylus i rai o leoliadau mwyaf poblogaidd y Parc Cenedlaethol.

Gweithgareddau yn Parkwood Outdoors Dolygaer
Caiacwyr, canŵwyr a phadlfyrddwyr ar y gronfa ddŵr, gyda bryniau coediog a mynyddoedd y tu hwnt.

Cynlluniwch eich ymweliad

O Ferthyr Tudful, mae rhaeadrau enwog Pontneddfechan a Llwybr y Pedair Rhaeadr, tirweddau agored Coedwig Taf Fechan a llwybrau cerdded sy’n arwain tua Phen y Fan a’r Bannau Canolog o fewn cyrraedd hwylus. Mae’r ardal hefyd yn boblogaidd ar gyfer beicio mynydd, dringo, ogofa a chwaraeon dŵr, tra bod y cronfeydd dŵr a’r coedwigoedd cyfagos yn cynnig mannau tawelach i’w darganfod, i ffwrdd o’r llwybrau prysuraf.

spring flowers in a landscaped area with 2 cabins in view

Am Ferthyr Tudful

Mae gan y dref ei hun gysylltiadau cryf â hanes diwydiannol Cymru, cerddoriaeth a chwaraeon. Gyda’i hatyniadau, ei pharciau, ei chaffis a’i busnesau annibynnol, mae’n ganolfan ddefnyddiol ar gyfer darganfod yr ardal ehangach. Mae Castell a Pharc Cyfarthfa yn parhau’n rhan bwysig o hanes y dref, tra bod BikePark Wales wedi helpu i sefydlu Merthyr Tudful fel un o gyrchfannau antur mwyaf adnabyddus y DU.

Beiciwr mynydd yn mynd dros greigiau a gwreiddiau ar lwybr llethrog mewn coedwig.

Rhywbeth at ddant pawb

P’un a ydych yn cynllunio gwyliau byr egnïol, yn chwilio am ddiwrnodau allan sy’n addas i deuluoedd neu’n defnyddio’r dref fel canolfan i ddarganfod ardal ehangach Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Merthyr Tudful yn fan cychwyn ymarferol sydd â chysylltiadau da ar gyfer eich ymweliad.

Flora’s Cabin exterior with countryside views near Pontsticill in Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons) National Park

Darganfyddwch Ferthyr Tudful a’r ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros, lleoedd i fwyta, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau cerdded ym Merthyr Tudful a’r ardal gyfagos.

Pethau i’w Gwneud

Digwyddiadau

Peidiwch byth â cholli allan ar y digwyddiadau lleol gorau – tanysgrifiwch i gael diweddariadau misol ar wyliau, marchnadoedd, a phrofiadau arbennig.

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr

Llanymddyfri

Sgwâr Tref Llanymddyfri

Yn swatio ar gyrion gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Llanymddyfri yn dref farchnad swynol yn Sir Gaerfyrddin. Wedi’i lleoli ar gymer ffyrdd yr A40 a’r A483 ac ar lannau Afon Tywi, mae’n borth i dirweddau syfrdanol Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria.

Llanymddyfri

Mae hanes cyfoethog Llanymddyfri yn cael ei arddangos gan adfeilion Castell Llanymddyfri sydd yn cynnig golygfeydd panoramig o’r dref a chefn gwlad. Mae’r dref yn anrhydeddu gorffennol y porthmyn â cherflun trawiadol o Llywelyn ap Gruffydd Fychan. Gerllaw, mae Canolfan Gymunedol ac Ymwelwyr Myddfai lle cewch ddysgu am hanesion Meddygon Myddfai, gan gyfuno hanes â chwedl

the statue of

Mae Porth Amgueddfa ac Ymwelwyr Llanymddyfri

Mae Porth Amgueddfa ac Ymwelwyr Llanymddyfri, sydd wedi’i leoli yn Y Gannwyll, yn ganolbwynt ar gyfer hanes lleol. Mae’n tynnu sylw at enwogion fel Williams Pantycelyn a Twm Siôn Cati ac yn archwilio cysylltiadau â meddygon Myddfai. Mae’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac ar agor o Ddydd Mawrth i Ddydd Sadwrn rhwng 11am a 2 pm. Mae cymorth achyddol ar gael ambell ddiwrnod. Ymweliad hollbwysig ar gyfer y sawl sydd am wybod rhagor am orffennol Llanymddyfri.

Museum and Gateway building  in Llandovery

Eglwys Sant Dingat

Eglwys Blwyf Anglicanaidd, Gradd II* Rhestredig yw Eglwys Sant Dingat yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Yn dyddio o’r 14eg ganrif, mae’n cynnwys tŵr gorllewinol nodedig a phensaernïaeth ganoloesol. Mae’r Eglwys wedi cael ei hadfer a gwnaethpwyd gwaith helaeth yn y 19eg ganrif ac ar ddechrau’r 20ed ganrif. Mae’n parhau i fod yn dirnod hanesyddol, amlwg yn y dref.

a achurch and graveyard with crooked headstones

Dewch yn Egnïol

I’r sawl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored, mae Llanymddyfri yn hafan. Mae’r ardaloedd cyfagos yn cynnig llu o weithgareddau, o heicio a beicio i bysgota a chanŵio. Mae Coedwig Crychan yn darparu llwybrau i gerddwyr, beicwyr a marchogion, tra bod Cronfa Ddŵr Llyn Brianne gerllaw yn cynnig golygfeydd a chyfleoedd trawiadol i anturio.

Beth Sy’n Digwydd yn Llanymddyfri

Mae’r dref yn ffynnu a cheir yma ysbryd cymunedol, bywiog. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau blynyddol fel Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri a Phenwythnos Beiciau Modur Llanymddyfri, sy’n denu ymwelwyr o bell ac agos. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys canolfan hamdden fodern, Ysgol Gynradd a Choleg enwog, Llanymddyfri sy’n adnabyddus am ei gyfraniad i rygbi Cymru. Mae’r Clwb Rygbi lleol; Clwb Rygbi Llanymddyfri a elwir yn annwyl yn “The Drovers,” / “Y Portmyn” yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru, gan danlinellu traddodiadau rygbi arbennig y dref.

Beth Sy’n Digwydd yn Llanymddyfri

Darganfyddwch Lanymddyfri a’r ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros, lleoedd i fwyta, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau cerdded yn Llanymddyfri a’r ardal gyfagos.

Pethau i’w Gwneud

Digwyddiadau

Peidiwch byth â cholli allan ar y digwyddiadau lleol gorau – tanysgrifiwch i gael diweddariadau misol ar wyliau, marchnadoedd, a phrofiadau arbennig.

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr

Llangors

Machlud haul dros Lyn Syfaddan ac atgynhyrchiad o grannog canoloesol

Mae Llan-gors yn bentref prysur ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’n fwyaf adnabyddus am ei lyn syfrdanol—llyn naturiol mwyaf De Cymru. Wedi’i amgylchynu gan fryniau, mae’n cynnig encil heddychlon gyda chyfleoedd i gerdded, i ficio ac i wylio bywyd gwyllt rhagorol. Mae’r pentref yn frith o hanes, gydag olion crannog hynafol gerllaw a chysylltiadau â chwedlau Cymreig.

Llangors

Mae pentref Llangors wedi’i leoli ychydig uwchlaw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Ceir siop gymunedol ffyniannus a chaffi cyfeillgar sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr (ger y neuadd bentref). Ceir dau dafarn a chysegr eglwysig hefyd.
Y tu allan i’r pentref, fe welwch Ganolfan Aml-weithgareddau Llangors gyda waliau dringo dan do (a chaffi) os yw’r tywydd yn anfodlon. Dilynwch y ffordd tuag at Aberhonddu a throwch i’r chwith ar ôl yr ysgol i gyrraedd ymyl y Llyn a gweld y Crannog efelychiadol. Gallwch logi cychod i fynd allan ar y llyn neu brynu trwydded bysgota yn siop y Llyn

Y Crannog

Ymweld â’r Crannog efelychiadol
Roedd Crannogau yn ynysod a grëwyd gan bobl lle’r oeddent yn byw hyd at Oes y Canol. Mae gweddillion y Crannog gwreiddiol i’w gweld mewn man arall ar Lyn Syfaddan – yr unig un o’i fath a ddarganfuwyd yng Nghymru neu Loegr, er bod eraill wedi’u canfod yn yr Alban ac Iwerddon. Mae’r efelychiad yn cynnwys arddangosfa fechan sy’n esbonio ei hanes. Caiff mynediad i’r Crannog ei gloi yn y nos ac yn ystod cyfnodau o lifogydd.

Eglwys Sant Paulinus

Mae Eglwys Sant Paulinus yn Llangors yn adeilad rhestredig Gradd II* ac mae iddo hanes cyfoethog. Mae’r strwythur presennol yn dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif, er bod cofnodion yn nodi bod eglwys wedi bodoli ar y safle hwn mor gynnar â 1121. Yn nodedig, mae’r eglwys yn gartref i fedyddfaen sydd wedi ei ddyddio i tua 1300, sy’n tanlinellu ei gwreiddiau canoloesol. Mae’r eglwys yn rhan o Ardal Weinidogaeth y Mynyddoedd Du o fewn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Gall ymwelwyr grwydro drwy’r arddangosfeydd amrywiol sy’n manylu ar hanes lleol yn ystod ei oriau agor: dydd Sadwrn o 10am tan 4pm a dydd Sul o 10am i 12pm

Canolfan Amlweithgareddau Llangors

Dyma gartref yr unig ganolfan ddringo lle gallwch ddringo ar galchfaen go iawn tra byddwch dan do. Cyfeirir ato’n gariadus fel y pwll… meiddiwch chi ymaflyd â’r rhaffau, y creigiau a’r waliau?

Anturiaethau yng Nghanolfan Amlweithgareddau Llangors
Waliau dringo dan do, nodweddion creigiog a rhwystrau rhaff crog yn y ganolfan weithgareddau.

Siop gymunedol Llangors

Mae Siop Gymunedol Llangors, a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2021, yn gwasanaethu’r pentrefi o amgylch Llyn Syfaddan. Mae’n siop ecogyfeillgar sy’n gwerthu pethau bob dydd yn ogystal â bod yn siop goffi. Wedi’i staffio gan reolwyr a gwirfoddolwyr, mae’n cynnig amrywiaeth o gynhyrchion a lle croesawgar i bobl o bob oed.

Darganfyddwch Langors a’r ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros, lleoedd i fwyta, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau cerdded yn Llangors a’r ardal gyfagos.

Pethau i’w Gwneud

Digwyddiadau

Peidiwch byth â cholli allan ar y digwyddiadau lleol gorau – tanysgrifiwch i gael diweddariadau misol ar wyliau, marchnadoedd, a phrofiadau arbennig.

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr

Pontsenni a Defynnog

Y Gystadleuaeth Cneifio Cyflym yn Sioe Pontsenni

Yng nghesail Bannau Brycheiniog, mae cymunedau Pontsenni a Defynnog yn cynnig mwy na chroeso—maent yn rhannu cynhesrwydd sydd wedi’i blethu i’r tir ei hun.

Sennybridge | Pontsenni

Mae Pontsenni, sy’n swatio yn y man lle mae Afon Senni yn cwrdd ag Afon Wysg, yn cynnig cyfuniad o harddwch naturiol a hanes cyfoethog. Mae’r pentref yn cynnal marchnadoedd da byw rheolaidd, bob dydd Sadwrn. I gael y wybodaeth ddiweddaraf a dyddiadau gwerthu sydd ar ddod, fe’ch cynghorir i edrych ar dudalen Facebook Clee Tompkinson & Francis – Marchnad Pontsenni. Cynhelir sioe amaethyddol flynyddol bob mis Medi yn Nghae Dickson.

2 black faced sheep having cuddles with two adults

Dydd Da Mas Abowt

Dewch i gyfarfod Maverick a Goose, ein hasynnod bychain bach, sy’n barod i fynd ar deithiau cerdded digynnwrf ac i chwarae gemau ystwythder. Mae’r profiadau hyn yn well ar gyfer plant hŷn oherwydd mae’n hawdd rhoi braw i’n cyfeillion bach tynner. Cofiwch archebu lle o flaen llaw.

Profiadau Anifeiliaid Good Day Out
a gentleman hugging donkeys while out walking with them

Marchogaeth Defaid Jacob

Mae’n bosib merlota defaid hefyd. Mae Nicola a’i theulu yn agor eu fferm i ymwelwyr er mwyn i bawb gael y profiad o fod yn agos at yr anifeiliaid. Mae angen archebu lle ymlaen llaw gan fod lles yr anifeiliaid yn hollbwysig.

a black shhep ram with horns on a red lead being taken for a walk, hes eating clover while walking

Defynnog

Mae Defynnog yn bentref llai, yn agos i Bontsenni. Mae’n enwog am Ywen Defynnog y credir ei bod dros 3,000 o flynyddoedd oed, ac y credir ei bod yn un o’r coed hynaf yn Ewrop .Mae’r ywen ar dir eglwys, Sant Cynog. Mae Eglwys Sant Cynog yn eglwys blwyf hanesyddol sy’n dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif, a adeiladwyd o bosibl ar safle teml gynharach. Mae’r strwythur presennol yn dyddio’n bennaf o’r 15fed ganrif ac mae’n cynnwys arddull bensaernïol Gothig Perpendicwlar. Mae elfennau mewnol nodedig yn cynnwys carreg fedd Rufeinig o’r 5ed ganrif gydag arysgrifau Lladin ac Ogam a ffont wedi’i harysgrifio â llythrennau Runic, sy’n unigryw yng Nghymru.

Ywen Defynnog

Mae Ywen Defynnog ymhlith coed hynaf Prydain. Mae amcangyfrifon o’i oedran yn amrywio, gyda rhai yn awgrymu ei fod dros 5,000 oed, tra bod asesiadau mwy ceidwadol yn ei osod rhwng 2,000 a 3,000 o flynyddoedd oed. Mae’r goeden yn cynnwys naw coesyn gwahanol yn dod allan o waelod gyda chylchedd o tua 11 metr (36 troedfedd). Mae ei ganopi eang yn cynnal ystod amrywiol o epiffytau, gan gynnwys rhedyn, mwsoglau, llysiau’r afu, a chennau. Mae Ywen Defynnog yn rhagddyddio Eglwys Sant Cynog o’r 15fed ganrif gerllaw, gan amlygu ei harwyddocâd fel cofeb fyw i dreftadaeth naturiol hynafol yr ardal.

Canolfan Ryngwladol Welsh Rarebit

Gan gynnig croeso cynnes i lawer, mae’r International Welsh Rarebit Centre yn dathlu’r pryd bwyd Gymreig o’r un enw mewn steil. Yma, mae traddodiad yn cwrdd â chreadigedd, gyda bwydlen yn cynnig blasau clasurol a dychmygus o Welsh Rarebit, ynghyd â chawliau tymhorol, saladau bywiog, a phrydau dyddiol arbennig wedi’u curadu’n ofalus. Wedi’i leoli yn adeilad swynol yr Hen Ysgol yn Nefynnog, mae’r caffi clyd hwn yn hafan i bobl sy’n hoff o fwyd sy’n chwilio am wir flas o Gymru. Os ydych ar ôl cegiad cysurus neu antur coginio, mae’n rhaid ymweld â hi. Am ragor o fanylion, gan gynnwys oriau agor, edrychwch ar eu tudalen Facebook.

International Welsh Rarebit Centre
Interior of The International Welsh Rarebit Centre in Defynnog, with a wood-burning stove and menu board

Darganfyddwch Bontsenni, Defynnog a’r ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros a bwyta, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau cerdded ym Mhontsenni, Defynnog a’r ardal gyfagos.

Pethau i’w Gwneud ym Mannau Brycheiniog (Brecon Beacons)

Digwyddiadau

Peidiwch byth â cholli allan ar y digwyddiadau lleol gorau – tanysgrifiwch i gael diweddariadau misol ar wyliau, marchnadoedd, a phrofiadau arbennig.

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr

Talybont-on-Usk

Llwybr y llongau a’r bont siglo ar y gamlas yn Nhalybont ar Wysg

Mae Talybont ar Wysg, sydd wedi’i leoli ym Mhowys, Cymru, yn bentref prydferth sy’n gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Wedi’i leoli ochr yn ochr â Chamlas Mynwy a Brycheiniog ac yn agos at Afon Wysg, mae’n cynnig cymysgedd o harddwch naturiol a hanes cyfoethog

Cymuned Tal-y-bont ar Wysg

Mae gan Dalybont ar Wysg gymuned leol fywiog. Mae neuadd y pentref yn cynnig maes parcio gyda chargio ceir trydan, toiledau a man golchi beiciau gan ddefnyddio dŵr glaw wedi’i storio – cefnogwch nhw trwy roi cyfraniad bach am eich parcio. Mae’r tafarndai a’r caffi/swyddfa bost yn boblogaidd ac yn brysur gyda thrigolion a gwesteion fel ei gilydd.
Mae’r cynllun hydro cymunedol cyntaf yng Nghymru wedi’i leoli ar y gronfa ddŵr yn y bryniau uwchben y pentref ac yn cynhyrchu incwm ar gyfer prosiectau cymunedol.
Mae’r pentref mewn safle delfrydol i gerddwyr a beicwyr ac yn stop poblogaidd i’r cychod sy’n teithio ar hyd Camlas Mynwy a Brycheiniog.

Neuadd Henderson, Parcio, Hwb Beiciau a Chanolfan Gymunedol

Eglwys Sain Ffraid, Llansanffraed

Saif Eglwys Sain Ffraid, a elwir hefyd yn Sain Ffraid Sant, yn Llansanffraed ger Talybont ar Wysg. Mae’r eglwys wreiddiol yn dyddio’n ôl i’r 9fed ganrif, gyda gwaith ailadeiladu sylweddol ym 1690 ac ailadeiladu llwyr rhwng 1884 a 1885, wedi’i ariannu gan Mr J.P. Holford o Dŷ Buckland. Yn nodedig, mae mynwent yr eglwys yn feddrod olaf y bardd metaffisegol mawr Henry Vaughan, a fu farw ym 1695. Cynhelir gwasanaethau ar drydydd Sul bob mis.

a picture of St Brides church some of the graveyard is in the shade

Cronfa Ddŵr Tal-y-bont

Mae Cronfa Ddŵr Talybont wedi’i lleoli yn y bryniau uwchben y pentref (croeswch y bont siglo dros y gamlas a dilynwch y ffordd gul i fyny’r bryn). Gallwch gerdded ar draws y wal gronfa enfawr i gyrraedd Llwybr Taf a cherdded ochr yn ochr â’r gronfa. Adeiladwyd y wal gronfa yn y 1930au ac mae wedi bod yn destun gwaith ar raddfa fawr rhwng 2016 a 2023. Mae’r gronfa’n cyflenwi dŵr i gymunedau ar hyd Cwm Wysg hyd at Gasnewydd.

Llwybr Taf

Mae Llwybr Taf, llwybr 55 milltir o Gaerdydd i Aberhonddu, yn pasio trwy Dalybont ar Wysg, gan gynnig golygfeydd hardd o Gamlas Mynwy a Brycheiniog. Mae’r adran hon yn boblogaidd ymhlith cerddwyr a beicwyr, gan ddarparu cymysgedd o lwybrau hawdd a thirweddau mwy heriol. Yn nodedig, uwchben Talybont yn Nhropantŵ, ceir y pwynt uchaf ar y llwybr ar 439 metr uwchben lefel y môr, gan wobrwyo ymwelwyr â golygfeydd syfrdanol o’r dirwedd o’u cwmpas.

Taff Trail

Darganfyddwch Dal-y-bont ar Wysg a’r ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros a bwyta, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau cerdded yn Nhal-y-bont ar Wysg a’r ardal gyfagos.

Pethau i’w Gwneud ym Mannau Brycheiniog (Brecon Beacons)

Penderyn a Hirwaun

Ar gyrion deheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Penderyn a Hirwaun yn cyfuno treftadaeth gyfoethog, antur awyr agored a chroeso Cymreig. Gall ymwelwyr fynd ar daith o amgylch distyllfa wisgi arobryn, darganfod gorffennol diwydiannol yr ardal, mwynhau llwybrau cerdded lleol neu fentro ar wifrau gwib cyffrous Zip World Tower.

Penderyn a Hirwaun

Yn gudd, ond gyda golygfeydd trawiadol o Dde Cymru, mae Mynyddoedd Rhigos yn cynnig anturiaethau amrywiol i bawb. Gall ymwelwyr gerdded, beicio neu wibio ar wifren trwy dirweddau trawiadol wedi’u siapio gan dreftadaeth lofaol gyfoethog. Mae’r pentrefi cyfagos yn darparu llety croesawgar gyda opsiynau bwyta, gan wasanaethu fel pyrth i archwilio’r awyr agored gwych a mynd i mewn i orffennol diwydiannol yr ardal.

a view over Rhingos Mountain

Eglwys Sant Lleurwg

Mae Eglwys Sant Lleurwg, a sefydlwyd ym 1858 yn Hirwaun, wedi’i chysegru’n unigryw i Sant Lleurwg, heb unrhyw eglwys arall yng Nghymru yn rhannu’r nawdd hwn. Yn ystod ei hanes o 155 mlynedd, mae wedi newid yn sylweddol, gan gynnwys gwaith adnewyddu mewnol a ddisodlodd meinciau â chadeiriau i greu lle croesawgar ac addasadwy ar gyfer addoli a digwyddiadau cymunedol. Mae gwasanaethau rheolaidd yn cael eu cynnal ar ddydd Sul a dydd Mercher.

a church St Llleurwgs Church Hirwaun

Distyllfa Penderyn

Fe wnaeth Distyllfa Penderyn, a sefydlwyd yn 2000 ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, adfywio gwneud wisgi Cymreig ar ôl dros ganrif. Mae eu wisgi brag sengl arobryn, fel y Madeira Finish, yn cael eu distyllu gan ddefnyddio Faraday unigryw o hyd, gan gynhyrchu gwirod blasus ar 92% ABV. Fe’i cedwir mewn casgenni-bourbon ar un adeg ac wedi’u gorffen mewn casgenni gwin Madeira, mae wisgi Penderyn yn cael eu hadnabod am eu proffiliau llyfn, cyfoethog. Mae’r ddistyllfa yn croesawu ymwelwyr ar gyfer teithiau a blasu, gan gynnig profiad ymgolli mewn crefftwaith wisgi Cymreig.

Distyllfa Penderyn
a copper whisky still

Darganfyddwch Benderyn, Hirwaun a’r ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros a bwyta, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau cerdded ym Mhenderyn, yn Hirwaun ac yn yr ardal gyfagos.

Pethau i’w Gwneud ym Mannau Brycheiniog (Brecon Beacons)

Digwyddiadau

Peidiwch byth â cholli allan ar y digwyddiadau lleol gorau – tanysgrifiwch i gael diweddariadau misol ar wyliau, marchnadoedd, a phrofiadau arbennig.

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr

Llandeilo

Castell Carreg Cennen

Mae Llandeilo, tref farchnad hardd yn Sir Gaerfyrddin, yn borth i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Wedi’i leoli uwchben Afon Tywi, mae ei dai Sioraidd lliwgar a’i swyn hanesyddol yn ei gwneud yn gyrchfan hanfodol i ymwelwyr.

Llandeilo

Mae Llandeilo, sydd wedi’i leoli ar reilffordd Calon Cymru, yn cynnig cyfuniad o swyn hanesyddol a phrofiadau siopa bywiog i ymwelwyr. Mae gorsaf reilffordd y dref yn cysylltu teithwyr â’r llwybr 121 milltir rhwng Abertawe a’r Amwythig, gan ddarparu golygfeydd prydferth o gefn gwlad Cymru. Y tu hwnt i’w chysylltiadau rheilffordd, mae Llandeilo yn enwog am ei sîn siopa bwtîc. Mae gan y dref amrywiaeth o siopau annibynnol, gan gynnwys bwtîc dillad ffasiynol, labeli dylunwyr, nwyddau cartref o ansawdd uchel, dodrefn pwrpasol, a chrefftau lleol.

a high street view of Llandeilo with poeple sitting at a cafe and walking

Canolfan Treftadaeth a Chymuned Hengwrt

Wedi’i leoli yng nghanol Llandeilo, mae gan Hengwrt orffennol sy’n llawn hanes. Gwasanaethodd fel cyfnewidfa ŷd, llys ynadon, a phencadlys yr heddlu. Yn 2021, cafodd ei hadfywio i fod yn ganolfan dreftadaeth a chymunedol fywiog. Dan reolaeth Menter Dinefwr, mae Hengwrt bellach yn cynnig arddangosfa dreftadaeth, siop gymunedol, a mannau cyfarfod. Gall ymwelwyr ymchwilio i hanes cyfoethog Llandeilo drwy arddangosfeydd rhyngweithiol ac arteffactau lleol, gan ei gwneud yn ganolbwynt diwylliannol i drigolion a thwristiaid.

two poep

Eglwys Teilo Sant

Saif Eglwys Teilo Sant ar safle lle mae addoliad Cristnogol wedi’i gynnal ers bron i bymtheg canrif, gan ddyddio’n ôl i genhadaeth Teilo Sant yn y 6ed ganrif. Mae’r adeilad presennol, a gwblhawyd yn 1850, wedi cadw ei dŵr canoloesol hwyr. Yn nodedig, roedd yr eglwys unwaith yn gartref i Efengylau Llandeilo Fawr, llawysgrif oleuedig o’r 8fed ganrif o werth ysbrydol ac artistig arwyddocaol. Heddiw, gall ymwelwyr archwilio hanes cyfoethog yr eglwys a gweld cynrychioliadau digidol o’r Efengyl.

St Tilos Church through the woods with a graveyard in front

Castell Carreg Cennen

Yn daith fer o Landeilo, mae Castell Carreg Cennen yn enwog am ei leoliad dramatig ar ben clogwyn. Mae adfeilion y castell yn rhoi cipolwg ar Gymru’r Oesoedd Canol, ac mae’r ystafell de ar y safle yn cynnig lle clyd i ymlacio ar ôl archwilio. Maent hefyd yn lleoliad priodas a digwyddiadau, beth am siarad â nhw a chael profiad gwahanol iawn?

Castell Carreg Cennen
a family playing in the grounds of Carreg Cennen Castle

Rheilffordd Calon Cymru

Er ei bod bellach yn llawer mwy modern, mae’r ddelwedd hon o 1959 o orsaf reilffordd Llandeilo, sydd wedi’i lleoli ar Reilffordd Calon Cymru, yn cysylltu cymunedau gwledig rhwng Abertawe a’r Amwythig. Mae’r orsaf weithredol hon yn darparu mynediad i lwybrau cerdded llawn golygfeydd Sir Gaerfyrddin, gan ddenu ymwelwyr sy’n chwilio am olygfeydd hardd a thirwedd heriol. Mae’r llinell hefyd yn gwasanaethu mannau nodedig eraill, gan gynnwys Llanymddyfri, Llangadog, a Llandybie, gan feithrin cysylltedd rhanbarthol a thwristiaeth.

Rheilffordd Calon Cymru
a black and white picture of Llandeilo train station

Ffordd y Bannau

Mae Llandeilo, ger Ffordd y Bannau, yn ganolfan gyfleus i gerddwyr sy’n archwilio’r llwybr cerdded hir hwn. Yn aml, mae darparwyr llety lleol yn cynnig gwasanaethau fel cludiant i ac oddi ar fannau penodol er mwyn hwyluso mynediad di-dor i’r llwybr. Mae’r cyfleusterau hyn yn gwella’r profiad heicio, gan ganiatáu i ymwelwyr ymgolli’n llawn yn harddwch golygfeydd yr ardal. Gweler ein darparwyr llety isod, mae llawer yn cynnig y gwasanaethau hyn.

Ffordd y Bannau
a beacons way signpost in blue and white

Darganfyddwch Landeilo a’r ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros a bwyta, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau cerdded yn Llandeilo a’r ardal gyfagos.

Pethau i’w Gwneud ym Mannau Brycheiniog (Brecon Beacons)

Digwyddiadau

Peidiwch byth â cholli allan ar y digwyddiadau lleol gorau – tanysgrifiwch i gael diweddariadau misol ar wyliau, marchnadoedd, a phrofiadau arbennig.

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr

Crug Hywel

Crickhowell High Street

Mae Crug Hywel yn dref farchnad hanesyddol yn Nyffryn Wysg, ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gyda stryd fawr annibynnol, adeiladau hanesyddol, teithiau ar hyd yr afon a mynediad hawdd i dde Mynyddoedd Duon, mae’n lle gwerth chweil i ymweld ag ef ac yn ganolfan groesawgar ar gyfer archwilio’r ardal gyfagos.

Crug Hywel

Mae llawer o ffyrdd yn arwain at ‘Crick’, fel ei gelwir yn lleol gan ei bod yn sefyll ar groesfan hanesyddol dros Afon Wysg, a nodi gan bont wych o’r 17eg ganrif. Mae tref Crughywel yn gyrchfan ynddo’i hun ac mae’n gwneud lleoliad wych ar gyfer archwilio’r Mynyddoedd Du deheuol a’r ardal gyfagos. Yn gorwedd wrth droed Crug Hywel, bryngaer drawiadol o’r Oes Haearn mae’r dref Sioraidd hon yn fan poblogaidd i’w archwilio ac i aros. Llun © Visit Crickhowell

an ariel view over Crickhowell with the bridge in the foreground

CRiC – Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crug Hywel

CRiC yw’r ganolfan wybodaeth leol ar gyfer Crug Hywel a’r ardal gyfagos. Galwch heibio i gael mapiau cerdded, gwybodaeth leol, anrhegion ac awgrymiadau ar gyfer archwilio’r dref a’r wlad o’i chwmpas.

Mae’r ganolfan hefyd yn cynnwys caffi sy’n gweini coffi Black Mountains a chacennau cartref, tra bod Oriel CRiC yn cynnal arddangosfeydd cyfnewidiol gan artistiaid o’r rhanbarth a thu hwnt.

Ewch i wefan CRiC i gael gwybodaeth am yr oriau agor, yr arddangosfeydd a’r wybodaeth ddiweddaraf i ymwelwyr.

The CRiC (Crickhowell Resource and Information Centre)
the exterior of Crickhowell Tourist Office

Eglwys Sant Edmund

Mae Eglwys Sant Edmwnd yn un o adeiladau hanesyddol mwyaf nodedig Crug Hywel. Mae’r eglwys restredig Gradd II* hon, a sefydlwyd ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg, yn cynnwys meindwr trawiadol wedi’i orchuddio â chlogyn pren, cynllun croesffurf canoloesol a chofebau sy’n gysylltiedig â theulu Pauncefote.

Mae’n rhan bwysig o gymeriad hanesyddol Crug Hywel a gellir ei chynnwys wrth grwydro’r dref ar droed.

a church in the centre of Crickhowell

Castell Crug Hywel

Saif Castell Crug Hywel, a elwir hefyd yn Gastell Alisby, ym Mharc y Castell yn agos at ganol y dref. Cafodd y castell mwnt a beili Normanaidd gwreiddiol ei atgyfnerthu â cherrig yn ddiweddarach, ac mae’r olion sydd wedi goroesi yn cynnwys y mwnt a rhannau o borthdy â dau dŵr.

Ymosodwyd ar y castell a chafodd ei ddinistrio i raddau helaeth yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddechrau’r bymthegfed ganrif. Heddiw, mae’r adfeilion mewn parc cyhoeddus bach gydag arwyddion gwybodaeth, golygfeydd dros y dref ac ardal chwarae i blant gerllaw. Mae mynediad am ddim, felly mae’n hawdd cynnwys ymweliad wrth fynd am dro o amgylch Crug Hywel.

Cyfeirnod grid: SO 21750 18250

Ruins of Crickhowell Castle’s twin-towered gatehouse in Castle Park

Gŵyl Gerdded Crickhowell

Bob mis Mawrth, mae Gŵyl Gerdded Crickhowell yn dod â phobl ynghyd i archwilio’r bryniau, y dyffrynnoedd a’r tirweddau hanesyddol o amgylch y dref. Mae’r rhaglen yn cynnwys teithiau ar gyfer gwahanol ddiddordebau a galluoedd, gan gynnig cyfle i ddarganfod yr ardal gyda thywyswyr lleol a cherddwyr eraill.

Mae’r ŵyl yn adlewyrchu diwylliant cerdded cryf Crug Hywel, gyda chaffis, tafarndai a llefydd i aros yn y dref yn ganolfannau naturiol cyn ac ar ôl diwrnod yn yr awyr agored.

on the side of Mynydd Troed looking across to Llangorse lake

Darganfyddwch Grug Hywel a’r ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros a bwyta, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau cerdded yng Nghrug Hywel a’r ardal gyfagos.

Pethau i’w Gwneud ym Mannau Brycheiniog (Brecon Beacons)

Digwyddiadau

Peidiwch byth â cholli allan ar y digwyddiadau lleol gorau – tanysgrifiwch i gael diweddariadau misol ar wyliau, marchnadoedd, a phrofiadau arbennig.

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr

Mae Blaenafon yn dref hanesyddol. Mae ei statws fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn cydnabod ei rôl wrth gynhyrchu glo a haearn yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Mae Blaenavon Cheese Company wedi’i leoli yma hefyd, felly mae’n werth aros i brynu cyflenwadau.

Am Flaenafon

Cydnabyddir Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO am ei chyfraniad eithriadol i’r Chwyldro Diwydiannol. Wrth ei chalon mae Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, lle gall ymwelwyr fynd o dan y ddaear i brofi bywyd glöwr. Mae’r dref hefyd yn gartref i Waith Haearn Blaenafon, tramffyrdd hanesyddol a chyfoeth o lwybrau treftadaeth sy’n cyflwyno ei gorffennol hynod ddiddorol. Mae’r prif atyniadau, gan gynnwys Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Gwaith Haearn Blaenafon, Canolfan Treftadaeth y Byd a Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon, i gyd o fewn ychydig funudau mewn car i’w gilydd.

Ewch i Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon

Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yw’r lle gorau i ddechrau, gan gynnig trosolwg o’r arddangosfeydd a’r teithiau, ynghyd â gwybodaeth i ymwelwyr.

Blaenavon World Heritage Centre and Visitor Information

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru

Mae Big Pit yn cynnig arddangosfeydd a’r cyfle i wisgo helmed glöwr a mynd o dan y ddaear. Mae’r atyniad poblogaidd hwn yn uchel ei barch am reswm da.

Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Ymwelwyr mewn helmedau a lampau pen yn ystod ymweliad tanddaearol â Big Pit.

Oeddech chi’n gwybod…

Un o ffeithiau llai adnabyddus Blaenafon yw Twnnel Pwll Du, a adeiladwyd ar ddechrau’r 19eg ganrif. Yn mesur tua 1,875 metr, hwn oedd y twnnel tramffordd hiraf ym Mhrydain a weithredid gan geffylau. Roedd y twnnel yn hollbwysig i gludo calchfaen o chwareli Pwll Du a Tyla i Waith Haearn Blaenafon, ac i gludo haearn crai i Efail Garnddyrys. Heddiw, mae’r twnnel yn heneb gofrestredig ac yn rhan o Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Pwll Du tunnel entrance overgrown

Neuadd y Gweithwyr Blaenafon

Mae Neuadd y Gweithwyr Blaenafon, sy’n enghraifft nodedig o sefydliad glowyr y Cymoedd, wedi’i hadnewyddu i fod yn ganolfan bwysig ar gyfer diwylliant a’r celfyddydau yng Nghymoedd Gwent. Mae ganddi awditoriwm 400 sedd gyda balconi a llwyfan llawn, sinema 80 sedd, ystafell snwcer, bar ac ystafelloedd cyfarfod. Mae’r Neuadd yn gwbl weithredol ac yn cynnal perfformiadau theatr, dangosiadau ffilm, cyfarfodydd a rhagor.

Blaenavon Workman's Hall and war memorial in black and white

Darganfyddwch Flaenafon a’r ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros a bwyta, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau cerdded ym Mlaenafon a’r ardal gyfagos.

Pethau i’w Gwneud

Digwyddiadau

Peidiwch byth â cholli allan ar y digwyddiadau lleol gorau – tanysgrifiwch i gael diweddariadau misol ar wyliau, marchnadoedd, a phrofiadau arbennig.

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr

Mae cymuned Talgarth yn gartref i felin ddŵr weithredol a chaffi. Mae’r dref farchnad brydferth hon wedi’i lleoli o dan y Mynydd Du yn rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (y Brecon Beacons).

Ynglŷn â Talgarth

Mae Talgarth yn dref farchnad hyfryd yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (y Brecon Beacons). Wedi’i lleoli wrth droed y Mynydd Du (the Black Mountains), mae’n fan croesawgar i ymwelwyr sy’n chwilio am hanes, natur a chymuned. Mae Melin Talgarth, sydd wedi’i hadfer yn llawn, yn ganolbwynt y dref – gallwch weld y peiriannau’n malu blawd gyda’r olwyn ddŵr enfawr, ac mae’r caffi a’r becws yn boblogaidd iawn (argymhellir archebu lle ymlaen llaw). Bydd cariadon natur wrth eu bodd â’r daith gerdded i Warchodfa Natur Pwll-y-Wrach a’r ardal wledig o’i chwmpas – dilynwch yr arwyddion o’r pentref i gerdded i fyny’r bryn (mae’r maes parcio’n fach iawn). Ceir tafarndai clyd, cymuned groesawgar, a chalendr llawn o ddigwyddiadau lleol drwy gydol y flwyddyn.

Canolfan Ymwelwyr Talgarth

Manteisiwch ar wybodaeth leol a darganfyddwch ble i gerdded, siopa ac aros.

Talgarth Visitor Centre

Eglwys Santes Gwendolyn

Mae Eglwys Santes Gwendolyn yn Nhalgarth, Powys, yn dyddio’n ôl i tua 1400. Cafodd yi tŵr ei ychwanegu yn y 15fed ganrif. Credir yn draddodiadol bod yr eglwys yn meddiannu safle claddu Santes Gwendolyn, un o ddisgynyddion y Brenin, Brychan Brycheiniog o’r 5ed ganrif. Mae’n gartref i feddrod Hywel Harris, ffigwr amlwg yn adfywiad Methodistaidd Cymreig y 18fed ganrif. Cafodd yr Eglwys ei hadnewyddu yn 1873.

an old church and graveyard

Melin Talgarth

Yr unig felin ddŵr weithredol yn y Parc Cenedlaethol – ac yn werth ymweld â hi. Gallwch fynd ar daith dywys a gweld y blawd yn cael ei gynhyrchu, ac mae modd prynu’r blawd yn y siop anrhegion.
Ewch i’r becws a’r caffi hyfryd ar y safle. Gerddi tawel y tu ôl i’r adeilad lle gallwch eistedd a mwynhau’r natur.

A springtime view of the waterwheel at Talgarth Mill, seen from upstream through dappled shade

Clwb Gleidio’r Mynydd Du

Ar agor 7 diwrnod yr wythnos ac yn hedfan pan fo’r tywydd yn caniatáu, mae’r clwb gleidio hwn yn cynnig profiad unigryw o hedfan dros y Mynydd Du a’i weld o’r awyr.

Clwb Gleidio’r Mynyddoedd Duon
der flying above Talgarth and the Black Mountains

Darganfyddwch Dalgarth a’r ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros a bwyta, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau cerdded yn Nhalgarth a’r ardal gyfagos.

Pethau i’w Gwneud

Digwyddiadau

Peidiwch byth â cholli allan ar y digwyddiadau lleol gorau – tanysgrifiwch i gael diweddariadau misol ar wyliau, marchnadoedd, a phrofiadau arbennig.

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr