Croeso i The Plough Rhosmaen, Gwesty

Mae The Plough Rhosmaen yn westy ychydig y tu allan i Landeilo yn Nyffryn Tywi, gyda 23 o ystafelloedd gwely en-suite a golygfeydd tuag at Fannau Brycheiniog. Mae dewis o ystafelloedd Classic, Superior ac Executive, yn ogystal ag opsiynau i deuluoedd a fflat tair ystafell wely i westeion sydd angen mwy o le.

Mae Wi-Fi am ddim a setiau teledu clyfar yn yr ystafelloedd, a gall gwesteion ddefnyddio campfa a sawna’r gwesty. Mae brecwast Cymreig wedi’i goginio ar gael, ac mae’r bwyty yn gweini prydau tymhorol, cinio dydd Sul a the prynhawn. Mae Parc Dinefwr a Chastell Carreg Cennen ymhlith y lleoedd i’w harchwilio gerllaw.

Mae rhai ystafelloedd gwely yn croesawu anifeiliaid anwes drwy drefniant ymlaen llaw, ac mae croeso i gŵn yn y bar, y lolfa a’r tu allan hefyd. Mae gan y gwesty ystafelloedd ar y llawr gwaelod, gan gynnwys ystafell wedi’i haddasu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn, a phrif fynedfa heb risiau. Darllenwch y datganiad mynediad a chysylltwch â’r dderbynfa i drafod eich gofynion cyn archebu. Mae parcio a gwefru ceir trydan ar gael; holwch y gwesty am y trefniadau a’r taliadau presennol.

Show more

The Plough Rhosmaen, Llandeilo, Sir Gaerfyrddin, SA19 6NP


Ystafell â dau wely sengl yn edrych dros Ddyffryn Tywi yn The Plough Rhosmaen ger Llandeilo.

Amenities

  1. I'r Teulu
  2. Wi-fi
  1. Maes Parcio ar y Safle

Llety tebyg

Darganfyddwch fwy o westai ar gyfer eich arhosiad ym Mannau Brycheiniog.

Pob lle i aros
Ystafell wely deulu gyda gwely dwbl a gwelyau bync yn The Plough Rhosmaen ger Llandeilo.

How to book

Archebwch eich arhosiad yn uniongyrchol gyda The Plough Rhosmaen, neu cysylltwch â thîm y gwesty i gael cyngor am ystafelloedd, anifeiliaid anwes a hygyrchedd.

Archwiliwch yr ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros, lleoedd i fwyta, atyniadau, gweithgareddau a theithiau cerdded yn yr ardal gyfagos.

Pob peth i’w wneud