Llanymddyfri
Yn swatio ar gyrion gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Llanymddyfri yn dref farchnad swynol yn Sir Gaerfyrddin. Wedi’i lleoli ar gymer ffyrdd yr A40 a’r A483 ac ar lannau Afon Tywi, mae’n borth i dirweddau syfrdanol Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria.
Llanymddyfri
Mae hanes cyfoethog Llanymddyfri yn cael ei arddangos gan adfeilion Castell Llanymddyfri sydd yn cynnig golygfeydd panoramig o’r dref a chefn gwlad. Mae’r dref yn anrhydeddu gorffennol y porthmyn â cherflun trawiadol o Llywelyn ap Gruffydd Fychan. Gerllaw, mae Canolfan Gymunedol ac Ymwelwyr Myddfai lle cewch ddysgu am hanesion Meddygon Myddfai, gan gyfuno hanes â chwedl

Mae Porth Amgueddfa ac Ymwelwyr Llanymddyfr
Mae Porth Amgueddfa ac Ymwelwyr Llanymddyfri, sydd wedi’i leoli yn Y Gannwyll, yn ganolbwynt ar gyfer hanes lleol. Mae’n tynnu sylw at enwogion fel Williams Pantycelyn a Twm Siôn Cati ac yn archwilio cysylltiadau â meddygon Myddfai. Mae’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac ar agor o Ddydd Mawrth i Ddydd Sadwrn rhwng 11am a 2 pm. Mae cymorth achyddol ar gael ambell ddiwrnod. Ymweliad hollbwysig ar gyfer y sawl sydd am wybod rhagor am orffennol Llanymddyfri.

Eglwys Sant Dingat
Eglwys Blwyf Anglicanaidd, Gradd II* Rhestredig yw Eglwys Sant Dingat yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Yn dyddio o’r 14eg ganrif, mae’n cynnwys tŵr gorllewinol nodedig a phensaernïaeth ganoloesol. Mae’r Eglwys wedi cael ei hadfer a gwnaethpwyd gwaith helaeth yn y 19eg ganrif ac ar ddechrau’r 20ed ganrif. Mae’n parhau i fod yn dirnod hanesyddol, amlwg yn y dref.

Dewch yn Egnïol
I’r sawl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored, mae Llanymddyfri yn hafan. Mae’r ardaloedd cyfagos yn cynnig llu o weithgareddau, o heicio a beicio i bysgota a chanŵio. Mae Coedwig Crychan yn darparu llwybrau i gerddwyr, beicwyr a marchogion, tra bod Cronfa Ddŵr Llyn Brianne gerllaw yn cynnig golygfeydd a chyfleoedd trawiadol i anturio.

Beth Sy’n Digwydd yn Llanymddyfri
Mae’r dref yn ffynnu a cheir yma ysbryd cymunedol, bywiog. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau blynyddol fel Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri a Phenwythnos Beiciau Modur Llanymddyfri, sy’n denu ymwelwyr o bell ac agos. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys canolfan hamdden fodern, Ysgol Gynradd a Choleg enwog, Llanymddyfri sy’n adnabyddus am ei gyfraniad i rygbi Cymru. Mae’r Clwb Rygbi lleol; Clwb Rygbi Llanymddyfri a elwir yn annwyl yn “The Drovers,” / “Y Portmyn” yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru, gan danlinellu traddodiadau rygbi arbennig y dref.
Beth Sy’n Digwydd yn Llanymddyfri
Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau
Llangorse
Mae Llan-gors yn bentref prysur ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ac mae’n fwyaf adnabyddus am ei lyn syfrdanol—llyn naturiol mwyaf De Cymru. Wedi’i amgylchynu gan fryniau, mae’n cynnig encil heddychlon gyda chyfleoedd i gerdded, i ficio ac i wylio bywyd gwyllt rhagorol. Mae’r pentref yn frith o hanes, gydag olion crannog hynafol gerllaw a chysylltiadau â chwedlau Cymreig.
Llangorse
Mae pentref Llangors wedi’i leoli ychydig uwchlaw’r llyn naturiol mwyaf yng Nghymru. Ceir siop gymunedol ffyniannus a chaffi cyfeillgar sy’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr (ger y neuadd bentref). Ceir dau dafarn a chysegr eglwysig hefyd.
Y tu allan i’r pentref, fe welwch Ganolfan Aml-weithgareddau Llangors gyda waliau dringo dan do (a chaffi) os yw’r tywydd yn anfodlon. Dilynwch y ffordd tuag at Aberhonddu a throwch i’r chwith ar ôl yr ysgol i gyrraedd ymyl y Llyn a gweld y Crannog efelychiadol. Gallwch logi cychod i fynd allan ar y llyn neu brynu trwydded bysgota yn siop y Llyn

The Crannog
Ymweld â’r Crannog efelychiadol
Roedd Crannogau yn ynysod a grëwyd gan bobl lle’r oeddent yn byw hyd at Oes y Canol. Mae gweddillion y Crannog gwreiddiol i’w gweld mewn man arall ar Lyn Syfaddan – yr unig un o’i fath a ddarganfuwyd yng Nghymru neu Loegr, er bod eraill wedi’u canfod yn yr Alban ac Iwerddon. Mae’r efelychiad yn cynnwys arddangosfa fechan sy’n esbonio ei hanes. Caiff mynediad i’r Crannog ei gloi yn y nos ac yn ystod cyfnodau o lifogydd.

St Paulinus Church
Mae Eglwys Sant Paulinus yn Llangors yn adeilad rhestredig Gradd II* ac mae iddo hanes cyfoethog. Mae’r strwythur presennol yn dyddio’n ôl i’r 15fed ganrif, er bod cofnodion yn nodi bod eglwys wedi bodoli ar y safle hwn mor gynnar â 1121. Yn nodedig, mae’r eglwys yn gartref i fedyddfaen sydd wedi ei ddyddio i tua 1300, sy’n tanlinellu ei gwreiddiau canoloesol. Mae’r eglwys yn rhan o Ardal Weinidogaeth y Mynyddoedd Du o fewn Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Gall ymwelwyr grwydro drwy’r arddangosfeydd amrywiol sy’n manylu ar hanes lleol yn ystod ei oriau agor: dydd Sadwrn o 10am tan 4pm a dydd Sul o 10am i 12pm

Canolfan Aml Weithgaredd Llan-gors
Dyma gartref yr unig ganolfan ddringo lle gallwch ddringo ar galchfaen go iawn tra byddwch dan do. Cyfeirir ato’n gariadus fel y pwll… meiddiwch chi ymaflyd â’r rhaffau, y creigiau a’r waliau?
Adventures at Llangorse Multi Activity Centre
Siop gymunedol Llan-gors
Mae Siop Gymunedol Llan-gors, a sefydlwyd ym mis Tachwedd 2021, yn gwasanaethu’r pentrefi o amgylch Llyn Syfaddan. Mae’n siop ecogyfeillgar sy’n gwerthu pethau bob dydd yn ogystal â bod yn siop goffi. Wedi’i staffio gan reolwyr a gwirfoddolwyr, mae’n cynnig amrywiaeth o gynhyrchion a lle croesawgar i bobl o bob oed.

Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau
Sennybridge a Defynnog
Yng nghesail Bannau Brycheiniog, mae cymunedau Pontsenni a Defynnog yn cynnig mwy na chroeso—maent yn rhannu cynhesrwydd sydd wedi’i blethu i’r tir ei hun.
Sennybridge | Pontsenni
Mae Pontsenni, sy’n swatio yn y man lle mae Afon Senni yn cwrdd ag Afon Wysg, yn cynnig cyfuniad o harddwch naturiol a hanes cyfoethog. Mae’r pentref yn cynnal marchnadoedd da byw rheolaidd, bob dydd Sadwrn. I gael y wybodaeth ddiweddaraf a dyddiadau gwerthu sydd ar ddod, fe’ch cynghorir i edrych ar dudalen Facebook Clee Tompkinson & Francis – Marchnad Pontsenni. Cynhelir sioe amaethyddol flynyddol bob mis Medi yn Nghae Dickson.

Dydd Da Mas Abowt
Dewch i gyfarfod Maverick a Goose, ein hasynnod bychain bach, sy’n barod i fynd ar deithiau cerdded digynnwrf ac i chwarae gemau ystwythder. Mae’r profiadau hyn yn well ar gyfer plant hŷn oherwydd mae’n hawdd rhoi braw i’n cyfeillion bach tynner. Cofiwch archebu lle o flaen llaw.
Good Day Out, Animal Experiences
Marchogaeth Defaid Jacob
Mae’n bosib merlota defaid hefyd. Mae Nicola a’i theulu yn agor eu fferm i ymwelwyr er mwyn i bawb gael y profiad o fod yn agos at yr anifeiliaid. Mae angen archebu lle ymlaen llaw gan fod lles yr anifeiliaid yn hollbwysig.

Defynnog
Mae Defynnog yn bentref llai, yn agos i Bontsenni. Mae’n enwog am Ywen Defynnog y credir ei bod dros 3,000 o flynyddoedd oed, ac y credir ei bod yn un o’r coed hynaf yn Ewrop .Mae’r ywen ar dir eglwys, Sant Cynog. Mae Eglwys Sant Cynog yn eglwys blwyf hanesyddol sy’n dyddio’n ôl i’r 11eg ganrif, a adeiladwyd o bosibl ar safle teml gynharach. Mae’r strwythur presennol yn dyddio’n bennaf o’r 15fed ganrif ac mae’n cynnwys arddull bensaernïol Gothig Perpendicwlar. Mae elfennau mewnol nodedig yn cynnwys carreg fedd Rufeinig o’r 5ed ganrif gydag arysgrifau Lladin ac Ogam a ffont wedi’i harysgrifio â llythrennau Runic, sy’n unigryw yng Nghymru.

Ywen Defynnog
Mae Ywen Defynnog ymhlith coed hynaf Prydain. Mae amcangyfrifon o’i oedran yn amrywio, gyda rhai yn awgrymu ei fod dros 5,000 oed, tra bod asesiadau mwy ceidwadol yn ei osod rhwng 2,000 a 3,000 o flynyddoedd oed. Mae’r goeden yn cynnwys naw coesyn gwahanol yn dod allan o waelod gyda chylchedd o tua 11 metr (36 troedfedd). Mae ei ganopi eang yn cynnal ystod amrywiol o epiffytau, gan gynnwys rhedyn, mwsoglau, llysiau’r afu, a chennau. Mae Ywen Defynnog yn rhagddyddio Eglwys Sant Cynog o’r 15fed ganrif gerllaw, gan amlygu ei harwyddocâd fel cofeb fyw i dreftadaeth naturiol hynafol yr ardal.

Canolfan Ryngwladol Welsh Rarebit
Gan gynnig croeso cynnes i lawer, mae’r International Welsh Rarebit Centre yn dathlu’r pryd bwyd Gymreig o’r un enw mewn steil. Yma, mae traddodiad yn cwrdd â chreadigedd, gyda bwydlen yn cynnig blasau clasurol a dychmygus o Welsh Rarebit, ynghyd â chawliau tymhorol, saladau bywiog, a phrydau dyddiol arbennig wedi’u curadu’n ofalus. Wedi’i leoli yn adeilad swynol yr Hen Ysgol yn Nefynnog, mae’r caffi clyd hwn yn hafan i bobl sy’n hoff o fwyd sy’n chwilio am wir flas o Gymru. Os ydych ar ôl cegiad cysurus neu antur coginio, mae’n rhaid ymweld â hi. Am ragor o fanylion, gan gynnwys oriau agor, edrychwch ar eu tudalen Facebook.
International Welsh Rarebit Centre
Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau
Talybont-on-Usk
Mae Talybont ar Wysg, sydd wedi’i leoli ym Mhowys, Cymru, yn bentref prydferth sy’n gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Wedi’i leoli ochr yn ochr â Chamlas Mynwy a Brycheiniog ac yn agos at Afon Wysg, mae’n cynnig cymysgedd o harddwch naturiol a hanes cyfoethog
Talybont-on-Usk community
Mae gan Dalybont ar Wysg gymuned leol fywiog. Mae neuadd y pentref yn cynnig maes parcio gyda chargio ceir trydan, toiledau a man golchi beiciau gan ddefnyddio dŵr glaw wedi’i storio – cefnogwch nhw trwy roi cyfraniad bach am eich parcio. Mae’r tafarndai a’r caffi/swyddfa bost yn boblogaidd ac yn brysur gyda thrigolion a gwesteion fel ei gilydd.
Mae’r cynllun hydro cymunedol cyntaf yng Nghymru wedi’i leoli ar y gronfa ddŵr yn y bryniau uwchben y pentref ac yn cynhyrchu incwm ar gyfer prosiectau cymunedol.
Mae’r pentref mewn safle delfrydol i gerddwyr a beicwyr ac yn stop poblogaidd i’r cychod sy’n teithio ar hyd Camlas Mynwy a Brycheiniog.

Eglwys Sain Ffraid, Llansanffraed
Saif Eglwys Sain Ffraid, a elwir hefyd yn Sain Ffraid Sant, yn Llansanffraed ger Talybont ar Wysg. Mae’r eglwys wreiddiol yn dyddio’n ôl i’r 9fed ganrif, gyda gwaith ailadeiladu sylweddol ym 1690 ac ailadeiladu llwyr rhwng 1884 a 1885, wedi’i ariannu gan Mr J.P. Holford o Dŷ Buckland. Yn nodedig, mae mynwent yr eglwys yn feddrod olaf y bardd metaffisegol mawr Henry Vaughan, a fu farw ym 1695. Cynhelir gwasanaethau ar drydydd Sul bob mis.

Talybont Reservoir
Mae Cronfa Ddŵr Talybont wedi’i lleoli yn y bryniau uwchben y pentref (croeswch y bont siglo dros y gamlas a dilynwch y ffordd gul i fyny’r bryn). Gallwch gerdded ar draws y wal gronfa enfawr i gyrraedd Llwybr Taf a cherdded ochr yn ochr â’r gronfa. Adeiladwyd y wal gronfa yn y 1930au ac mae wedi bod yn destun gwaith ar raddfa fawr rhwng 2016 a 2023. Mae’r gronfa’n cyflenwi dŵr i gymunedau ar hyd Cwm Wysg hyd at Gasnewydd.

Llwybr Taf
Mae Llwybr Taf, llwybr 55 milltir o Gaerdydd i Aberhonddu, yn pasio trwy Dalybont ar Wysg, gan gynnig golygfeydd hardd o Gamlas Mynwy a Brycheiniog. Mae’r adran hon yn boblogaidd ymhlith cerddwyr a beicwyr, gan ddarparu cymysgedd o lwybrau hawdd a thirweddau mwy heriol. Yn nodedig, uwchben Talybont yn Nhropantŵ, ceir y pwynt uchaf ar y llwybr ar 439 metr uwchben lefel y môr, gan wobrwyo ymwelwyr â golygfeydd syfrdanol o’r dirwedd o’u cwmpas.
Taff Trail
Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau
Penderyn a Hirwaun
Yn swatio yn rhan ddeheuol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae pentrefi cyfagos Penderyn a Hirwaun yn cynnig cyfuniad o dreftadaeth gyfoethog, anturiaethau gwefreiddiol a lletygarwch cynnes Cymreig i ymwelwyr. O wisgi arobryn i esgyn drwy’r awyr ar wifrau zip cyffrous, mae’r cymunedau hyn yn cynnig amrywiaeth o brofiadau i bawb sy’n mentro yma.
Penderyn a Hirwaun
Yn gudd, ond gyda golygfeydd trawiadol o Dde Cymru, mae Mynyddoedd Rhigos yn cynnig anturiaethau amrywiol i bawb. Gall ymwelwyr gerdded, beicio neu wibio ar wifren trwy dirweddau trawiadol wedi’u siapio gan dreftadaeth lofaol gyfoethog. Mae’r pentrefi cyfagos yn darparu llety croesawgar gyda opsiynau bwyta, gan wasanaethu fel pyrth i archwilio’r awyr agored gwych a mynd i mewn i orffennol diwydiannol yr ardal.

Eglwys Sant Lleurwg
Mae Eglwys Sant Lleurwg, a sefydlwyd ym 1858 yn Hirwaun, wedi’i chysegru’n unigryw i Sant Lleurwg, heb unrhyw eglwys arall yng Nghymru yn rhannu’r nawdd hwn. Yn ystod ei hanes o 155 mlynedd, mae wedi newid yn sylweddol, gan gynnwys gwaith adnewyddu mewnol a ddisodlodd meinciau â chadeiriau i greu lle croesawgar ac addasadwy ar gyfer addoli a digwyddiadau cymunedol. Mae gwasanaethau rheolaidd yn cael eu cynnal ar ddydd Sul a dydd Mercher.

Distyllfa Penderyn
Fe wnaeth Distyllfa Penderyn, a sefydlwyd yn 2000 ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, adfywio gwneud wisgi Cymreig ar ôl dros ganrif. Mae eu wisgi brag sengl arobryn, fel y Madeira Finish, yn cael eu distyllu gan ddefnyddio Faraday unigryw o hyd, gan gynhyrchu gwirod blasus ar 92% ABV. Fe’i cedwir mewn casgenni-bourbon ar un adeg ac wedi’u gorffen mewn casgenni gwin Madeira, mae wisgi Penderyn yn cael eu hadnabod am eu proffiliau llyfn, cyfoethog. Mae’r ddistyllfa yn croesawu ymwelwyr ar gyfer teithiau a blasu, gan gynnig profiad ymgolli mewn crefftwaith wisgi Cymreig.
Penderyn Distillery
Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau
Llandeilo
Mae Llandeilo, tref farchnad hardd yn Sir Gaerfyrddin, yn borth i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Wedi’i leoli uwchben Afon Tywi, mae ei dai Sioraidd lliwgar a’i swyn hanesyddol yn ei gwneud yn gyrchfan hanfodol i ymwelwyr.
Llandeilo
Mae Llandeilo, sydd wedi’i leoli ar reilffordd Calon Cymru, yn cynnig cyfuniad o swyn hanesyddol a phrofiadau siopa bywiog i ymwelwyr. Mae gorsaf reilffordd y dref yn cysylltu teithwyr â’r llwybr 121 milltir rhwng Abertawe a’r Amwythig, gan ddarparu golygfeydd prydferth o gefn gwlad Cymru. Y tu hwnt i’w chysylltiadau rheilffordd, mae Llandeilo yn enwog am ei sîn siopa bwtîc. Mae gan y dref amrywiaeth o siopau annibynnol, gan gynnwys bwtîc dillad ffasiynol, labeli dylunwyr, nwyddau cartref o ansawdd uchel, dodrefn pwrpasol, a chrefftau lleol.

Canolfan Treftadaeth a Chymuned Hengwrt
Wedi’i leoli yng nghanol Llandeilo, mae gan Hengwrt orffennol sy’n llawn hanes. Gwasanaethodd fel cyfnewidfa ŷd, llys ynadon, a phencadlys yr heddlu. Yn 2021, cafodd ei hadfywio i fod yn ganolfan dreftadaeth a chymunedol fywiog. Dan reolaeth Menter Dinefwr, mae Hengwrt bellach yn cynnig arddangosfa dreftadaeth, siop gymunedol, a mannau cyfarfod. Gall ymwelwyr ymchwilio i hanes cyfoethog Llandeilo drwy arddangosfeydd rhyngweithiol ac arteffactau lleol, gan ei gwneud yn ganolbwynt diwylliannol i drigolion a thwristiaid.

Eglwys Teilo Sant
Saif Eglwys Teilo Sant ar safle lle mae addoliad Cristnogol wedi’i gynnal ers bron i bymtheg canrif, gan ddyddio’n ôl i genhadaeth Teilo Sant yn y 6ed ganrif. Mae’r adeilad presennol, a gwblhawyd yn 1850, wedi cadw ei dŵr canoloesol hwyr. Yn nodedig, roedd yr eglwys unwaith yn gartref i Efengylau Llandeilo Fawr, llawysgrif oleuedig o’r 8fed ganrif o werth ysbrydol ac artistig arwyddocaol. Heddiw, gall ymwelwyr archwilio hanes cyfoethog yr eglwys a gweld cynrychioliadau digidol o’r Efengyl.

Castell Carreg Cennen
Yn daith fer o Landeilo, mae Castell Carreg Cennen yn enwog am ei leoliad dramatig ar ben clogwyn. Mae adfeilion y castell yn rhoi cipolwg ar Gymru’r Oesoedd Canol, ac mae’r ystafell de ar y safle yn cynnig lle clyd i ymlacio ar ôl archwilio. Maent hefyd yn lleoliad priodas a digwyddiadau, beth am siarad â nhw a chael profiad gwahanol iawn?
Carreg Cennen Castle
Rheilffordd Calon Cymru
Er ei bod bellach yn llawer mwy modern, mae’r ddelwedd hon o 1959 o orsaf reilffordd Llandeilo, sydd wedi’i lleoli ar Reilffordd Calon Cymru, yn cysylltu cymunedau gwledig rhwng Abertawe a’r Amwythig. Mae’r orsaf weithredol hon yn darparu mynediad i lwybrau cerdded llawn golygfeydd Sir Gaerfyrddin, gan ddenu ymwelwyr sy’n chwilio am olygfeydd hardd a thirwedd heriol. Mae’r llinell hefyd yn gwasanaethu mannau nodedig eraill, gan gynnwys Llanymddyfri, Llangadog, a Llandybie, gan feithrin cysylltedd rhanbarthol a thwristiaeth.
Haert of Wales Railway Line
Ffordd y Bannau
Mae Llandeilo, ger Ffordd y Bannau, yn ganolfan gyfleus i gerddwyr sy’n archwilio’r llwybr cerdded hir hwn. Yn aml, mae darparwyr llety lleol yn cynnig gwasanaethau fel cludiant i ac oddi ar fannau penodol er mwyn hwyluso mynediad di-dor i’r llwybr. Mae’r cyfleusterau hyn yn gwella’r profiad heicio, gan ganiatáu i ymwelwyr ymgolli’n llawn yn harddwch golygfeydd yr ardal. Gweler ein darparwyr llety isod, mae llawer yn cynnig y gwasanaethau hyn.
Ffordd y Bannau
Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau
Crughywel
Mae Crughywel, tref brydferth sy’n swatio yn Nyffryn Wysg o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn cynnig cyfuniad o swyn hanesyddol a harddwch naturiol i ymwelwyr. Mae’r dref yn adnabyddus am ei busnesau annibynnol ffyniannus a’i hysbryd cymunedol, ac mae’n rhoi croeso cynnes i bawb.
Crickhowell
Mae llawer o ffyrdd yn arwain at ‘Crick’, fel ei gelwir yn lleol gan ei bod yn sefyll ar groesfan hanesyddol dros Afon Wysg, a nodi gan bont wych o’r 17eg ganrif. Mae tref Crughywel yn gyrchfan ynddo’i hun ac mae’n gwneud lleoliad wych ar gyfer archwilio’r Mynyddoedd Du deheuol a’r ardal gyfagos. Yn gorwedd wrth droed Crug Hywel, bryngaer drawiadol o’r Oes Haearn mae’r dref Sioraidd hon yn fan poblogaidd i’w archwilio ac i aros. Llun © Visit Crickhowell

CRiC – Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel
Mae Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel (CRiC) yn ganolfan i ymwelwyr a phobl leol yng Nghrughywel Mae’n cynnig gwybodaeth i dwristiaid, mapiau, ac anrhegion wedi’u crefftio’n lleol. Mae’r caffi ar y safle yn darparu WiFi, sy’n gweini coffi Mynyddoedd Duon a chacennau cartref. I fyny’r grisiau, mae Oriel CRiC Gallery yn arddangos arddangosfeydd sy’n cylchdroi o artistiaid rhanbarthol ac ymwelwyr bob wyth wythnos. Yn ogystal, mae CRiC yn darparu ystafelloedd cyfarfod a gwasanaethau swyddfa, gan gynnwys llungopïo ac argraffu. Wedi’i weithredu gan dîm a gwirfoddolwyr ymroddedig, mae CRiC ar
The CRiC (Crickhowell Resource and Information Centre)
Eglwys Sant Edmund
Eglwys Sant Edmund yng Nghrughywel a sefydlwyd yn 1303 gan yr Arglwyddes Sybil Pauncefote, yw’r unig eglwys yng Nghymru sydd wedi’i chysegru i Sant Edmund. Mae’r adeilad rhestredig Gradd II* hwn yn cynnwys meindwr eryr unigryw, yr unig un yn y sir, ac mae’n gartref i ddarluniau nodedig o’r teulu Pauncefote. Er gwaethaf addasiadau dros ganrifoedd, mae’r eglwys yn cadw ei chynllun croesffurf wreiddiol, gan gynnig cipolwg ar bensaernïaeth ganoloesol a threftadaeth gyfoethog y dref.

Castell Crughywel
Yn wreiddiol yn amddiffynfa mwnt a beili Normanaidd o’r 12fed ganrif, mae Castell Crughywel yn adfail rhestredig Gradd I yng Nghymru. Yn tua 1272, ailadeiladodd Syr Grimbald Pauncefote ef mewn carreg, gan ychwanegu amddiffynfeydd sylweddol. Er gwaethaf gwelliannau, dinistriwyd y castell i raddau helaeth yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddechrau’r 15fed ganrif.

Crickhowell Crickhowell, a picturesque town nestled in the Usk Valley within the Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons) National Park, offers visitors a blend of historical charm and natural beauty. Known for it’s thriving independent businesses and community spirit, the town provides a warm welcome to all. Many roads lead to ‘Crick’, as it is affectionately known locally, since it stands at an historic crossing point over the River Usk, marked by a fine 17th century bridge. The town of Crickhowell is a destination in itself and makes a brilliant base for exploring the southern Black Mountains and surrounding area. Lying at the foot of Crug Hywel, an impressive Iron Age hillfort this well preserved Georgian town is a popular spot to explore and to stay. CRiC – The Crickhowell Resource and Information Centre The Crickhowell Resource and Information Centre (CRiC) serves as a hub for visitors and locals in Crickhowell. It offers tourist information, maps, and locally crafted gifts. The on-site café provides WiFi, serving Black Mountains coffee and homemade cakes. Upstairs, the Oriel CRiC Gallery showcases rotating exhibitions of regional and visiting artists every eight weeks. Additionally, CRiC provides meeting rooms and office services, including photocopying and printing. Operated by a dedicated team and volunteers, CRiC is open Monday to Saturday, 10 am to 5 pm St Edmund's Church St. Edmund's Church in Crickhowell, established in 1303 by Lady Sybil Pauncefote, is the sole church in Wales dedicated to Saint Edmund. This Grade II* listed building features a unique shingled spire, the only one in the county, and houses notable effigies of the Pauncefote family. Despite modifications over centuries, the church retains its original cruciform layout, offering a glimpse into medieval architecture and the town's rich heritage. Crickhowell Castle Crickhowell Castle, a Grade I listed ruin in Wales, was originally a 12th-century Norman motte and bailey fortification. Around 1272, Sir Grimbald Pauncefote reconstructed it in stone, adding significant fortifications. Despite enhancements, the castle was largely destroyed during Owain Glyndŵr's rebellion in the early 15th century. One visitors review was exceptional "A small but interesting bit of history. Easy access. Set in a field with a play area for kids at the bottom. Good views of the surrounding area. Dog was a bit bored when we stopped to read the information." TripAdvisor Home of Crickhowell Walking Festival Every March the local hills come alive with groups of walkers. seasoned and beginners all enjoying the comradery that comes when you are on the hill, and more specifically in the local hostelries afterwards Limitless Trails Meet the local trail running events provider, read about their unique perspective on running and sign up to their events. Home of Friends of The Brecon Beacons / Cyfeillon Bannau Brycheiniog The Walks are open to Members and Non-Members and booking through the website is required. Non-Members are asked for a £5 donation. Why not join them? Home to Crickhowell Adventure Independent Outdoor Gear stockists call in and say hi to Jane and her team. Great for advice as well as gear. Book-ish Bookshop and Café Books, events, café, delightful team, what's not to love with our independent shops? Take to the skies Our local guys with heads for heights, learn the art of paragliding or take a tandem trip and see the Bannau Brycheiniog from above Crughywel Mae Crughywel, tref brydferth sy'n swatio yn Nyffryn Wysg o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, yn cynnig cyfuniad o swyn hanesyddol a harddwch naturiol i ymwelwyr. Mae'r dref yn adnabyddus am ei busnesau annibynnol ffyniannus a'i hysbryd cymunedol, ac mae'n rhoi croeso cynnes i bawb. Mae llawer o ffyrdd yn arwain at 'Crick', fel ei gelwir yn lleol gan ei bod yn sefyll ar groesfan hanesyddol dros Afon Wysg, a nodi gan bont wych o'r 17eg ganrif. Mae tref Crughywel yn gyrchfan ynddo'i hun ac mae'n gwneud lleoliad wych ar gyfer archwilio'r Mynyddoedd Du deheuol a'r ardal gyfagos. Yn gorwedd wrth droed Crug Hywel, bryngaer drawiadol o'r Oes Haearn mae'r dref Sioraidd hon yn fan poblogaidd i'w archwilio ac i aros. CRiC – Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel Mae Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Crughywel (CRiC) yn ganolfan i ymwelwyr a phobl leol yng Nghrughywel Mae'n cynnig gwybodaeth i dwristiaid, mapiau, ac anrhegion wedi'u crefftio'n lleol. Mae'r caffi ar y safle yn darparu WiFi, sy'n gweini coffi Mynyddoedd Duon a chacennau cartref. I fyny'r grisiau, mae Oriel CRiC Gallery yn arddangos arddangosfeydd sy'n cylchdroi o artistiaid rhanbarthol ac ymwelwyr bob wyth wythnos. Yn ogystal, mae CRiC yn darparu ystafelloedd cyfarfod a gwasanaethau swyddfa, gan gynnwys llungopïo ac argraffu. Wedi'i weithredu gan dîm a gwirfoddolwyr ymroddedig, mae CRiC ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn, 10 am i 5pm Eglwys Sant Edmund Eglwys Sant Edmund yng Nghrughywel a sefydlwyd yn 1303 gan yr Arglwyddes Sybil Pauncefote, yw'r unig eglwys yng Nghymru sydd wedi'i chysegru i Sant Edmund. Mae'r adeilad rhestredig Gradd II* hwn yn cynnwys meindwr eryr unigryw, yr unig un yn y sir, ac mae'n gartref i ddarluniau nodedig o'r teulu Pauncefote. Er gwaethaf addasiadau dros ganrifoedd, mae'r eglwys yn cadw ei chynllun croesffurf wreiddiol, gan gynnig cipolwg ar bensaernïaeth ganoloesol a threftadaeth gyfoethog y dref. Castell Crughywel Yn wreiddiol yn amddiffynfa mwnt a beili Normanaidd o'r 12fed ganrif, mae Castell Crughywel yn adfail rhestredig Gradd I yng Nghymru. Yn tua 1272, ailadeiladodd Syr Grimbald Pauncefote ef mewn carreg, gan ychwanegu amddiffynfeydd sylweddol. Er gwaethaf gwelliannau, dinistriwyd y castell i raddau helaeth yn ystod gwrthryfel Owain Glyndŵr ar ddechrau'r 15fed ganrif. Roedd un adolygiad ymwelydd yn gofiadwy "Ychydig bach ond diddorol o hanes. Mynediad hawdd. Wedi ei osod mewn cae gyda lle chwarae i blant ar y gwaelod. Golygfeydd gwych o'r ardal gyfagos. Roedd ci ychydig yn ddiflas pan wnaethon ni stopio i ddarllen y wybodaeth." TripAdvisor Cartref Gwyl Gerdded Crughywel Bob mis Mawrth mae'r bryniau lleol yn ferw gyda grwpiau o gerddwyr yn brofiadol a dechreuwyr i gyd yn mwynhau cynnwrf y bryniau, ac yn fwy penodol yn tafarndai lleol wedyn Llwybrau Diderfyn Dewch i gwrdd â'r darparwr digwyddiadau rhedeg llwybrau lleol, darllenwch am eu persbectif unigryw ar redeg a chofrestru ar gyfer eu digwyddiadau. Cartref Cyfeillion Bannau Brycheiniog Mae'r Teithiau Cerdded ar agor i Aelodau a rhai nad ydynt yn Aelodau ac mae angen archebu drwy'r wefan. Gofynnir i bobl nad ydynt yn aelodau am gyfraniad o £5. Beth am ymuno â nhw? Cartref Antur Crughywel Stocwyr Gêr Awyr Agored Annibynnol, beth am alw heibio a dweud shwmae wrth Jane a'i thîm. Cewch gyngor gwych yn ogystal âo offer. Siop Lyfrau Book-ish a Chaffi Llyfrau, digwyddiadau, caffi, tîm hyfryd, beth sydd ddim i'w garu gyda'n siopau annibynnol? Ewch i'r awyr Mae ein bois lleol sy’ hoffi uchder, yn dysgu'r grefft o baragleidio neu gallwch fynd ar daith tandem a gweld Bannau Brycheiniog oddi uchod.
Bob mis Mawrth mae’r bryniau lleol yn ferw gyda grwpiau o gerddwyr yn brofiadol a dechreuwyr i gyd yn mwynhau cynnwrf y bryniau, ac yn fwy penodol yn tafarndai lleol wedyn

Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau
Blaenavon
Blaenavon is a historic town. its UNESCO World Heritage status celebrates it’s role producing coal and iron during the industrial revolution. Home to Blaenavon Cheese Company, it’s well worth a stop to stock up.
About Blaenavon
Blaenavon is recognised as a UNESCO World Heritage Site for its outstanding contribution to the Industrial Revolution. At its heart is the Big Pit National Coal Museum, where visitors can journey underground to experience life as a miner. The town is also home to the Blaenavon Ironworks, historic tramroads, and a wealth of heritage trails that showcase its fascinating past. The main attractions such as Big Pit National Coal Museum, Blaenavon Ironworks, the World Heritage Centre and Blaenavon Heritage Railway are all just a few minutes’ drive from each other.

Visit the Blaenavon World Heritage Centre
The Blaenavon World Heritage Centre is the best place to start, offering an overview of the exhibitions, tours and giving visitor information.
Blaenavon World Heritage Centre and Visitor Information
Big Pit and National Coal Museum
Big Pit offers exhibits and the chance to don a miner’s hat and go underground. This much loved attraction is enormously popular for good reason.
Big Pit, National Coal Museum
Did you know…
A lesser-known fact about Blaenavon is the existence of the Pwll Du Tunnel, constructed in the early 19th century. At approximately 1,875 meters in length, it was the longest horse-powered tramway tunnel in Britain. The tunnel played a crucial role in transporting limestone from quarries at Pwll Du and Tyla to the Blaenavon Ironworks, as well as conveying pig iron to the Garnddyrys Forge. Today, the tunnel is a scheduled monument and part of the Blaenavon Industrial Landscape UNESCO World Heritage Site.

Blaenavons Workman's Hall
The Blaenavon Workmen’s Hall, a prime example of a Valleys miners’ institute, has been refurbished to serve as a major cultural and arts venue in the Gwent Valleys. It features a 400-seat auditorium with a balcony and full stage, an 80-seat cinema, a snooker room, bar, and meeting rooms. The Hall is fully operational, hosting theatre performances, film screenings, meetings and more

Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau
Talgarth
Mae cymuned Talgarth yn gartref i felin ddŵr weithredol a chaffi. Mae’r dref farchnad brydferth hon wedi’i lleoli o dan y Mynydd Du yn rhan o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (y Brecon Beacons).
Ynglŷn â Talgarth
Mae Talgarth yn dref farchnad hyfryd yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog (y Brecon Beacons). Wedi’i lleoli wrth droed y Mynydd Du (the Black Mountains), mae’n fan croesawgar i ymwelwyr sy’n chwilio am hanes, natur a chymuned. Mae Melin Talgarth, sydd wedi’i hadfer yn llawn, yn ganolbwynt y dref – gallwch weld y peiriannau’n malu blawd gyda’r olwyn ddŵr enfawr, ac mae’r caffi a’r becws yn boblogaidd iawn (argymhellir archebu lle ymlaen llaw). Bydd cariadon natur wrth eu bodd â’r daith gerdded i Warchodfa Natur Pwll-y-Wrach a’r ardal wledig o’i chwmpas – dilynwch yr arwyddion o’r pentref i gerdded i fyny’r bryn (mae’r maes parcio’n fach iawn). Ceir tafarndai clyd, cymuned groesawgar, a chalendr llawn o ddigwyddiadau lleol drwy gydol y flwyddyn.

Canolfan Ymwelwyr Talgarth
Manteisiwch ar wybodaeth leol a darganfyddwch ble i gerdded, siopa ac aros.
Talgarth Visitor Centre
Eglwys Santes Gwendolyn
Mae Eglwys Santes Gwendolyn yn Nhalgarth, Powys, yn dyddio’n ôl i tua 1400. Cafodd yi tŵr ei ychwanegu yn y 15fed ganrif. Credir yn draddodiadol bod yr eglwys yn meddiannu safle claddu Santes Gwendolyn, un o ddisgynyddion y Brenin, Brychan Brycheiniog o’r 5ed ganrif. Mae’n gartref i feddrod Hywel Harris, ffigwr amlwg yn adfywiad Methodistaidd Cymreig y 18fed ganrif. Cafodd yr Eglwys ei hadnewyddu yn 1873.

Melin Talgarth
Yr unig felin ddŵr weithredol yn y Parc Cenedlaethol – ac yn werth ymweld â hi. Gallwch fynd ar daith dywys a gweld y blawd yn cael ei gynhyrchu, ac mae modd prynu’r blawd yn y siop anrhegion.
Ewch i’r becws a’r caffi hyfryd ar y safle. Gerddi tawel y tu ôl i’r adeilad lle gallwch eistedd a mwynhau’r natur.

Clwb Gleidio’r Mynydd Du
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos ac yn hedfan pan fo’r tywydd yn caniatáu, mae’r clwb gleidio hwn yn cynnig profiad unigryw o hedfan dros y Mynydd Du a’i weld o’r awyr.
Black Mountains Gliding Club
Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau
Hay-on-Wye
Hay-on-Wye is a charming town, famous for it’s bookshops, weekly market and Hay Festival in May and it’s Winter Edition in November, Y Gelli or Hay on Wye is also known as the Town of Books
About Hay-on-Wye
Hay-on-Wye, the “Town of Books,” is a delightful market town in the North East of the Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons) National Park. Famous worldwide for its annual literary festival Hay-on-Wye is a haven for book lovers. With its eclectic mix of independent shops, cafés, and galleries, many visitors to the National Park love Hay-on-Wye.

Hay Festival
In May each year Hay Festival brings readers and writers together to share stories and ideas. Novembers sees the Winter Edition and coincides with the Christmas Lights switch on in the town.
Croeso i Ŵyl y Gelli
Hay-on-Wye Tourist Information
Looking for detailed information – contact the team at Hay-on-Wye Tourist Information Bureau
Hay-on-Wye Tourist Information Bureau
Hay Castle
Hay Castle, located in Hay-on-Wye, is a historic site blending medieval architecture with modern cultural spaces. Built in the late 12th century by the de Braose family, the castle has witnessed significant historical events and transformations. After extensive restoration, it reopened to the public in 2022, offering art exhibitions, educational programs, and panoramic views from its towers. Visitors can explore the original Honesty Bookshop, enjoy the café and participate in various cultural events throughout the year

Hay Market Day
Hay Market Day is held every Thursday from 9:00 am to 2:30 pm in the centre of Hay-on-Wye. Don’t miss the vibrant local market with a rich history spanning over 700 years,
Hay Markets
Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau