Y Mynyddoedd Duon: Comin Rhos Fach a Chastell Crucywel
Explore the stunning landscapes of the Black Mountains, from the open beauty of Rhos Fach Common to the historic charm of Crickhowell Castle. Discover breathtaking views, rich history, and unforgettable adventures in the heart of Bannau Brycheiniog.
Awgrymiadau amserlen
Gyrrwch hyd at Gomin Rhos fach, sydd wedi ei guddio o dan fynydd Y Das – lle gallwch ddechrau’r diwrnod gyda thaith gerdded a mwynhau golygfeydd godidog o’r Mynyddoedd Du
Gadewch eich car yn y lle parcio a cherdded yn ôl i lawr y rhiw i Eglwys Llaneleu, sy’n ymroddedig i Santes Elliw. Erbyn hyn, mae’r adeilad rhestredig gradd 1 o’r 13eg ganrif wedi cael ei digysegru, ac mae wedi ei gosod o fewn mynwent gaerog, hirgrwn a godwyd yn oes y Celtiaid. Mae erbyn hyn o dan ofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill.
Yn syth y tu allan i’r gât uchaf yn y fynwent i’r de mae’r ‘Goeden chwipio’ enwog – coeden ywen hynafol, a modd dod o hyd iddi ar hyd y ffordd sy’n arwain yn ôl i fyny i Gomin Rhos Fach. Chwiliwch am y tyllau lle gafodd dwylo’r dihirod eu clymu, fel cosb!
Os ydy’r tywydd yn ffafriol, gallwch fwynhau picnic i ginio neu ddychwelyd i Dalgarth am ginio yn un o’r tafarnau neu gaffis.
Ar ôl cinio ewch tuag at Grucywel. Sefydlwyd y Castell Tomen a Beili Castell yn ystod concwest Normanaidd ym Mrycheiniog, tra bod y tŷ cwrt cyfagos a’i wreiddiau yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd y Fychaniaid a oedd yn byw yno, yn deulu Cymreig cyfoethog dylanwadol, ac fe wnaethon nhw greu llys i greu argraff. Fodd bynnag pan wnaethon nhw adael yn y 18fed ganrif , fe wnaeth yr ŵyn a’r gwyddau symud i mewn! Mae wedi ei adfer yn llawn erbyn hyn, ac mae Cadw wedi creu cyfres o ystafelloedd i ddangos fel yr oedden nhw yn 1470 pan oedd Tre’r Tŵr yn rhan uchel o gymdeithas – profwch fywyd 15fed ganrif ar ei orau.
Amserlen Bosib
10.30 – 12.30
Mwynhewch daith gerdded bleserus ar Gomin Rhos Fach ac yna ymweld ag Eglwys Llaneleu – a gweld os allwch ddod o hyd i’r Goeden Chwipio.
12.30 – 13.30
Mwynhewch bicnic neu ginio yn un o dafarndai neu gaffis Talgarth.
14.00 – 16.00
Cyrraedd Llys a Chastell Tre-tŵr a threulio’r prynhawn yn mynd o gwmpas y Llys a’r castell canoloesol trawiadol, a gafodd ei adfer yn ddiweddar.
Ble mae e?
Dewch o hyd i Gomin Rhos Fach ac Eglwys Llaneleu (OS 18,503,418) drwy adael canol dref Talgarth ar y ffordd sy’n pasio tŵr y gwesty. Cadwch i’r chwith pan fydd ffordd yn rhannu. Wrth gyrraedd y gyffordd â’r eglwys o’ch blaen, trowch i’r dde a gyrru i fyny at Gomin Rhos Fach lle gwelwch chi ddigon o lefydd parcio. Mae’r ffordd yn gul gyda digon o lefydd pasio.
Llys a Chastell Tre-tŵr NP8 1RD www.cadw.wales.gov.uk
Ffôn: 01874 730279
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 1 Ebrill – 31 Hydref 10:00-5:00.
1af Tachwedd – 31 Mawrth Ar gau bob dydd Llun.
Mae arwyddion i bentref Tre-tŵr oddi ar yr A479, 10 milltir i’r de-ddwyrain o Dalgarth. Ceir mynediad at y castell drwy gae â gât wiail. Mae yna baneli gwybodaeth. Darperir meinciau. Mae’r maes parcio gyferbyn â’r gofeb a than wair. Mae’r toiledau ar y safle yn cynnwys toiled allwedd radar.
Mae yna ramp ond rhaid cyrraedd y toiledau drwy fynd drwy’r tŷ a thros borfa. Efallai gall y ceidwad drefnu mynediad amgen. Mae gan lawr gwaelod Llys Tre-tŵr, y gerddi a’r tir, fynediad gwastad. Mae’r llwybrau allanol yn gadarn er mai porfa ydy’r rhan fwyaf. Llawr coblau sydd i’r iard.
Cost mynediad ar gyfer oedolion yw £3.60 a £2.60 ar y gyfradd is. Gall ymwelwyr anabl gael mynediad i’r safle yn rhad ac am ddim. Mae siop anrhegion ar y safle. Mae yna gaffi yng Nghwmdu ar yr A479 wrth ddychwelyd i Dalgarth.
Eglwys Llaneleu – nid oes cyfleusterau yn yr eglwys. Dylai’r allwedd i’r eglwys gael ei chasglu o a’i dychwelyd at yr heulfan gwyn (trwy gât wen) yn y Crochendy ar waelod Llys Llaneleu. Mae’r daith gerdded o’r tir comin, ac yn y fynwent, ar lethr ac efallai na fydd yn wastad dan draed.
Ar y Trên: Yn y Fenni mae’r orsaf agosaf. Mae Talgarth ryw 18 milltir o’r Fenni ar droed. Nid yw Llaneleu ar unrhyw lwybrau trafnidiaeth – ond mae taith gerdded o amgylch yr eglwys yn fanwl yn y llyfryn ‘Walks around Talgarth’, ac yn chwe milltir o hyd.
Ar y bws: Mae Talgarth yn cael ei wasanaethu’n dda gan fysiau i bob cyfeiriad, o Henffordd, Llanfair-ym-muallt, Y Fenni ac Aberhonddu. Edrychwch ar www.traveline-cymru.org.uk am yr wybodaeth teithio ac amserlenni diweddaraf.
Ar feic: mae Llwybr Cenedlaethol 8 yn pasio o fewn 5 milltir i Dre-tŵr.