Croeso i Caffi Theatr Brycheiniog

Mae Caffi Theatr B! y tu mewn i Theatr Brycheiniog wrth fasn y gamlas yn Aberhonddu, taith gerdded fer o ganol y dref. Mae’r lleoliad ar lan y dŵr yn fan braf i gael saib yn ystod diwrnod yn y dref, yn ogystal â lle i fwyta cyn perfformiad. Dewch am frecwast, cinio, coffi neu deisen, gyda golygfeydd tuag at Gamlas Mynwy ac Aberhonddu a llwybr hwylus yn ôl i ganol y dref.

Mae’r caffi’n gweini brecwast a chinio, gyda bwydlenni ar gyfer gwahanol adegau o’r dydd. Gallwch alw heibio yn y bore cyn crwydro Aberhonddu, cymryd hoe amser cinio ar ôl cerdded ger y gamlas, neu ymlacio gyda choffi wrth edrych ar raglen y theatr. Does dim rhaid bod gennych docyn sioe i wneud y caffi’n rhan o’ch ymweliad. Mae oriel yn y theatr hefyd, ac efallai y bydd arddangosfa i’w gweld pan fyddwch yno.

Ar nosweithiau sioeau ac ar gyfer digwyddiadau arbennig, gweinir bwyd gyda’r nos. Mae angen cadw bwrdd ymlaen llaw drwy’r swyddfa docynnau os ydych am fwyta cyn sioe, a gellir rhag-archebu platiau antipasti ar gyfer rhai dangosiadau ffilm. Mae bar y theatr yn agor cyn perfformiadau, ac mae modd trefnu diodydd ar gyfer yr egwyl ar wahân. Gwiriwch wybodaeth gyfredol y theatr am fwyd a diod i weld pa fwydlen sy’n berthnasol i’ch ymweliad, gan y gall y trefniadau newid yn ôl y digwyddiadau.

Mae lleoliad y caffi wrth y gamlas yn ei gwneud yn hawdd cyfuno pryd o fwyd â thaith ar hyd y llwybr tynnu, amser yng nghanol Aberhonddu neu noson yn y theatr. Mae maes parcio y codir tâl amdano yn y lleoliad a lloches feiciau y tu allan.

Darganfod Theatr Brycheiniog.

Show more

Theatr Brycheiniog, Basn y Gamlas, Aberhonddu, Powys, LD3 7EW


Amenities

  1. Croesawgar i Gŵn
  2. I'r Teulu
  3. Siop ar y Safle
  1. Dietary Requirements Catered For
  2. Maes Parcio â Thâl
  3. Wi-fi

Mwy o gaffis a lleoedd i fwyta

Darganfyddwch ragor o gaffis a lleoedd i fwyta ym Mannau Brycheiniog.

Caffis a lleoedd i fwyta

How to book

Gwiriwch y bwydlenni a’r wybodaeth gyfredol am fwyd a diod ar-lein; ffoniwch y swyddfa docynnau i gadw bwrdd cyn sioe.

Archwiliwch yr ardal gyfagos

Darganfyddwch deithiau cerdded, atyniadau a phethau i’w gwneud o amgylch Aberhonddu a’r Parc Cenedlaethol.

Pob peth i’w wneud