Un Diwrnod Arall yn Llanymddyfri
Un Diwrnod Arall yn Llanymddyfri | Llandovery
Lle mae Straeon, Sgiliau a Theithiau Cymru yn Cyfarfod
Mae rhai trefi’n eich gwahodd i deithio drwyddynt. Mae Llanymddyfri wedi treulio canrifoedd yn perswadio teithwyr i aros.
Ar un adeg, byddai porthmyn yn cyrraedd yma gyda gwartheg ar eu ffordd i farchnadoedd pell. Dilynwyd hwy gan fasnachwyr, beirdd, ffermwyr a theithwyr, a ddaeth o hyd i fwyd, lloches a chwmni mewn tref farchnad Gymreig a luniwyd gan deithio a chyfnewid.
Heddiw, mae Llanymddyfri yn parhau’n fan cyfarfod.
Wedi’i lleoli ar ymyl gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r dref yn dod â siopau annibynnol, crefftau Cymreig, bwyd lleol, treftadaeth y porthmyn, llên gwerin, rygbi a straeon am ddewrder cenedlaethol ynghyd. Mae’n hawdd crwydro ei strydoedd ar droed, ond mae ei dylanwad yn ymestyn ymhell y tu hwnt i faint cymharol fach y dref.
Treuliwch un diwrnod arall yma a byddwch yn dechrau gweld sut mae cenedlaethau o straeon, sgiliau a thraddodiadau Cymreig wedi cael eu trosglwyddo, nid eu cadw’n unig.
Dechreuwch mewn tref a grëwyd i aros ynddi
Tyfodd Llanymddyfri ger man croesi pwysig ar Afon Tywi, lle’r oedd ffyrdd a theithiau’n cyfarfod.
Mae ei rôl hanesyddol fel tref y porthmyn wedi siapio llawer o’r hyn y mae ymwelwyr yn dal i’w brofi heddiw. Roedd angen tafarndai, cyflenwadau, gwasanaethau ariannol a mannau cyfarfod ar y porthmyn a oedd yn teithio tua’r dwyrain gyda da byw cyn parhau i farchnadoedd y tu hwnt i Gymru.
Tyfodd y dref o amgylch y croeso hwnnw.
Dechreuodd hyd yn oed stori bancio’r dref gyda’r porthmyn. Sefydlwyd Banc yr Eidion Du yn Llanymddyfri ym 1799, gan gyhoeddi arian papur ag arno lun o’r gwartheg Duon Cymreig a gysylltid â ffyniant y dref. Mae’n ein hatgoffa mewn ffordd drawiadol fod economi’r porthmyn wedi gwneud llawer mwy na symud da byw. Bu’n gymorth i greu busnesau, perthnasoedd a systemau o ymddiriedaeth a gysylltodd Gymru wledig â byd llawer ehangach.
Gallwch deimlo rhywfaint o’r hanes hwn o hyd yn sgwâr y farchnad, yr adeiladau Sioraidd, yr hen dafarndai a’r strydoedd a grëwyd ar gyfer pobl a oedd yn cyrraedd, yn aros ac yn symud ymlaen.
Ond nid oes angen brysio.
Mae Llanymddyfri yn gwobrwyo ymwelwyr sy’n cymryd amser i edrych.
Darganfyddwch ddiwylliant a grëwyd â llaw
Nid yw hunaniaeth greadigol Llanymddyfri yn dechrau gyda gŵyl neu oriel fodern. Mae creu a gwneud wedi perthyn i’r lle erioed.
Tyfodd sgiliau ymarferol o’r dirwedd o’i hamgylch: roedd gwlân, pren, planhigion, bwyd, amaethyddiaeth a deunyddiau bywyd gwledig i gyd yn dylanwadu arnynt. Mae’r traddodiadau hynny’n parhau heddiw drwy siopau annibynnol, artistiaid, dylunwyr a chrefftwyr sy’n gweithio gyda thecstilau, gwydr, print, gemwaith, blodau, ffibrau naturiol a chrefftau eraill.
Mae Penwythnos Creadigol Llanymddyfri yn rhoi lle amlwg iawn i’r diwylliant byw hwn bob haf. Cynhelir gweithdai mewn siopau a lleoliadau ledled y dref, gan wahodd ymwelwyr i roi cynnig ar dechnegau megis gwehyddu, ffeltio, brodwaith, gwneud printiau, gwydr lliw a gweithio gyda ffibrau wedi’u casglu o fyd natur.
Efallai mai am un penwythnos yn unig y cynhelir y digwyddiad, ond mae’r cymeriad creadigol sydd wrth ei wraidd yn bresennol drwy gydol y flwyddyn.
Wrth bori drwy’r siopau annibynnol, fe welwch flancedi Cymreig, crefftau, llyfrau, eitemau i’r cartref, anrhegion, cynnyrch lleol a darnau a grëwyd â gofal. Mae llawer ohonynt yn fusnesau teuluol, pob un yn ychwanegu pennod newydd at hanes tref y mae ei bywyd masnachol wedi dibynnu erioed ar wybodaeth bersonol, sgwrs ac ymddiriedaeth.
Nid creadigrwydd wedi’i gyflwyno y tu ôl i wydr yw hwn.
Mae’n greadigrwydd y gallwch ei gyfarfod, ei gyffwrdd, ei ddysgu a mynd ag ef adref.
Dilynwch y porthmyn i’r presennol
Mae stori’r porthmyn yn dal i fod yn weladwy yn hunaniaeth Llanymddyfri, o gerflun y porthmon ger y ganolfan ymwelwyr i’r enw sy’n cael ei ddefnyddio gyda balchder gan Glwb Rygbi Llanymddyfri.
Bob hydref, mae Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri yn dod â’r dreftadaeth wledig honno i’r presennol. Daw ffermio defaid, gwlân, crefftau, bwyd lleol, cerddoriaeth, sgyrsiau a gweithgareddau teuluol ynghyd mewn dathliad sydd wedi’i wreiddio yn y berthynas rhwng y dref a’r cymunedau ffermio o’i hamgylch.
Nid edrych yn ôl yn hiraethus yn unig yw’r ŵyl.
Mae’n dangos sut mae amaethyddiaeth yn parhau i siapio diwylliant, economi ac ymdeimlad o le’r ardal. Mae gwlân yn troi’n grefft. Mae gwybodaeth amaethyddol yn troi’n sgwrs. Mae cynnyrch lleol yn troi’n fwyd sy’n cael ei rannu o amgylch y dref.
Mae’r llwybrau wedi newid, ond mae’r cysylltiad rhwng Llanymddyfri a’r cefn gwlad yn parhau’n gryf.
Stori am ddewrder a gwrthwynebiad Cymreig
Uwchben y dref, mae olion Castell Llanymddyfri yn sefyll wrth ymyl un o’i thirnodau mwyaf pwerus: cofeb Llywelyn ap Gruffydd Fychan.
Roedd Llywelyn yn dirfeddiannwr o Sir Gaerfyrddin ac yn gefnogwr ffyddlon i Owain Glyndŵr. Ym 1401, peryglodd ei fywyd drwy arwain lluoedd Harri IV yn fwriadol oddi wrth yr arweinydd Cymreig. Helpodd ei weithredoedd Glyndŵr i ddianc, ond cafodd Llywelyn ei ddal a’i ddienyddio’n greulon yn Llanymddyfri oherwydd ei deyrngarwch i’r achos Cymreig.
Dadorchuddiwyd y cerflun dur gwrthstaen 16 troedfedd o uchder sy’n edrych dros y dref yn 2001, chwe chanrif ar ôl ei farwolaeth. Mae’r arfwisg wag wedi dod yn symbol trawiadol o aberth, herfeiddiad a hunaniaeth genedlaethol Cymru.
Ynghyd ag adfeilion y castell, mae’n atgoffa ymwelwyr nad yw hanes Llanymddyfri’n ymwneud â marchnadoedd, teithwyr a masnach yn unig.
Mae hefyd yn rhan o stori ehangach Cymru: lle a luniwyd gan wrthwynebiad a chan bobl a oedd yn barod i amddiffyn eu gwlad a’u hargyhoeddiadau.
Lle mae chwedlau, tirwedd ac iacháu’n cyfarfod
Mae straeon Llanymddyfri yn ymestyn y tu hwnt i’r dref i dirweddau a chymunedau gorllewin Bannau Brycheiniog.
Mae Myddfai gerllaw yn gysylltiedig ag un o chwedlau mwyaf parhaol Cymru. Yn ôl y traddodiad, cyfarfu ffermwr ifanc â merch ddirgel a ddaeth allan o Lyn y Fan Fach. Priododd y ddau, a daeth eu meibion yn gyntaf o Feddygon enwog Myddfai.
Mae dechrau goruwchnaturiol y stori’n perthyn i lên gwerin Cymru, lle mae llynnoedd, mynyddoedd a’r Arallfyd yn aml wedi’u cysylltu’n agos. Y tu ôl i’r chwedl, fodd bynnag, mae traddodiad gwirioneddol o feddygaeth Gymreig yr Oesoedd Canol. Mae meddyginiaethau a dysgeidiaeth sy’n gysylltiedig â Meddygon Myddfai wedi goroesi mewn llawysgrifau Cymraeg, gan gysylltu’r ardal â chenedlaethau o wybodaeth am berlysiau ac iacháu.
Mae’r stori’n gwbl gartrefol yma.
O amgylch Llanymddyfri, mae creadigrwydd bob amser wedi bod yn ymarferol yn ogystal â mynegiannol. Trosglwyddwyd gwybodaeth drwy deuluoedd, lluniwyd sgiliau gan y tir a defnyddiwyd straeon i helpu pobl i ddeall eu perthynas â lle.
O berlysiau meddyginiaethol ac amaethyddiaeth i farddoniaeth, crefftau a gwaith creadigol cyfoes, mae’r un edefyn yn parhau: gwybodaeth Gymreig yn cael ei throsglwyddo, ei haddasu a’i rhannu.
Tref fach â lle mawr yn hanes rygbi Cymru
Mae rygbi’n draddodiad arall y mae Llanymddyfri wedi’i gyfrannu at stori genedlaethol Cymru.
Chwaraeodd Coleg Llanymddyfri ran sylfaenol yn natblygiad rygbi yng Nghymru, ac fe’i cydnabyddir ochr yn ochr â Choleg Llambed fel un o gartrefi cynnar y gêm Gymreig.
Ni ddaeth ei ddylanwad i ben gyda dechreuad rygbi. Mae mwy na 50 o gyn-ddisgyblion wedi cynrychioli Cymru, gan ennill bron i 550 o gapiau rhyngddynt. Mae cyn-chwaraewyr rygbi’r Coleg yn cynnwys rhai o enwau mwyaf adnabyddus y gêm fodern yng Nghymru, gan gynnwys Alun Wyn Jones a George North.
Yn y dref ei hun, mae Clwb Rygbi Llanymddyfri yn dal i chwarae fel Y Porthmyn, gan gysylltu’r clwb modern yn uniongyrchol â hunaniaeth hanesyddol y dref.
Yma, mae rygbi’n fwy na champ.
Mae’n rhan o addysg, cymuned a balchder Cymreig, wedi’i drosglwyddo o un genhedlaeth i’r nesaf cyn cael ei gario i gaeau ledled Cymru a thu hwnt.
Gadewch amser ar gyfer siopau, bwyd a sgwrs
Ni ddylid rhuthro drwy dref sy’n adnabyddus am groesawu teithwyr.
Mae busnesau annibynnol Llanymddyfri yn rhoi pob rheswm i chi arafu. Porwch drwy siopau sy’n gwerthu llyfrau, blancedi Cymreig, celf, crefftau, anrhegion, hen bethau, dillad a bwyd a gynhyrchir yn lleol. Galwch yn y siop gig, y patisserie neu’r siop groser, neu edrychwch beth sydd ar werth ym marchnad ffermwyr fisol y dref.
Nid oes un llwybr penodol i’w ddilyn.
Dilynwch y strydoedd sy’n mynd â’ch bryd. Ewch i mewn i rywle am fod yr arddangosfa yn y ffenestr wedi dal eich sylw. Gofynnwch am y crefftwr sydd y tu ôl i ddarn neu’r stori y tu ôl i gynnyrch lleol.
Yna arhoswch am goffi, cinio neu bryd mwy sylweddol.
Mae gan y dref gaffis, ystafelloedd te, tafarndai, bwytai a thafarndai traddodiadol sy’n gwasanaethu ymwelwyr drwy gydol y dydd. Mae’r dewis yn amrywio o fwyd hamddenol mewn caffi a danteithion wedi’u pobi i brydau tafarn, pysgod a sglodion, bwyd rhyngwladol a lleoedd lle gall pryd gyda’r nos ddod yn rhan o’r rheswm dros aros.
Nid ceisio ymweld â phob busnes yw’r peth pwysig.
Yr hyn sy’n bwysig yw rhoi digon o amser i chi’ch hun fwynhau bod yma.
Arhoswch lle mae teithwyr wedi aros erioed
Mae un diwrnod arall yn haws pan nad oes angen gyrru adref.
Mae Llanymddyfri’n cynnig gwestai, tafarndai, tai llety, gwely a brecwast a llety hunanarlwyo gerllaw. Gall ymwelwyr ddewis aros yng nghanol y dref neu ei defnyddio fel canolfan ar gyfer crwydro’r cefn gwlad o’i hamgylch.
Mae aros dros nos yn newid rhythm yr ymweliad.
Gallwch gymryd mwy o amser dros swper, gweld beth sy’n digwydd yn lleol, cerdded drwy’r dref wrth i’r nos gau amdani neu fwynhau’r ffaith y bydd y diwrnod nesaf yn dechrau yma.
Nid cynnig newydd i ymwelwyr yw lletygarwch Llanymddyfri.
Mae’n parhau’r croeso sydd wedi’i estyn i deithwyr ers cenedlaethau.
Cyrhaeddwch ar un o reilffyrdd gwledig mawr Cymru
Mae rhywbeth addas iawn am gyrraedd tref sydd wedi’i llunio gan deithiau.
Mae Llanymddyfri ar Reilffordd Calon Cymru, rheilffordd wledig 121 milltir o hyd sy’n cysylltu Abertawe a’r Amwythig drwy Sir Gaerfyrddin, Powys a’r gororau. Mae’r rheilffordd yn parhau’n gyswllt pwysig i gymunedau gwledig ac yn un o’r ffyrdd harddaf o deithio drwy Gymru.
Mae’r orsaf yn ddigon agos i gerdded i ganol y dref, gan wneud teithio ar y trên yn ddewis ymarferol i ymwelwyr sydd am grwydro ar gyflymder hamddenol.
Mae’r rheilffordd hefyd yn cysylltu â Llwybr Rheilffordd Calon Cymru. Gall cerddwyr ddilyn llwybrau rhwng y gorsafoedd, gan gynnwys rhannau sy’n nesáu at Lanymddyfri drwy dirweddau â golygfeydd tuag at fryniau gorllewinol Bannau Brycheiniog.
Ar un adeg, byddai’r porthmyn yn cyrraedd y dref ar droed.
Heddiw, mae’r rheilffordd yn cynnig ffordd arall o gyrraedd yn araf, edrych drwy’r ffenestr a gadael i’r daith ddod yn rhan o’r profiad.
Mae’r diwrnod nesaf yn dechrau y tu hwnt i’r dref
Mae Llanymddyfri’n gyrchfan yn ei rhinwedd ei hun, ond mae hefyd yn ganolfan naturiol ar gyfer crwydro ochr orllewinol Bannau Brycheiniog a Dyffryn Tywi ehangach.
O’r fan hon, gallwch barhau tuag at Fyddfai, darganfod straeon William Williams Pantycelyn, dilyn llwybrau cerdded a beicio, ymweld â chymunedau gwledig neu deithio ymlaen drwy Sir Gaerfyrddin.
Mae’r dirwedd yn cynnig llawer mwy nag y gellir ei ddeall mewn un ymweliad.
Dyna’r syniad y tu ôl i Un Diwrnod Arall.
Rhowch ddigon o amser i Lanymddyfri a bydd ei straeon gwahanol yn dechrau cysylltu.
Mae ffyrdd y porthmyn yn arwain at dafarndai a siopau annibynnol.
Mae gwlân yn troi’n grefft gyfoes.
Mae llên gwerin yn arwain at wybodaeth feddygol a etifeddwyd.
Mae adfeilion castell yn troi’n stori am ddewrder Cymreig.
Mae cae chwarae ysgol yn dod yn rhan o hanes rygbi Cymru.
Ac mae tref farchnad fach yn datgelu lle annisgwyl o fawr yn stori ddiwylliannol Cymru.
Cynlluniwch eich ymweliad
Mae Llanymddyfri ar ymyl gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gellir ei chyrraedd ar y ffordd neu ar y trên.
Mae canol y dref yn gryno ac yn weddol wastad, gan ei gwneud yn hawdd cyfuno ei siopau annibynnol, lleoedd i fwyta a phrif safleoedd treftadaeth yn ystod diwrnod hamddenol.
Gwiriwch amseroedd agor a manylion digwyddiadau cyn teithio, yn enwedig os ydych yn cynllunio eich ymweliad o amgylch gweithdai, gwyliau neu weithgareddau tymhorol.
I gael gwybodaeth leol gyfredol, manylion digwyddiadau sydd ar ddod, busnesau a chyngor ymarferol i ymwelwyr, mae gwefan tref Llanymddyfri a’i thîm cymunedol lleol yn ffynhonnell ddefnyddiol o wybodaeth ddiweddar.
Mae rhai trefi’n eich gwahodd i deithio drwyddynt.
Mae Llanymddyfri’n rhoi pob rheswm i chi aros.
Darganfyddwch ragor am Lanymddyfri