Mae tref farchnad hanesyddol Aberhonddu yn cynnig croeso cynnes gyda’i strydoedd prysur, ei siopau, ei heglwys gadeiriol, ei hamgueddfeydd a’i chaffis niferus.

Am Aberhonddu

Mae Aberhonddu yn dref farchnad hanesyddol yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n cynnig diwylliant, cymeriad ac antur awyr agored. Mae adeiladau Sioraidd a Fictoraidd yn sefyll ochr yn ochr ag olion ei chastell canoloesol a’i heglwys gadeiriol hanesyddol. Gall ymwelwyr grwydro drwy siopau annibynnol, caffis croesawgar a thafarndai traddodiadol wrth fwynhau awyrgylch cyfeillgar y dref.

Brecon Story

Darganfyddwch hanes diddorol Aberhonddu gyda WALK: The Brecon Story. Dilynwch ei fap Google Earth o amgylch y dref neu ewch i wefan Brecon Story i ddarllen y canllaw cyflawn

a view of the houses in  street in Brecon, Georgian Architecture

Ymweld ag Aberhonddu – Canolfan Croeso

Os oes angen cyngor lleol arnoch, ewch i weld y tîm gwybodus Ymweld ag Aberhonddu . Gallant helpu gyda lleoedd i aros a bwyta, llwybrau cerdded, gweithgareddau a phethau i’w gweld, yn ogystal â gwybodaeth am deithiau cerdded tywys o amgylch y dref. Mae’r ganolfan ar Lion Street, wrth ymyl prif feysydd parcio canol y dref a’r toiledau cyhoeddus.

Visit Brecon
a member if the team at Visit Brecon ready to help you. a selection of leaflets in front of her

Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

Mae gan Aberhonddu eglwys gadeiriol, ond nid yw’n ddinas. Daeth cyn Eglwys Briordy Sant Ioan yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu ym 1923, pan sefydlwyd Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu. Mae’n werth chwilio am yr eglwys gadeiriol, ac mae croesawyr gwirfoddol ar gael i helpu ymwelwyr i ddarganfod ei hanes. Mae’n parhau’n fan addoli pwysig ac yn lleoliad cymunedol, gyda rhaglen amrywiol o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn.

Eglwys Gadeiriol Aberhonddu

Darganfyddwch Aberhonddu a’r ardal gyfagos

Dewch o hyd i leoedd i aros a bwyta, atyniadau, gweithgareddau a llwybrau cerdded yn Aberhonddu a’r ardal gyfagos.

Pethau i’w Gwneud ym Mannau Brycheiniog (Brecon Beacons)

Digwyddiadau

Peidiwch byth â cholli allan ar y digwyddiadau lleol gorau – tanysgrifiwch i gael diweddariadau misol ar wyliau, marchnadoedd, a phrofiadau arbennig.

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr