Pan Fydd y Nosweithiau’n Dychwelyd i Fannau Brycheiniog
Pan Fydd y Nosweithiau’n Dychwelyd i Fannau Brycheiniog
Mae yna adeg ym mis Awst pan fyddwch chi’n dechrau sylwi ar y newid.
Mae’r nosweithiau’n cyrraedd ychydig yn gynharach. Mae’r golau’n dechrau pylu’n gynt. Ac ar ôl wythnosau o ddyddiau hir yr haf, mae’r tywyllwch yn dechrau dychwelyd i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
I lawer o ymwelwyr, mae hynny’n golygu dechrau tymor arbennig arall yma.
Edrychwch i fyny
Efallai mai cawod feteorau’r Perseidiau sy’n ein hannog i edrych i fyny ym mis Awst, ond nid rhywbeth unwaith y flwyddyn yn unig yw awyr y nos ym Mannau Brycheiniog.
Mae’r Parc Cenedlaethol yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, sy’n cael ei chydnabod am ansawdd ei hawyr nos a phwysigrwydd gwarchod y tywyllwch o’n cwmpas.
Wrth i’r haf symud tuag at yr hydref, mae’r awyr honno’n dod yn haws i’w mwynhau.
Does dim angen telesgop na gwybodaeth arbenigol o reidrwydd. Weithiau, y cyflwyniad gorau yw dod o hyd i le diogel, diffodd goleuadau diangen, rhoi amser i’ch llygaid addasu ac edrych i fyny.
Mae sêr yn dechrau ymddangos na fyddwch efallai’n eu gweld gartref. Ar y noson iawn, gallech weld cytserau, planedau, y Llwybr Llaethog neu feteor yn gwibio ar draws yr awyr.
Ac yn sydyn, mae’r noson wedi dod yn rhan o’r gwyliau hefyd.
Ffordd wahanol o brofi’r dirwedd
Mae Bannau Brycheiniog yn adnabyddus, a hynny’n gwbl briodol, am ei mynyddoedd, rhaeadrau, llwybrau cerdded a beicio a’i thirweddau agored eang.
Ond does dim rhaid i’r profiad ddod i ben pan fydd golau dydd yn diflannu.
Arhoswch am swper yn un o’n trefi neu bentrefi. Ewch yn ôl i’ch bwthyn, maes gwersylla, tafarn neu safle glampio. Gwisgwch haen ychwanegol, paratowch ddiod gynnes a chamwch allan.
Mae rhywbeth hyfryd o syml am ddarganfod pa mor dywyll y gall noson wirioneddol dywyll fod.
Mae hefyd yn newid rhythm eich ymweliad.
Gallwch dreulio’r dydd yn crwydro, mwynhau bwyd lleol, ac yna gorffen y noson o dan y sêr yn hytrach na theimlo bod y diwrnod ar ben pan fydd yr atyniadau’n cau.
Mae’r hydref ar ei ffordd
Dydyn ni ddim am ffarwelio â’r haf eto.
Mae digon o ddyddiau hir, nosweithiau mwyn ac anturiaethau mis Awst o’n blaenau o hyd.
Ond mae’r nosweithiau tywyllach cyntaf yn ein hatgoffa o’r hyn sydd i ddod.
Yn raddol, mae diwedd yr haf yn ildio i deithiau cerdded yr hydref, ffyrdd tawelach, tirweddau lliwgar, tafarndai clyd, swper wrth y tân a nosweithiau hirach.
I’r rhai sy’n mwynhau syllu ar y sêr, ffotograffiaeth neu sy’n chwilio am egwyl hamddenol, gall hwn fod yn un o’r adegau mwyaf gwerth chweil o’r flwyddyn i ymweld â Bannau Brycheiniog.
Gall prynhawn braf a heulog a noson glir a thywyll fod yn rhan o’r un diwrnod.
Mae hynny’n rheswm eithaf da dros aros dros nos.
Gwnewch y tywyllwch yn rhan o’ch arhosiad
Os hoffech archwilio awyr y nos yn fwy manwl, mae profiadau arbenigol ar gael yma ym Mannau Brycheiniog.
Mae Dark Sky Wales yn cynnig profiadau syllu ar y sêr dan arweiniad a gweithdai seryddiaeth, tra bod Serydda yn cynnig profiadau syllu ar y sêr a gweithdai astroffotograffiaeth i’r rhai sydd am ddysgu mwy am dynnu lluniau o awyr y nos.
Neu dechreuwch gyda’n canllaw i Awyr Dywyll ym Mannau Brycheiniog, archwiliwch ein 10 o Leoedd i Fynd i Archwilio’r Sêr a dewch o hyd i le i aros lle gall y noson ddod yn rhan o’r profiad.
Cofiwch fod y rhain yn dirweddau gwaith ac yn gymunedau byw. Parciwch yn gyfrifol, cadwch sŵn a goleuadau mor isel â phosibl, gwiriwch y tywydd a’ch llwybr cyn mynd allan, a byddwch yn arbennig o ofalus os ydych yn crwydro mewn mannau anghyfarwydd ar ôl iddi dywyllu.
Yna rhowch ychydig funudau i’ch llygaid addasu.
Ac edrychwch i fyny.
Efallai fod yr haf yn dal gyda ni, ond mae tymor arall ym Mannau Brycheiniog eisoes yn dechrau..