Llanymddyfri
Yn swatio ar gyrion gorllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae Llanymddyfri yn dref farchnad swynol yn Sir Gaerfyrddin. Wedi’i lleoli ar gymer ffyrdd yr A40 a’r A483 ac ar lannau Afon Tywi, mae’n borth i dirweddau syfrdanol Bannau Brycheiniog a Mynyddoedd Cambria.
Llanymddyfri
Mae hanes cyfoethog Llanymddyfri yn cael ei arddangos gan adfeilion Castell Llanymddyfri sydd yn cynnig golygfeydd panoramig o’r dref a chefn gwlad. Mae’r dref yn anrhydeddu gorffennol y porthmyn â cherflun trawiadol o Llywelyn ap Gruffydd Fychan. Gerllaw, mae Canolfan Gymunedol ac Ymwelwyr Myddfai lle cewch ddysgu am hanesion Meddygon Myddfai, gan gyfuno hanes â chwedl

Mae Porth Amgueddfa ac Ymwelwyr Llanymddyfr
Mae Porth Amgueddfa ac Ymwelwyr Llanymddyfri, sydd wedi’i leoli yn Y Gannwyll, yn ganolbwynt ar gyfer hanes lleol. Mae’n tynnu sylw at enwogion fel Williams Pantycelyn a Twm Siôn Cati ac yn archwilio cysylltiadau â meddygon Myddfai. Mae’n cael ei redeg gan wirfoddolwyr ac ar agor o Ddydd Mawrth i Ddydd Sadwrn rhwng 11am a 2 pm. Mae cymorth achyddol ar gael ambell ddiwrnod. Ymweliad hollbwysig ar gyfer y sawl sydd am wybod rhagor am orffennol Llanymddyfri.

Eglwys Sant Dingat
Eglwys Blwyf Anglicanaidd, Gradd II* Rhestredig yw Eglwys Sant Dingat yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin. Yn dyddio o’r 14eg ganrif, mae’n cynnwys tŵr gorllewinol nodedig a phensaernïaeth ganoloesol. Mae’r Eglwys wedi cael ei hadfer a gwnaethpwyd gwaith helaeth yn y 19eg ganrif ac ar ddechrau’r 20ed ganrif. Mae’n parhau i fod yn dirnod hanesyddol, amlwg yn y dref.

Dewch yn Egnïol
I’r sawl sydd wrth eu bodd yn yr awyr agored, mae Llanymddyfri yn hafan. Mae’r ardaloedd cyfagos yn cynnig llu o weithgareddau, o heicio a beicio i bysgota a chanŵio. Mae Coedwig Crychan yn darparu llwybrau i gerddwyr, beicwyr a marchogion, tra bod Cronfa Ddŵr Llyn Brianne gerllaw yn cynnig golygfeydd a chyfleoedd trawiadol i anturio.

Beth Sy’n Digwydd yn Llanymddyfri
Mae’r dref yn ffynnu a cheir yma ysbryd cymunedol, bywiog. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau blynyddol fel Gŵyl Ddefaid Llanymddyfri a Phenwythnos Beiciau Modur Llanymddyfri, sy’n denu ymwelwyr o bell ac agos. Mae’r cyfleusterau yn cynnwys canolfan hamdden fodern, Ysgol Gynradd a Choleg enwog, Llanymddyfri sy’n adnabyddus am ei gyfraniad i rygbi Cymru. Mae’r Clwb Rygbi lleol; Clwb Rygbi Llanymddyfri a elwir yn annwyl yn “The Drovers,” / “Y Portmyn” yn cystadlu yn Uwch Gynghrair Cymru, gan danlinellu traddodiadau rygbi arbennig y dref.
Beth Sy’n Digwydd yn Llanymddyfri
Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau