Darganfod y Mannau Gwyllt
O raeadrau cudd a choetiroedd hynafol i gopaon mynyddoedd anghysbell, profwch fyd natur ar ei fwyaf amrwd a syfrdanol. Perffaith ar gyfer anturiaethwyr a phobl sy’n hoff o fyd natur sy’n ceisio heddwch neu ryfeddod.
Syllu ar y Sêr
Mae awyr dywyll y parc yn ei wneud yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, sy’n ddelfrydol ar gyfer syllu ar y sêr. Boed ar dir, yn y dŵr, neu o dan y sêr, mae gan Fannau Brycheiniog atyniadau naturiol bythgofiadwy
Dark Sky Wales
Llyn Syfaddan
Mae Llyn Syfaddan, y llyn naturiol mwyaf yn ne Cymru, yn gartref i amrywiaeth hyfryd o adar a bywyd gwyllt – mae ‘cuddfan gwylio adar’ ar ochr Llangasty. Ar ochr Llan-gors gallwch ymweld â’r castell ynys canoloesol (crannog), neu gallwch logi cwch i fynd allan ar y Llyn.
Llangorse Lake Boat Hire and Fishing
Pen y Fan
Archwiliwch Ben y Fan, copa uchaf De Cymru, am olygfeydd panoramig anhygoel. Gallwch ddal bws i Storey Arms a cherdded o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhont ar Daf.

Ogofâu Arddangos Dan yr Ogof
Mae Dwyrain y Parc Cenedlaethol yn Geoparc UNESCO. I ddarganfod mwy am ddaeareg y parc gallwch ryfeddu at y systemau ogofâu calchfaen, fel y rhai yn Ogofâu Arddangos Dan yr Ogof (atyniad sy’n addas i deuluoedd).
Dan yr Ogof, National Showcaves Centre for Wales
Bro’r Sgydau
Mae Bro’r Sgydau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn amgylchedd gwarchodedig. Mae llwybrau serth gyda grisiau anwastad yn arwain at raeadrau ysblennydd fel Sgwd yr Eira, lle gallwch gerdded y tu ôl i’r dŵr sy’n tasgu. Mae’n denu nifer fawr iawn o ymwelwyr yn ystod yr adegau prysuraf ac mae’r ardaloedd parcio yn llawn yn aml.
Syllu ar y Sêr