Gwarchodfa Natur Pwll-y-wrach, Melin Talgarth a Chastell Bronllys
Archwiliwch dirweddau trawiadol y Mynyddoedd Duon, o harddwch agored Comin Rhos Fach i swyn hanesyddol Castell Crucywel. Dewch i ddarganfod golygfeydd syfrdanol, hanes cyfoethog, ac anturiaethau bythgofiadwy yng nghanol Bannau Brycheiniog.
Dechreuwch eich bore gyda thaith o amgylch y Warchodfa Natur hardd, Pwll-y-wrach. Mae’n gorwedd mewn dyffryn ag ochrau cul a serth, ac mae’r warchodfa yn goetir derw-ynn. Ym mhen dwyreiniol y warchodfa, mae’r afon Enig yn plymio i greu rhaeadr ysblennydd i mewn i gronfa dywyll a elwir yn ‘Bwll y Gwrachod’, a dyna ydy tarddiad enw’r warchodfa. Er mor hardd ydy’r Warchodfa drwy gydol y flwyddyn gyfan, efallai ei bod hi ar ei gorau yn y gwanwyn pan fydd clychau’r gog yn garped ar lawr y goedwig. Mae llwybr mynediad llyfn yn arwain o’r prif faes parcio i mewn i’r warchodfa – ond mae llwybr mwy anwastad, a mwdlyd weithiau, yn arwain i fyny at y rhaeadr. Dychwelwch i Dalgarth a pharcio yn y prif faes parcio. Cerddwch tuag at ganol y dref a stopio yn y Tŷ Tŵr (Tower House) o’r 13eg ganrif. Er bod ei ddefnydd gwreiddiol yn aneglur credir mai ei fwriad oedd amddiffyn croesiad yr afon Enig a’r dref. Yn y cyfnod diweddarach, defnyddiwyd y tŵr fel canolfan i gasglu rhenti a degwm gan stad Ashburnham. Mae bellach yn gartref i Ganolfan Wybodaeth ac Adnoddau Talgarth – ac yn cael ei redeg gan wirfoddolwyr, sy’n gallu ateb eich cwestiynau am yr ardal leol.
Ym mis Gorffennaf 2011, cafodd Melin Talgarth ei hadfer, a’i hagor i’r cyhoedd. Mae’r dref yn enillwyr diweddar o’r gystadleuaeth Loteri Fawr SOS Village y BBC, ac fe enillon nhw arian i adfer y felin ddŵr. Mae’r Felin Ddŵr hefyd yn cynnwys caffi ar lan yr afon, ac yn cynnig cynnyrch ffres wedi’u pobi, ac yn gwerthu cynnyrch a rhoddion lleol.
Ar ôl cinio, cewch fwynhau taith gerdded ar y llwybrau hygyrch sydd newydd eu hadfer ar lan yr afon. Ar gyfer y rhai sydd am ymestyn eu coesau ymhellach beth am fynd ar daith gerdded fwy sionc i Gastell Bronllys? Mae erbyn hyn yng ngofal Cadw, ac mae yna olygfeydd godidog yno, yn edrych dros yr afon Llynfi a Thalgarth. Mae dogfennau hanesyddol yn dweud wrthym fod hanes wedi ei newid yma pan syrthiodd darn mawr o waith maen oddi ar y castell, gan ladd etifedd gwrywaidd olaf Miles o Gaerloyw.
Amserlen Bosib
11.00 – 12.30
Dewch i fwynhau taith gerdded yng Ngwarchodfa natur Pwll- y- Wrach.
12.30 – 13.00
Dychwelyd i Dalgarth ac ymweld â’r Ganolfan Gwybodaeth ac Adnoddau a leolir yn y Tŵr hanesyddol.
13.00 – 14.00
Cinio yn Nhalgarth ac yna ymweld â’r felin ddŵr.
14.00 – 15.30
Ar ôl ymweld â’r felin ddŵr dyrys, ceisiwch gerdded i Gastell Bronllys a mwynhau’r golygfeydd gwych.
Ble mae e?
Gwarchodfa Natur Pwll-y-wrach
OS Map sheet 161
Cyfeirnod Grid SO165 326
O’r gyffordd yng nghanol Talgarth gyda’r Ganolfan Gwybodaeth i Ymwelwyr ar y dde, trowch i’r dde. Croeswch yr afon ac yna dilynwch y troad chwith sydyn sy’n arwain i mewn i Stryd Bell. Ar ôl 20 metr, trowch i’r chwith gyferbyn â gwesty’r Bell a dilynwch yr isffordd am un filltir a hanner.
Dafliad carreg o’r tai olaf yn Nhalgarth, fe welwch y maes parcio bychan ar yr ochr dde.
Gwelir Tŷ Twr, a Chanolfan Wybodaeth ac Adnoddau Talgarth wrth adael y maes parcio i gyfeiriad canol y dref, ac maent ar yr ochr chwith ar ôl croesi pont yr afon.
Oriau agor
Haf – Dydd Llun-Dydd Sadwrn
10.00am-4.00pm.
Dydd Sul 10:00-1:00.
Gaeaf – Dydd Llun i Ddydd Sadwrn
Dydd Sul 10:30-1:00.
10.30am-1.00pm.
Mae’r Ganolfan adnoddau ar y llawr gwaelod.
www.talgarthcentre.org.uk
Castell Bronllys OS 149,347 ar y llaw dde ar yr A479 rhwng Talgarth a Bronllys.
Ceir llefydd parcio yn y gilfan yn ymyl y Castell.
Cyfleusterau a Mynediad
Mae Gwarchodfa natur Pwll-y-Wrach yn agored i bawb, at ddibenion mwynhad tawel. Mae croeso i gŵn, ond dylid eu cadw dan reolaeth dynn.
Mae llwybr mynediad llyfn yn arwain o’r maes parcio i ganol y warchodfa. Oddi yno mae’r llwybrau yn fwy anwastad, ac weithiau yn fwdlyd, wrth fynd tuag at y rhaeadr.
Does dim cyfleusterau yn y warchodfa ond mae toiledau cyhoeddus yng nghanol Talgarth gyferbyn â’r archfarchnad fechan.
Siop Talgarth Mill, Y Felin, Sgwâr Talgarth LD3 0BW
01874 711352
www.talgarthmill.com
Ar agor o ddydd Llun-Sadwrn 10-4.
Does dim staff yng Nghastell Bronllys ond mae ar agor i’r cyhoedd heb dâl mynediad. Ar agor yn ddyddiol
o 10-4.
Mae’r Castell yn gofadail hanesyddol CADW gydag arwynebau anwastad a grisiau.
Nid oes cyfleusterau yn y Castell.
Ymlachiwch ger Llyn Syfaddan a’r eglwysi heddychlon ger Talgarth
Explore the stunning landscapes of the Black Mountains, from the open beauty of Rhos Fach Common to the historic charm of Crickhowell Castle. Discover breathtaking views, rich history, and unforgettable adventures in the heart of Bannau Brycheiniog.
Awgrymiadau amserlen
Cyrhaeddwch y maes parcio ar yr ochr ogleddol o Lyn Syfaddan – y llyn naturiol mwyaf yn Ne Cymru, wedi ei leoli yn y mynyddoedd. Cafodd ei greu gan rewlifoedd o oes yr iâ dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Dechreuwch eich taith gerdded drwy ymweld â Chanolfan Crannog Cymru. Mae Crannog yn fath o annedd llyn hynafol a adeiladwyd allan ar y dŵr fel trigfan amddiffynnol. Yr un yn Llangors yw’r unig un yng Nghymru a chredir ei fod wedi bod yn gartref i deulu brenhinol Brycheiniog yn y 10fed Ganrif. Gallwch ei weld o’r tŷ crwn hanesyddol a gafodd ei ail-adeiladu, sydd hefyd yn gweithredu fel canolfan ddehongli. Gallwch hyd yn oed briodi yno os ydych chi eisiau!
Take the way marked lake trail around the Western edge of the lake to Llangasty Church. Whilst the flower meadows towards Llangasty church are at their best in the summer months – the winter has its own pleasures, as the lake plays host to over twenty species of over-wintering birds which can be enjoyed from the Llangasty bird hide – which you will pass on the trail. Your turning point is at the Church of St Gastyn at Llangasty – although the building now present was extensively restored in the nineteen century – St Gastyn was a holy man who kept the flame of Christianity alight in the Western world in the fifth century and the first church was built on this site over fifteen hundred years ago. Return by the same route to the car park and take a well deserved lunch either at the cafe at the lake or at one of the pubs in Llangorse village.
Ar ôl cinio, ewch yn ôl i Dalgarth, a chael saib yn Nhrefeca er mwyn ymweld â’r amgueddfa yng Ngholeg Trefeca, cartref Howell Harri, arweinydd y diwygiad Methodistaidd Cymreig ar ddechrau’r 18fed canrif. Gorffennwch y prynhawn drwy ymweld ag Eglwys Sant Gwendolen yn Nhalgarth. Mae’r Eglwys hanesyddol yn dyddio’n ôl mewn mannau i’r drydedd ganrif ar ddeg ac yn enwog fel yr Eglwys lle cafodd Howell Harris ei dröedigaeth a’i gladdu yn y pen draw. Os ydych chi’n lwcus, efallai y clywch chi’r gloch – gan fod y chwe chloch yn gallu cyrraedd hyd at 38 trawiad.
Amserlen Bosib
10.00 – 10.30
Ewch i ganolfan Dehongli Crannog Cymru.
10.30 – 12.30
Dilynwch lwybr Llyn Syfaddan i Eglwys Llangasty ac yn ôl.
12.30 – 2.00
Mwynhewch ginio yn y llyn neu yn un o dafarnau Llangors.
2.00 – 3.00
Stopiwch yng Ngholeg Trefeca ac ymweld â’r amgueddfa er cof am Howell Harris.
3.00 – 4.00
Dychwelwch i’r prif faes parcio yn Nhalgarth a cherdded i fyny i Eglwys Sant Gwendolen.
Ble mae e?
Mae modd cyrraedd maes parcio Llyn Syfaddan, LD3 7TR trwy droi i’r dde oddi ar y B4560 o Dalgarth i Syfaddan yng nghanol y pentref, ar y ffordd fechan i Lanfihangel Tal-y-llyn. Gwelwch arwydd Llyn Syfaddan ar yr ochr chwith tua 200 metr ar ôl y troad. Coleg Trefeca, Trefeca, 0PP LD3 Aberhonddu
www.trefeca.org.uk Ffôn: 01874 711423
Mae Coleg Trefeca ym mhentref Trefeca ar y B4560 rhwng Llangors a Thalgarth. Mae Eglwys Sant Gwendolen yng nghanol Talgarth ac mae’n cael ei chadw dan glo. Mae’r allwedd i’r eglwys yn cael ei chadw yn y Ganolfan Wybodaeth, mae modd ei chasglu a’i dychwelyd yno. Mae’r eglwys yn daith fer ar droed o’r Ganolfan Wybodaeth a bydd cyfarwyddiadau yn cael eu darparu.
Canolfan Adnoddau a Gwybodaeth Talgarth, Y Sgwâr, Talgarth, Powys LD3 0BW www.talgarthcentre.org.uk Ffôn: 01874 712 226 Gallwch ddod o hyd i’r Ganolfan drwy adael y maes parcio i gyfeiriad canol y dref ac mae ar yr ochr chwith ar ôl croesi pont yr afon.
Opening Hours
Haf
Dydd Llun i Ddydd Sadwrn – 10.00 am to 4.00 pm.
Dydd Sul – 10.00 am – to 1.00 pm
Gaeaf
Dydd Llun i Ddydd Sadwrn – 10.30 am to 3.30 pm.
Dydd Sul – 10.30 am – to 1.00 pm
Llyn Syfaddan
Rhif Ffôn 01874 658226
Noder bod Llyn Syfaddan yn dueddol o orlifo ar adegau o law trwm ac mae hyn yn ei gwneud hi’n anodd cyrraedd Canolfan Crannog a’r llwybr ger y llyn. Mae toiledau cyhoeddus ar ochr chwith maes parcio Llyn Syfaddan. Mae yna doiled i’r anabl, ac mae modd cael mynediad iddo drwy allwedd radar. Mae caffi Llyn Syfaddan caffi ar agor 1 Ebrill – 1af o Dachwedd, Dydd Mawrth – Dydd Sul 09:00-6:00. 07967 285019- 1st November Tuesday – Sunday 9am-6pm. 07967 285019
Canolfan Crannog Llyn Syfaddan
Oriau agor
9.30am – 4.00 o ddydd Llun i Ddydd Sul. Nid oes tâl mynediad. Os ydych yn dymuno ymweld y tu allan i’r tymor – ffoniwch ymlaen llaw a bydd y perchnogion yn falch o wneud trefniadau i’w agor i chi . 01874 658226. Gallwch gyrraedd Canolfan Crannog ar hyd llwybr gwastad sydd fel arfer yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn – fodd bynnag, gall fod yn fwdlyd iawn dan draed ar adegau o law trwm. Mae yna siop fechan, bar a chychod i’w llogi yn ystod tymor yr haf.
Llwybr Lakeside
Mae Llwybr Lakeside yn wastad, a does dim camfeydd yno. Mae’n cael ei farcio gan byst gwyrdd ac mae byrddau gwybodaeth yn cael eu darparu mewn mannau ar hyd y ffordd. Glaswellt a phridd sydd ar lawr yn bennaf felly nid yw’n addas i gadair olwyn.
Eglwys Llangasty a Chuddfan Adar Llangasty
Map Landranger 161 OS 126,263 Mae Llangasty ychydig oddi ar y ffordd gefn rhwng Pennorth a’r Bwlch, ar ochr ddeheuol Llyn Syfaddan. Mae maes parcio bach llwch cerrig ger Eglwys Llangasty. Mae’r guddfan adar, sydd â meinciau a chanllawiau adar adeiledig yn cael ei gynllunio i ddarparu ar gyfer cadeiriau olwyn. Mae’n 700m o eglwys Llangasty – taith gerdded hamddenol lefel sy’n mynd drwy 3 giatiau mochyn cul . Os nad ydych yn gallu cerdded mor bell neu yn defnyddio cadair olwyn mae llwybr sy’n caniatáu ceir i ddod yn agosach at y guddfan adar. Os ydych am ddefnyddio’r llwybr hwn, cysylltwch â’r gwasanaeth warden parc cenedlaethol am fwy o fanylion. Nid yw’r daith yn addas ar gyfer eu defnyddio yn ystod cyfnodau gwlyb o’r flwyddyn.
Coleg Trefeca
Mae Coleg Trefeca yn ganolfan hyfforddi lleygwyr prysur ac yn achlysurol ni fydd modd cael mynediad i’r amgueddfa. Mae croeso i chi ffonio ymlaen llaw i wirio – 01874 711423. Mae’r amgueddfa ar agor fel arfer o ddydd Llun i ddydd Sul 10.00am – 4.00pm
Eglwys Sant Gwendolen
Saif yr eglwys ar fryn serth, byr. Mae modd gollwng teithwyr yn syth tu allan i’r eglwys os bydd angen ac fel arfer mae yna fan parcio weddol agos. Er bod y modd cael mynediad drwy giât mochyn – mae yna brif giât hefyd, y gellir ei hagor i ganiatáu mynediad i gadeiriau olwyn a bygis. Yr orsaf drên agosaf yw’r Fenni – mae Talgarth ryw 18 milltir o’r Fenni.
Ar y bws: Mae Talgarth yn cael ei wasanaethu gan fysiau i bob cyfeiriad, o Henffordd, Llanfair-ym-muallt, Y Fenni ac Aberhonddu.
Ewch i www.traveline-cymru.org.uk am yr wybodaeth teithio a’r amserlenni diweddaraf.
Y Mynyddoedd Duon: Comin Rhos Fach a Chastell Crucywel
Explore the stunning landscapes of the Black Mountains, from the open beauty of Rhos Fach Common to the historic charm of Crickhowell Castle. Discover breathtaking views, rich history, and unforgettable adventures in the heart of Bannau Brycheiniog.
Awgrymiadau amserlen
Gyrrwch hyd at Gomin Rhos fach, sydd wedi ei guddio o dan fynydd Y Das – lle gallwch ddechrau’r diwrnod gyda thaith gerdded a mwynhau golygfeydd godidog o’r Mynyddoedd Du
Gadewch eich car yn y lle parcio a cherdded yn ôl i lawr y rhiw i Eglwys Llaneleu, sy’n ymroddedig i Santes Elliw. Erbyn hyn, mae’r adeilad rhestredig gradd 1 o’r 13eg ganrif wedi cael ei digysegru, ac mae wedi ei gosod o fewn mynwent gaerog, hirgrwn a godwyd yn oes y Celtiaid. Mae erbyn hyn o dan ofal Cyfeillion Eglwysi Digyfaill.
Yn syth y tu allan i’r gât uchaf yn y fynwent i’r de mae’r ‘Goeden chwipio’ enwog – coeden ywen hynafol, a modd dod o hyd iddi ar hyd y ffordd sy’n arwain yn ôl i fyny i Gomin Rhos Fach. Chwiliwch am y tyllau lle gafodd dwylo’r dihirod eu clymu, fel cosb!
Os ydy’r tywydd yn ffafriol, gallwch fwynhau picnic i ginio neu ddychwelyd i Dalgarth am ginio yn un o’r tafarnau neu gaffis.
Ar ôl cinio ewch tuag at Grucywel. Sefydlwyd y Castell Tomen a Beili Castell yn ystod concwest Normanaidd ym Mrycheiniog, tra bod y tŷ cwrt cyfagos a’i wreiddiau yn y bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedd y Fychaniaid a oedd yn byw yno, yn deulu Cymreig cyfoethog dylanwadol, ac fe wnaethon nhw greu llys i greu argraff. Fodd bynnag pan wnaethon nhw adael yn y 18fed ganrif , fe wnaeth yr ŵyn a’r gwyddau symud i mewn! Mae wedi ei adfer yn llawn erbyn hyn, ac mae Cadw wedi creu cyfres o ystafelloedd i ddangos fel yr oedden nhw yn 1470 pan oedd Tre’r Tŵr yn rhan uchel o gymdeithas – profwch fywyd 15fed ganrif ar ei orau.
Amserlen Bosib
10.30 – 12.30
Mwynhewch daith gerdded bleserus ar Gomin Rhos Fach ac yna ymweld ag Eglwys Llaneleu – a gweld os allwch ddod o hyd i’r Goeden Chwipio.
12.30 – 13.30
Mwynhewch bicnic neu ginio yn un o dafarndai neu gaffis Talgarth.
14.00 – 16.00
Cyrraedd Llys a Chastell Tre-tŵr a threulio’r prynhawn yn mynd o gwmpas y Llys a’r castell canoloesol trawiadol, a gafodd ei adfer yn ddiweddar.
Ble mae e?
Dewch o hyd i Gomin Rhos Fach ac Eglwys Llaneleu (OS 18,503,418) drwy adael canol dref Talgarth ar y ffordd sy’n pasio tŵr y gwesty. Cadwch i’r chwith pan fydd ffordd yn rhannu. Wrth gyrraedd y gyffordd â’r eglwys o’ch blaen, trowch i’r dde a gyrru i fyny at Gomin Rhos Fach lle gwelwch chi ddigon o lefydd parcio. Mae’r ffordd yn gul gyda digon o lefydd pasio.
Llys a Chastell Tre-tŵr NP8 1RD www.cadw.wales.gov.uk
Ffôn: 01874 730279
Ar agor 7 diwrnod yr wythnos o 1 Ebrill – 31 Hydref 10:00-5:00.
1af Tachwedd – 31 Mawrth Ar gau bob dydd Llun.
Mae arwyddion i bentref Tre-tŵr oddi ar yr A479, 10 milltir i’r de-ddwyrain o Dalgarth. Ceir mynediad at y castell drwy gae â gât wiail. Mae yna baneli gwybodaeth. Darperir meinciau. Mae’r maes parcio gyferbyn â’r gofeb a than wair. Mae’r toiledau ar y safle yn cynnwys toiled allwedd radar.
Mae yna ramp ond rhaid cyrraedd y toiledau drwy fynd drwy’r tŷ a thros borfa. Efallai gall y ceidwad drefnu mynediad amgen. Mae gan lawr gwaelod Llys Tre-tŵr, y gerddi a’r tir, fynediad gwastad. Mae’r llwybrau allanol yn gadarn er mai porfa ydy’r rhan fwyaf. Llawr coblau sydd i’r iard.
Cost mynediad ar gyfer oedolion yw £3.60 a £2.60 ar y gyfradd is. Gall ymwelwyr anabl gael mynediad i’r safle yn rhad ac am ddim. Mae siop anrhegion ar y safle. Mae yna gaffi yng Nghwmdu ar yr A479 wrth ddychwelyd i Dalgarth.
Eglwys Llaneleu – nid oes cyfleusterau yn yr eglwys. Dylai’r allwedd i’r eglwys gael ei chasglu o a’i dychwelyd at yr heulfan gwyn (trwy gât wen) yn y Crochendy ar waelod Llys Llaneleu. Mae’r daith gerdded o’r tir comin, ac yn y fynwent, ar lethr ac efallai na fydd yn wastad dan draed.
Ar y Trên: Yn y Fenni mae’r orsaf agosaf. Mae Talgarth ryw 18 milltir o’r Fenni ar droed. Nid yw Llaneleu ar unrhyw lwybrau trafnidiaeth – ond mae taith gerdded o amgylch yr eglwys yn fanwl yn y llyfryn ‘Walks around Talgarth’, ac yn chwe milltir o hyd.
Ar y bws: Mae Talgarth yn cael ei wasanaethu’n dda gan fysiau i bob cyfeiriad, o Henffordd, Llanfair-ym-muallt, Y Fenni ac Aberhonddu. Edrychwch ar www.traveline-cymru.org.uk am yr wybodaeth teithio ac amserlenni diweddaraf.
Ar feic: mae Llwybr Cenedlaethol 8 yn pasio o fewn 5 milltir i Dre-tŵr.
Y Mynyddoedd Duon: Castell Dinas a’r Clwb Gleidio
Head for the sky with this itinerary – and enjoy a walk to the highest Castle ruins in Wales, and reputedly in England too, followed by an afternoon watching the skilled pilots of the Black Mountains Gliding Club soar along the mountain ridges.
Awgrymiadau amserlen
Dechreuwch y dydd trwy yrru i’r maes parcio o dafarn y Castell yn Pengenffordd ar yr A479 rhwng Talgarth a Chrucywel, lle gallwch adael eich car. Gadewch y maes parcio ar ochr Talgarth, yn agos at y bwrdd gwybodaeth, a dilyn y llwybr i fyny i Gastell Dinas yn uchel ar y grib uwchben. Bryn o’r Oes Haearn oedd y safle’n wreiddiol, ac fe adeiladwyd Castell Normanaidd caerog yn ddiweddarach ar y safle. Er bod y gweddillion yn dadfeilio erbyn hyn – mae’r golygfeydd i mewn i’r Mynyddoedd Du a thros Dalgarth tuag at Fannau Brycheiniog yn sicr wedi parhau i fod yr un mor dda!
Bydd y daith yn cymryd tuag awr ar gyfer person o ffitrwydd canolig ac mae yna rywfaint o deithiau cerdded gwych y gallwch eu gwneud o Gastell Dinas os ydych chi eisiau mynd ychydig ymhellach.
Os byddwch yn ymweld ar y penwythnos – gallwch gael cinio yn nhafarn y Castell. Neu ewch â phicnic, neu ddychwelyd i Dalgarth i gael cinio.
Ar ôl cinio ewch i ymweld â Chlwb Gleidio’r Mynyddoedd Du, sydd 970 troedfedd uwchben lefel y môr – dywedir mai dyma’r clwb gleidio crib a thon gorau yn y DU. Ac mae’n hynod ddiddorol i wylio’r gleidwyr yn cael eu tynnu i fyny ac yna’u rhyddhau i esgyn gyda’r adar. Gallai’r rhai dewr yn eich plith gynllunio ac archebu sesiwn flasu a chael y profiad llawn!
Amserlen Bosib
11.00 – 13.00
Taith Gerdded tuag at Gastell Dinas a mwynhau’r golygfeydd fel gwobr am eich llafur.
13.00 – 14.00
Ddychwelyd i Dalgarth i gael cinio.
14.00 – 16.00
Ewch i Glwb Gleidio’r Mynyddoedd Du a naill ai gwylio’r campau yn y fan honno drwy’r prynhawn – neu os ydych chi wedi archebu ymlaen llaw, cewch gyfle i fwynhau sesiwn flasu!
Ble mae e?
Castell Dinas – SO179301 mae yna lwybr troed yn arwain o’r maes parcio yn nhafarn y Castell. Argymhellir mynd a map OS.
Clwb Gleidio’r Mynyddoedd Duon – Mae wedi ei arwyddo oddi ar yr A479 ar yr ochr chwith rhwng Talgarth a Chrucywel.
Cyfleusterau a Mynediad
Castell Dinas is accessed via a steep and un-even footpath and has no facilities.
Ar drên: mae’r orsaf agosaf yn Y Fenni – mae Talgarth rhyw 18 milltir o’r Fenni.
Ar y bws: Mae Talgarth yn cael ei wasanaethu gan fysiau i bob cyfeiriad, o Henffordd, Llanfair-ym-muallt, Y Fenni ac Aberhonddu. Edrychwch ar www.traveline-cymru.org.ukam y wybodaeth deithio ac amserlenni diweddaraf.
Ar feic: Mae llwybr Cenedlaethol 8 yn mynd trwy Dalgarth.
10 syniad ar gyfer Hwyl i’r Teulu
Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yw’r maes chwarae eithaf i deuluoedd, gan gynnig gweithgareddau cyffrous, addysgiadol sydd yn aml am ddim. P’un a yw’ch teulu’n caru antur, natur neu dod o hyd i dawelwch, dyma 10 ffordd o wneud y gorau o’ch amser gyda’ch gilydd.
Bod yn Fforiwr Castell
Gadewch i anturiaethwyr grwydro adfeilion un o’r nifer o gestyll hanesyddol yn y Parc. Mae’r safleoedd dramatig hyn yn berffaith i blant archwilio a dychmygu eu hunain fel brenhinoedd neu farchogion sy’n amddiffyn y deyrnas.
Rhowch gynnig ar badlfyrddio neu weithgareddau eraill ar ddŵr
Cyflwynwch eich teulu i badlfyrddio mewn llyn neu gronfa ddŵr leol. Mae’n weithgaredd sy’n ddelfrydol i ddechreuwyr a gall fod mor hamddenol neu anturus ag y dymunwch; perffaith am ddiwrnod ar y dŵr.
Dysgwch am ffermio gyda'n ffermydd cerdded anifeiliaid neu antur.
Darganfyddwch bleserau ffermio â phrofiadau ymarferol ar ein ffermydd antur neu drwy fynd am dro ag anifeiliaid cyfeillgar fel alpacas, asynnod, defaid neu hyd yn oed moch. Mae’r tripiau hyn sy’n addas i deuluoedd yn caniatáu i blant ac oedolion ddysgu am fywyd fferm, cwrdd ag anifeiliaid a mwynhau hwyl awyr agored yn ein hardaloedd gwledig, hardd. Mae’n ffordd berffaith o gysylltu â natur a chreu atgofion a fydd yn parhau am byth.
Merlota
Ewch â’r teulu ar antur ferlota. Mae canolfannau marchogaeth lleol yn darparu ar gyfer pob lefel; o ddechreuwyr i’r profiadol gan sicrhau profiad diogel a chofiadwy i blant ac oedolion fel ei gilydd.
BwytaiDringo’r Bryniau a Helfa Drychfilod
Dewiswch lwybr cerdded mynydd hawdd I gymedrol ar gyfer diwrnod o ddarganfod. Dewch o hyd i bryfed, glöynnod byw a bywyd gwyllt wrth i chi ddringo. Dewch â barcud am ychydig o hwyl ychwanegol ar y copa.
Theatr BrycheiniogEwch â'ch teulu ar ddiwrnod o borthiant neu grefftau gwledig
Mae taith chwilota deuluol yn ffordd wych o gysylltu â natur—a mwynhau gwobr flasus ar y diwedd. Gallwn hefyd annog gwell dealltwriaeth o’n mannau gwyllt trwy ddysgu sgiliau crefftau gwledig.
Ymweld â'n Ogofâu mewn ffordd sy'n addas i'r teulu
Ewch ar daith o dan y ddaear yn un o ogofâu’r parc, lle gallwch edmygu’r stalactidau a’r stalagmitau a gweld yr afonydd tanddaearol. Mae rhai lleoliadau’n cynnig pethau ychwanegol sy’n addas i’r teulu gan gynnwys deinosoriaid a ffermydd anifeiliaid anwes.
Tafarndai ac Ystafelloedd TapGweithgareddau Antur Conquer
I blant a phobl ifanc sy’n caru her, ewch i ganolfan weithgareddau. O ddringo waliau a gwifrau zip i sgramblau mwdlyd a rhaffau uchel; mae digon i ddiddanu teuluoedd gweithredol. Dysgwch saethyddiaeth neu rhowch gynnig ar gaiacio neu badlfyrddio.
Syllu ar y SêrY Mynyddoedd Duon: Eglwysi a chapeli hynafol
What about exploring the ancient churches and chapels in the Black Mountains?
Awgrymiadau Amserlen
Dechreuwch eich dydd yn Eglwys Merthyr Issui yn Partrishow. Lleoliad bendigedig ar lethrau de orllewin cadwyn y Gader gyda golygfeydd ysblennydd. Tu mewn, byddwch yn gweld sgrin dderw a chroglofft o’r 15fed ganrif ac ar fur gorllewinol corff yr eglwys, ceir llun o ‘Amser’ wedi’i beintio, sef ysgerbwd gyda phladur, awrwydr a rhaw.
Ewch yn ôl ac arhoswch yng Ngwarchodfa Natur Cwm Coed-y-Cerrig. Mae yna lwybr pren hygyrch, ac i’r sawl sy’n teimlo’n egnïol, mae llwybr serth yn arwain drwy’r coed i’r copa. Edrychwch am gnau cyll agored ar hyd y lle – arwydd sicr bod y pathewod preswyl ar waith.
Ar ôl cerdded, ewch ar hyd Dyffryn Ewias i Landdewi Nant Hodni. Mae’n bosibl cael pryd o fwyd yng Ngwesty Priordy Llanddewi Nant Hodni, sy’n rhan o Briordy Awstinaidd gwreiddiol y 12fed ganrif.
Ar ôl cinio, beth am grwydro o amgylch adfeilion y Priordy ac eglwys Dewi Sant, sef man addoli ers 1500 o flynyddoedd.
Ewch ymlaen i fyny’r dyffryn i Gapel-y-Ffin – mae eglwys fechan y Santes Fair yma. Dywedwyd bod rhith o’r Santes Fair wedi ymddangos yn y caeau lle saif yr eglwys. Dywedodd Francis Kilvert, y dyddiadurwr enwog, ei fod yn ei atgoffa ef o dylluan; dywedir hefyd mai dyma oedd yr ysbrydoliaeth i enw ‘The Vision Farm’ yn nofel enwog Bruce Chatwin, ‘On the Black Hill ‘. Yn fwy diweddar, bu’r arlunydd enwog Eric Gill yn byw ac yn gweithio yn y pentref, ac mae’r fynwent yn cynnwys dwy garreg fedd wedi’u hysgythru ganddo.
Ewch yn ôl i lawr y dyffryn ac mae’r eglwys olaf am y dydd ar y chwith. Dyma Eglwys Sant Martin o Tours yng Nghwm-iou. Adeiladwyd yr eglwys ar ben drifft tirlithriad hynafol. Mae symudiad a setliad y ddaear wedi gwneud i’r adeilad oleddu i gyfeiriadau gwahanol. Mae mwy o oledd yn nhŵr yr eglwys na thŵr enwog Pisa!
Cyngor
Mae llawer o’r ffyrdd yn y Mynyddoedd Du yn rhai cul gyda mannau pasio; gallant fod yn hynod o rewllyd yn y gaeaf. Mae’r ffyrdd yn aml yn parhau’n rhewllyd am beth amser yn y mynyddoedd ar ôl i’r rhew doddi yn is yn y dyffrynnoedd. Mae’r signal ffôn yn wael os ar gael o gwbl. Mae arwyddion da ar gael, ond awgrymir eich bod yn mynd â map.
Taith Enghreifftiol
10.00 – 10.45
Ymweld ag Eglwys Partrishow.
10.45 – 12.15
Mynd am dro yng Ngwarchodfa Natur Cwm Coed-y-Cerrig.
12.15 – 13.45
Cael cinio yng Ngwesty Llanddewi Nant Hodni a chrwydro adfeilion y Priordy ac Eglwys Dewi Sant.
13.45 – 14.30
Drive to Capel-y-Ffin and visit the tiny church of St Mary the Virgin.
15.30 – 15.45
Dychwelyd i lawr y dyffryn ac ymweld ag eglwys Sant Martin o Tours yng Nghwm-iou
Ble mae ef?
Eglwys Patrishow
Gadewch Y Fenni ar yr A465 i gyfeiriad Henffordd. Gadewch yr A465 yn Llanfihangel Crucornau. Ar ôl 1.25 milltir, trowch i’r chwith tuag at Bwll Glo Fforest. Yn y gyffordd pum ffordd, dilynwch yr arwydd i Patrishow. Yn y gyffordd T nesaf (dim arwydd), trowch i’r dde. Mae’r eglwys ar y dde ar ôl tua milltir.
Gwarchodfa Natur Coed-y-Cerrig
Ewch yn ôl o Patrishow. Mae maes parcio bach y warchodfa natur ar y chwith ychydig ymhellach na’r gyffordd pum ffordd.
Priordy Llanddewi Nant Hodni
Troi i’r chwith wrth adael y warchodfa natur. Ar y gyffordd nesaf, troi i’r chwith a dilyn yr arwyddion am Landdewi Nant Hodni.Llanthony.
Capel-y-Ffin
Parhau i fyny’r cwm yn yr un cyfeiriad – mae Capel-y-Ffin bedair milltir yn nes ymlaen.
Cwm-iou
Dewch yn ôl lawr i’r cwm o Gapel-y-ffin. Mae’r arwydd at y pentref ar yr ochr chwith, oddi ar brif ffordd y dyffryn.
Days out around Talgarth and the Black Mountains
The eastern side of the Brecon Beacons National Park has peaceful churches and wonderful views of rolling hillsides. From Talgarth, it’s easy to get to tranquil beauty spots such as Llangorse Lake and Pwll-y-Wrach Nature Reserve.
Ffermwyr a Marchnadoedd Gwledig
Croeso. Bydd croeso cynnes pan fyddwch yn derbyn gwahoddiad i siopa’n lleol yn ein trefi marchnad, ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Marchnadoedd Misol
- Marchnad Bwyd a Masnachwyr Blaenafon: Bob yn drydydd dydd Sadwrn, 10am–3pm
- Marchnad Ffermwyr Aberhonddu: Ail ddydd Sadwrn, 10am–2pm
- Marchnad Ffermwyr y Fenni: Y Pedwerydd Dydd Iau, 9.30am – 2.30pm
- Marchnad Ffermwyr Llanymddyfri: Dydd Sadwrn cyntaf (Mai-Hydref), 10am–2pm
- Marchnad Sadwrn y Gelli: Dydd Sadwrn cyntaf (Ebrill–Hydref), 9am–2pm
- Marchnad Ffermwyr Neuadd Gymunedol Myddfai: Dydd Sul diwethaf (ac eithrio mis Rhagfyr), 12pm–3pm
- Marchnad Ffermwyr Parc Gwledig Craig-y-nos: Ail Sul, 11am–3pm
Marchnadoedd Wythnosol
- Marchnad y Fenni: Bob Dydd Mawrth, Gwener, a dydd Sadwrn, 6am – 5pm
- Marchnad y Gelli Gandryll: Bob Dydd Iau, 8am–1.30pm
- Marchnad Wledig Aberhonddu: Bob Dydd Gwener, 8am–1.30pm
- Marchnad Wledig Llandeilo: Bob dydd Gwener, 8.30am–12.30pm
Dod â ffermwyr a chynhyrchwyr bwyd a chrefftau ynghyd
Mae marchnadoedd ffermwyr a marchnadoedd gwledig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bob amser yn falch iawn i groesawu ymwelwyr. Mae’r cynulliadau bywiog hyn yn dod â ffermwyr, tyfwyr a chynhyrchwyr crefftau lleol ynghyd, gan gynnig cyfle i ddarganfod y bwyd, diod a’r nwyddau gorau sydd wedi’u cynhyrchu â llaw yn y rhanbarth.

Profwch flas unigryw cynnyrch lleol
P’un a ydych chi’n profi mêl a chawsiau arobryn a gynaeafwyd yn lleol, neu’n mynd â danteithion traddodiadol adref fel selsig a siytni, mae’r marchnadoedd hyn yn cynnig blas unigryw o dreftadaeth goginio gyfoethog y Parc. Dewch i gwrdd â’r gwneuthurwyr, rhannwch eu hangerdd am gynnyrch o ansawdd uchel a mwynhewch brofiad siopa lleol, unigryw.

Discover local delights
Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons) National Park offers a bounty of fine local produce. Shopping for unique gifts or a picnic of fresh, local goodies, you’ll find plenty to tempt your taste buds.
Renowned local foods
Bannau Brycheiniog/ Brecon Beacons National Park is renowned for it’s exceptional mountain lamb (particularly the Brecknockshire Cheviot breed), beef, venison, and multi award winning smoked products.
Cheeses like Y Fenni, St Illtyd, and Pwll Mawr cheddar (matured in a coal mine) are local specialties.
Apple juices and cider are pressed from local orchards, whisky and gin are matured in the caves under the park and mineral water from local springs is sold across the UK.
For dessert consider an indulgent ice cream from one of our extremely popular local producers – when the locals are queuing for it, you know it’s good.
Start for a true taste of Wales.
Black Mountains Smokery
Unique local producers and culinary specialties
Explore our Taste of the Bannau Brycheiniog/Brecon beacons page to learn more about our award-winning offerings. Bannau Brycheiniog / Brecon Beacons National Park has an outstanding agricultural heritage.
While you’re here get to know some of the people who work the land and make delicious food and drink from it’s ingredients. One of the best ways to do that is to sample their wares at our restaurants, pubs and cafés, or stock up for a picnic at our markets, farm shops, bakeries and delis.
Some of our local specialties, such as internationally saught after Penderyn whisky, and Pwll Mawr cheddar, are unique to the region
Bwyta ac yfedFarmers' Markets and Country Markets
Our farmers’ markets and food fairs bring together local farmers, growers and artisan producers.
They’re lively events where you can meet the makers, sample their creations, and take home delicious treats like cheese, honey, sausages, herbs, chutney and even laverbread.
Ffermwyr a Marchnadoedd Gwledig
Darganfod y Mannau Gwyllt
O raeadrau cudd a choetiroedd hynafol i gopaon mynyddoedd anghysbell, profwch fyd natur ar ei fwyaf amrwd a syfrdanol. Perffaith ar gyfer anturiaethwyr a phobl sy’n hoff o fyd natur sy’n ceisio heddwch neu ryfeddod.
Syllu ar y Sêr
Mae awyr dywyll y parc yn ei wneud yn Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, sy’n ddelfrydol ar gyfer syllu ar y sêr. Boed ar dir, yn y dŵr, neu o dan y sêr, mae gan Fannau Brycheiniog atyniadau naturiol bythgofiadwy
Dark Sky Wales
Llyn Syfaddan
Mae Llyn Syfaddan, y llyn naturiol mwyaf yn ne Cymru, yn gartref i amrywiaeth hyfryd o adar a bywyd gwyllt – mae ‘cuddfan gwylio adar’ ar ochr Llangasty. Ar ochr Llan-gors gallwch ymweld â’r castell ynys canoloesol (crannog), neu gallwch logi cwch i fynd allan ar y Llyn.
Llangorse Lake Boat Hire and Fishing
Pen y Fan
Archwiliwch Ben y Fan, copa uchaf De Cymru, am olygfeydd panoramig anhygoel. Gallwch ddal bws i Storey Arms a cherdded o faes parcio’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym Mhont ar Daf.

Ogofâu Arddangos Dan yr Ogof
Mae Dwyrain y Parc Cenedlaethol yn Geoparc UNESCO. I ddarganfod mwy am ddaeareg y parc gallwch ryfeddu at y systemau ogofâu calchfaen, fel y rhai yn Ogofâu Arddangos Dan yr Ogof (atyniad sy’n addas i deuluoedd).
Dan yr Ogof, National Showcaves Centre for Wales
Bro’r Sgydau
Mae Bro’r Sgydau ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn amgylchedd gwarchodedig. Mae llwybrau serth gyda grisiau anwastad yn arwain at raeadrau ysblennydd fel Sgwd yr Eira, lle gallwch gerdded y tu ôl i’r dŵr sy’n tasgu. Mae’n denu nifer fawr iawn o ymwelwyr yn ystod yr adegau prysuraf ac mae’r ardaloedd parcio yn llawn yn aml.
Syllu ar y Sêr