Pen y Fan am £1

Teithiwch yn syth i waelod mynydd uchaf De Cymru am £1 yn unig!

Mynydd Pen y Fan, sy’n 886 metr o uchder (2,900 troedfedd), yw pwynt uchaf De Cymru, ac yno ceir golygfeydd godidog o’r bryniau a’r cymoedd sy’n ei amgylchynu. Am £1 yn unig, allwch ddal y bws T4 neu’r T14 i Glynn Tarrell, Storey Arms a cherdded eich ffordd i gopa’r mynydd anhygoel hwn.  

Gellir prynu tocynnau’n uniongyrchol gan y gyrrwr. Mae’r gwasanaeth bws £1 ar gael ar unrhyw un o’r safleoedd aros ar hyd llwybr y bws T4 o Aberhonddu i’r Storey Arms a’r llwybr bws T14 a T4 o Ferthyr Tudful i’r Storey Arms.

Y Tocynnau Sydd Ar Gael:

– £1 tocyn sengl neu £2 tocyn dwyffordd

Dim ond gofyn i’r gyrrwr am docyn sy’n rhaid gwneud neu tarwch yn ysgafn wrth esgyn ac ymadael gyda PAYG er mwyn derbyn y pris gostyngedig ar gyfer y tocyn.

Mae’r cynnig ar gael i bob person, bob siwrnai.

Dim ond ar wasanaethau’r T4 a’r T14 o’r mannau aros canlynol mae’r cynnig yn ddilys:

Aberhonddu: Ystâd Ddiwydiannol Ffrwdgrech, Libanus, a’r Hostel Ieuenctid i’r Storey Arms

Merthyr Tydfil: Canol y Dre, Parc Manwerthu Cyfarthfa, Llwyn-On, a Nant-ddu i’r Storey Arms

Gallwch hefyd ddefnyddio’r gwasanaeth i deithio rhwng Aberhonddu a Merthyr Tudful.
Mae Aberhonddu’n dref farchnad hyfryd, ac yn le gwych i aros os ydych am grwydro’r Parc Cenedlaethol.

Ydych chi’n chwilio am wâc haws? Mwynhewch un o’r llwybrau cerdded prydferth iawn sy’n cychwyn yn syth o’r dref

Edrychwch ar yr amserlen fws yn y fan hon T4 – Newtown – Cardiff | TrawsCymru

Noder mai’r pris arferol sydd i bob tocyn y tu hwnt i’r daith benodol hon.

Things to do

Siop ar-lein y Parc Cenedlaethol

Dewch o hyd i amrywiaeth unigryw o fapiau, canllawiau a llyfrau i'ch helpu i gynllunio'ch ymweliad â'n Parc Cenedlaethol

Ymweld â'r siop