Blaenafon
Mae Blaenafon yn dref hanesyddol. Mae ei statws fel Safle Treftadaeth y Byd UNESCO yn cydnabod ei rôl wrth gynhyrchu glo a haearn yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Mae Blaenavon Cheese Company wedi’i leoli yma hefyd, felly mae’n werth aros i brynu cyflenwadau.
Am Flaenafon
Cydnabyddir Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO am ei chyfraniad eithriadol i’r Chwyldro Diwydiannol. Wrth ei chalon mae Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, lle gall ymwelwyr fynd o dan y ddaear i brofi bywyd glöwr. Mae’r dref hefyd yn gartref i Waith Haearn Blaenafon, tramffyrdd hanesyddol a chyfoeth o lwybrau treftadaeth sy’n cyflwyno ei gorffennol hynod ddiddorol. Mae’r prif atyniadau, gan gynnwys Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Gwaith Haearn Blaenafon, Canolfan Treftadaeth y Byd a Rheilffordd Dreftadaeth Blaenafon, i gyd o fewn ychydig funudau mewn car i’w gilydd.
Ewch i Ganolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon
Canolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon yw’r lle gorau i ddechrau, gan gynnig trosolwg o’r arddangosfeydd a’r teithiau, ynghyd â gwybodaeth i ymwelwyr.
Blaenavon World Heritage Centre and Visitor Information
Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru
Mae Big Pit yn cynnig arddangosfeydd a’r cyfle i wisgo helmed glöwr a mynd o dan y ddaear. Mae’r atyniad poblogaidd hwn yn uchel ei barch am reswm da.
Big Pit, National Coal Museum
Oeddech chi’n gwybod…
Un o ffeithiau llai adnabyddus Blaenafon yw Twnnel Pwll Du, a adeiladwyd ar ddechrau’r 19eg ganrif. Yn mesur tua 1,875 metr, hwn oedd y twnnel tramffordd hiraf ym Mhrydain a weithredid gan geffylau. Roedd y twnnel yn hollbwysig i gludo calchfaen o chwareli Pwll Du a Tyla i Waith Haearn Blaenafon, ac i gludo haearn crai i Efail Garnddyrys. Heddiw, mae’r twnnel yn heneb gofrestredig ac yn rhan o Dirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.
Neuadd y Gweithwyr Blaenafon
Mae Neuadd y Gweithwyr Blaenafon, sy’n enghraifft nodedig o sefydliad glowyr y Cymoedd, wedi’i hadnewyddu i fod yn ganolfan bwysig ar gyfer diwylliant a’r celfyddydau yng Nghymoedd Gwent. Mae ganddi awditoriwm 400 sedd gyda balconi a llwyfan llawn, sinema 80 sedd, ystafell snwcer, bar ac ystafelloedd cyfarfod. Mae’r Neuadd yn gwbl weithredol ac yn cynnal perfformiadau theatr, dangosiadau ffilm, cyfarfodydd a rhagor.
Llwybrau Cerdded
Mae yna nifer o deithiau cerdded syfrdanol ledled Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma rai o'n ffefrynnau