Sgydau
Profwch ddwr gwiwffydd Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons) Parc Cenedlaethol, lle mae dŵr yn llifo’n gollwng leoliadau hudolus ar gyfer ymchwilio a rhwyfo.
Profwch ddwr gwiwffydd Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons) Parc Cenedlaethol, lle mae dŵr yn llifo'n gollwng leoliadau hudolus ar gyfer ymchwilio a rhwyfo.
Mae rhai o’r mannau mwyaf prydferth a phoblogaidd y Parc Cenedlaethol ar ei ymyl dde-orllewinol. Yma, mae afonydd Mellte, Hepste, Pyrddin a Nedd-fechan yn troelli eu ffordd trwy geunentydd dwfn, coediog, dros gyfres o sgydau dramatig cyn ymuno ag Afon Nedd. Mae’n ardal o bwysigrwydd rhyngwladol ac wedi’i dynodi’n Ardal Gadwraeth Arbennig ac yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Mae’r ardal yn croesawu dros 300,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn aml mae’n eithriadol o brysur yn ystod yr haf ac ar benwythnosau.

Parcio
Mae yna dau faes parcio swyddogol yng Ngwlad y Sgydau sy’n cael eu rheoli gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Bydd y satnav yn eich anfon i lawr lonydd cul, troellog heb unrhyw fannau pasio.
Cwm Porth
Mynediad at faes parcio bychan i lawr lôn gul gyda system un ffordd. Yn llenwi’n gynnar yn y diwrnod ac mi allwch cael eich cyfeirio at faes parcio arall.
Pris: £6 y car a £7 y bws mini
Addas ar gyfer:
Ceir a beiciau
Bws mini wedi archebu lle o flaen llaw.
Ddim yn addas ar gyfer: Campervans (dim aros dros nos)
Adnoddau
Siop yn gwerthu lluniaeth
Toiledau

Gwaun Hepste
Pris:
£6 y car a £7 y bws mini
Addas ar gyfer:
Grwpiau o fwy na thri char
Cerbydau mwy gan gynnwys campervans (dim aros dros nos)
Ddim yn addas ar gyfer:
Bysiau a coetsys
Aros dros nos
Adnoddau
Toiledau (tymhorol)
Carafán lluniaeth codi’n sydyn (tymhorol)

Edrychwch ar eich ôl eich hunan
Cynlluniwch eich ymweliad. Talwch sylw i hyd a graddfa pa mor anodd yw’r llwybrau. Mae manylion ar ein tudalen Llwybrau Cerdded.
Gwisgwch yr esgidiau iawn. Gall y llwybrau fod yn serth, yn fwdlyd ac yn llithrig. Fe’ch cynghorir i wisgo esgidiau cryf gyda gafael da ar y wadn.
Mae’r afonydd yn oer iawn ar bob adeg o’r flwyddyn, peidiwch â chael eich temtio i nofio, gall sioc dŵr oer effeithio ar y nofwyr cryfaf. Mae marwolaethau ac anafiadau difrifol wedi digwydd.
Mae signal ffonau symudol yn annibynadwy. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynllunio’ch taith

Gofalwch am yr amgylchedd
Ewch â’ch ysbwriel adref gyda chi, does yna ddim biniau ar y llwybrau.
Gall tanau fod yn ddifäol i fywyd gwyllt, peidiwch â chael eich temtio i gynnau un.
Cadwch at y llwybrau sydd wedi’u marcio, dyma’r rhai mwyaf diogel.
Dilynwch y Côd Cefn Gwlad – Amddiffyn, Parchu, Mwynhau
