Gleidio a pharagleidio
Profwch y wefr o gleidio a pharagleidio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, lle mae esgyn yn uchel uwchben y tirweddau dramatig yn cynnig golygfeydd bythgofiadwy a gwir ymdeimlad o ryddid.
Anturiaethau yn yr Awyr
Mae caeau glaswelltog a bryniau’r Parc yn ddelfrydol ar gyfer gleiderau, paragleidrau a gleidwyr crog i esgyn a disgyn.
Bydd rhai peilotiaid yn hedfan dros 300m ar draws cefn gwlad ac yn esgyn hyd at 4 milltir. Mae Gleidwyr hefyd yn mwynhau hedfan yn uchel uwchben y dirwedd gwyrdd. Gallwch dderbyn hyfforddiant yn un o’n hysgolion cydnabyddedig, sydd hefyd yn lleoliadau rhagorol i’r rhai sy’n well ganddynt wylio’n ddiogel o’r ddaear.
Os oes gennych drwydded eisoes, cysylltwch â chlwb lleol i holi ble y gallwch hedfan.
Dim ond safleoedd cydnabyddedig y gellir eu defnyddio.

Paragleidio a gleidio crog
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’r ardal gyfagos yn cynnig rhai o safleoedd gorau’r DU ar gyfer paragleidio a gleidio crog. Mae cribau gogleddol y Parc sy’n edrych dros dirwedd hyfryd canolbarth Cymru yn berffaith ar gyfer esgyn i’r awyr. Mae bryniau cyfagos eraill hefyd yn addas. Gall peilotiaid esgyn dros gribau mynyddig a rhannu’r wybren â’r barcutiaid.
Mae Crickhowell Paragliding Cyf yn gweithredu o Grucywel. Maent yn cynnig cyfleoedd unigryw ar gyfer hediadau tandem neu os ydych yn dod i’r ardal i baragleidio, cysylltwch â nhw am fanylion. Cewch weld y Bannau o safbwynt gwahanol iawn. Mae Clwb Gleidio a Pharagleidio Crog De-ddwyrain Cymru yn un o bum clwb rhanbarthol Ffederasiwn Hedfan Rhydd Cymru; y gymdeithas sy’n rheoli’r rhan fwyaf o safleoedd hedfan.
Mae ganddi tua 400 o aelodau ac mae’n rheoli hediadau o sawl safle yn y Parc.
Mae croeso bob amser i ymwelwyr ar y safleoedd hyn, ar yr amod eu bod yn dychwelyd y lletygarwch trwy gadw at reolau’r safle. Mae llawer o’r safleoedd hedfan yn gweithredu o dan gytundebau â thirfeddianwyr a ffermwyr sy’n pori, ac yn aml mae rheolau ar waith i barchu eu hanghenion. Helpwch y Clwb i gynnal y safleoedd hyn drwy ymddwyn yn gyfrifol.
Rhaid i holl beilotiaid gleidio a pharagleidio yn y DU fod yn aelodau o Gymdeithas Gleidio a Pharagleidio Crog Prydain. Rhaid i ymwelwyr o’r tu allan i’r DU ddangos bod ganddynt yswiriant trydydd parti digonol a thrwydded briodol FAI (Fédération Aéronautique Internationale).

Gleidio
Mae Clwb Gleidio’r Mynyddoedd Du yn gweithredu o fferm heb fod ymhell o Dalgarth sydd wedi’i lleoli yng ngogleddo y Mynydd Du.
Yma, ymhlith caeau sy’n frith o ddefaid mae rhedfa laswellt â hosan wynt. Efallai mai maint y cae, y llethr, y coed neu agosrwydd y mynyddoedd eu hunain ydyw, ond dywedir bod y llain awyr hwn yn eithaf heriol, hyd yn oed i beilotiaid profiadol.
Mae’r clwb yn gyfeillgar ac yn arbenigwr a byddant yn eich croesawu p’un a ydych yn ddechreuwr sy’n chwilio am daith dreial tandem neu’n beilot profiadol sy’n awyddus i fwynhau amodau ardderchog yr ardal.
Am fwy o wybodaeth am gleidio, cysylltwch â Chymdeithas Gleidio Prydain.
Our local gliding experts