Dewch o hyd i bopeth sydd ei angen arnoch i gynllunio’ch antur ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gyda gwybodaeth ddefnyddiol ac awgrymiadau i ymwelwyr.

Cyrraedd yma

P’un a ydych chi’n cyrraedd mewn car, bws, trên neu feic, dyma wybodaeth i’ch helpu. Dewch o hyd i’r llwybrau gorau, awgrymiadau teithio, ac opsiynau trafnidiaeth gynaliadwy i wneud eich taith yn llyfn ac yn rhydd o straen.

Cyrraedd yma

Bod yn barod

Gwnewch yn siŵr eich bod yn barod am yr antur! Mae ein canllaw Bod yn Barod yn cynnwys awgrymiadau hanfodol ar y tywydd, diogelwch, a beth i ddod gyda chi, fel y gallwch chi fwynhau’r Parc Cenedlaethol yn hyderus.

Byddwch yn barod

Ein siop ar-lein

Chwilio am fapiau, canllawiau, a phecynnau antur i’ch helpu i archwilio Bannau Brycheiniog? Ewch i’n Siop Ar-lein am adnoddau defnyddiol, o ganllawiau cerdded i becynnau gweithgareddau sy’n berffaith ar gyfer cynllunio’ch taith. Sicrhewch bopeth sydd ei angen arnoch i wneud y gorau o’ch ymweliad!

Ymweld â'r siop
a dog sat in a field of daffodils

Croesawu Cŵn

Y Bannau yw’r lle delfrydol i chi a’ch cyfaill bedair coes i ddod am wyliau. Mae digonedd o lety sy’n croesawu cŵn i sicrhau fod pawb yn cael yr arhosiad gorau posib.
Gyda chymaint o ofod i fynd i grwydro ynddo fe fyddwch chi a’ch ci yn cael amser gwych yn ein Parc Cenedlaethol. Gyda milltiroedd lawer o lwybrau ac erwau o dir comin perffaith ar gyfer mynd am dro, mae’r Bannau yn lle cyffrous dros ben i ymwelydd â thrwyn smwt a chynffon eiddgar.
Mae yna atyniadau diddiwedd sy’n gadael i gŵn ymuno yn yr hwyl yn y Bannau! Bydd digon o ddewis ar gael i chi a Smot o blith ein dewisiadau pennaf o atyniadau sy’n croesawu cŵn yn y Parc Cenedlaethol.

Croesawu Cŵn

Ein canolfannau ymwelwyr

Trwy ein canolfannau croeso croesawgar, fe gewch wybodaeth, mapiau, a chyngor arbenigol i gynllunio'ch antur. Mwynhewch gaffis, arddangosfeydd, a golygfeydd godidog, gan eu gwneud yn fannau cychwyn perffaith ar gyfer eich taith.

Tourist Information Centres

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr

Er mwyn deryn y newyddion diweddaraf, tanysgrifiwch i'n cylchlythyr

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr