Hwyl y Nadolig ym Mharc Gwledig Craig y Nos: Canfod Ceirw Siôn Corn & Ffair Nadolig

6th Dec 2025 – 21st Dec 2025

Mae Parc Gwledig Craig y Nos yn llawn hwyl y Nadolig yr wythnosau hyn, gyda dau weithgaredd tymhorol gwych i ymwelwyr o bob oed — Llwybr Ceirw Siôn Corn a’r Ffair Nadolig yn Ystafell Hibbert.

Llwybr Ceirw Siôn Corn

Mae Siôn Corn wedi colli ei geirw – ac mae eisiau eich help! Ewch am dro drwy’r coetir i ddod o hyd i’r naw ohonynt, pob un wedi’i greu’n glyfar o foncyffion a’i guddio ymhlith y coed. Casglwch eich taflen lwybr o’r Sied Wybodaeth neu’r Caffi a mwynhewch antur Nadoligaidd i’r teulu i gyd yng nghanol harddwch Bannau Brycheiniog.

Find Santa’s Reindeer trail bilingual poster.

Ffair Nadolig yn Craig y Nos

O 6–21 Rhagfyr, mae’r Ystafell Hibbert ar agor bob dydd (10.30am–4.30pm) ar gyfer Ffair Nadolig Parc Gwledig Craig y Nos. Porwch grefftau, celf a rhoddion lleol o’r Emporium; gwrandewch ar adloniant a straeon; mwynhewch fwydlen Nadoligaidd yn Nwy Afon; a dewiswch goeden Nadolig Gymreig ffres i’w chymryd adref.

Mae’r ddau weithgaredd yn cynnig ffordd gynnes a chroesawgar o ddathlu’r tymor mewn un o gorneli mwyaf hudolus Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Bwydlen Nadolig Dwy Afon

Mae Dwy Afon yn gweini bwydlen Nadolig gynnes a chysurus drwy gydol cyfnod y Nadolig – yn berffaith ar ôl taith aeafol o amgylch Parc Gwledig Craig y Nos. Disgwyliwch ffefrynnau cysurlon fel sglodion llawn blasau’r tymor, rholiau brioche gyda stwffin a chranberis, a dewis o baninis Nadoligaidd.

Mae’r adran losin hefyd yn llawn trîtiau tymhorol, o siocledi poeth cinnamon-bun i lattes Black Forest – yn berffaith ar gyfer eiliad dawel wrth y tân neu i’w mwynhau yn yr awyr agored gyda golygfa o’r gerddi.

Ffordd syml a hamddenol o ychwanegu ychydig o flas Nadolig at eich ymweliad.

Festive Menu Craig Y Nos Cafe