Mae Comin Mynydd Illtud yn cynnig golygfeydd panoramig o bedair cadwyn o fynyddoedd gyda llwybrau gwahanol ar gyfer gwahanol alluoedd, o fewn pellter byr i Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol gyda’i gyfleusterau.

Mae Comin Mynydd Illtud, sy’n dro hamddenol neu’n daith gerdded gyflym, yn cynnig llwybrau gwahanol ar gyfer gwahanol alluoedd, o fewn pellter byr i Ganolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol gyda’i gyfleusterau. Mentrwch i fwynhau golygfeydd panoramig o’r pedair cadwyn o fynyddoedd ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Show more

Of interest

Cadwch olwg fry uwch eich pen er mwyn gweld y barcud coch ar adain y gwynt ar berwyl i chwilio am ysglyfaeth efalallai. Mae’r meistri hyn â’u hadenydd yn hwylio’n ddidrafferth ar y ceryntau aer gan droi a throelli eu cynffonau fforchiog.

Yn y gwanwyn a’r haf bydd cyfle i weld a chlywed cân yr ehedydd, tinwen y garn a chlochdar y cerrig hefyd wrth iddyn nhw chwilio’n brysur am gymar, neu godi nyth a magu cywion.

Wrth i chi sefyll ar Dwyn y Gaer â’i olygfeydd eang draw am Ben-y-fan a’r Corn Du, y Mynyddoedd Duon ac Afon Wysg yn nadreddu oddi tanoch, oedwch ennyd i ystyried y bobl hynny a fu’n byw yn y fryngaer hon yn yr Oes Haearn.

Yn ystod y 1990au fe gafodd yr eglwys o’r G19 a fu gerllaw, ac a gysegrwyd i Illtud Sant, ei dymchwel, ond mae enw’r mynach Celtaidd hwn yn dal yn fyw ar y tir comin.

Grade 3
Challenging
Type of route: Circular
Distance: 5km / 3.11miles
Approximate time: 3 hours

Navigation

Mae’r adran hon yn eich helpu i ddod o hyd i’ch ffordd i fan cychwyn y llwybr.

OS grid reference: SN978263
Postcode: LD3 8ER

Beth hoffech chi weld?

Cymrwch eich amser, mae digonedd o bethau ar gael.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr

Er mwyn deryn y newyddion diweddaraf, tanysgrifiwch i'n cylchlythyr

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr