Beth am ymestyn y coesau ar y daith yma ar hyd glannau’r dŵr?

Yma gallwch fwynhau’r gwrthgyferbyniad rhwng llonyddwch planhigfa coniffer ar y naill law a’r dŵr agored ar y llaw arall, gyda phaned a rhywbeth i’w fwyta yn y fargen. Taith gerdded gradd 2 yw hon – llwybrau sydd ag wyneb caled neu gadarn ond â rhai rhannau ychydig yn fwy rhydd, goleddfau ysgafn a gatiau ond dim camfeydd. Mae prinder llefydd i eistedd hefyd.

Show more

Of interest

Byddwch yn camu i ganol coedwig conwydd distaw gyda thrwch o fwsogl sy’n rhoi ymdeimlad ffres i’r daith yn union ar ôl i chi groesi’r troad i’r maes parcio a thrwy’r safle picnic. Plannwyd y goedwig yn fuan wedi agor y Gronfa ym 1926 er mwyn atal erydiad y pridd o’r llechweddau i’r dŵr. Ysgogwyd adeiladu’r tair cronfa yng Nghwm Taf Fawr gan ddau haint o golera a phrofiadau torcalonnus trigolion yng Nghaerdydd ar ddiwedd y G19 a dechrau’r G20. Cewch gip ar yr olaf a’r mwyaf o’r tair cronfa rheng y boncyffion coed. Mae golygfeydd godidog yn ymagor o’ch blaen wrth i chi ddynesu at yr argae a cherdded drosti. Y newyddion da yw y gall dyfrgwn, gwyaich mawr copog, hwyaid llygad aur, hwyaid danheddog a chwtieir hefyd fanteisio bellach ar ddŵr glân y gronfa. Oedwch am ennyd i gael mwy o’r hanes gan y garreg gerdd a’r paneli ar hyd y daith.

Gadewch i ni wybod am unrhyw anawsterau gyda’r daith trwy ein system adrodd ar-lein.

Grade 2
Moderate
Type of route: One way
Distance: 4.6km / 2.86miles
Approximate time: 1.5 hours

Navigation

This section helps you find your way to the starting point of the route.

OS grid reference: SO009121
Postcode: CF48 2HU

Beth hoffech chi weld?

Cymrwch eich amser, mae digonedd o bethau ar gael.

Tanysgrifiwch i'n cylchlythyr

Er mwyn deryn y newyddion diweddaraf, tanysgrifiwch i'n cylchlythyr

Tanysgrifiwch i’r cylchlythyr