Discover the charm of the canals in Bannau Brycheiniog (Brecon Beacons) National Park, where peaceful waterways wind through stunning landscapes, perfect for boating, walking, and cycling.

Mae Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, a fwydir gan ddyfroedd clir yr Afon Wysg, yn lân a dymunol, er y gall edrych yn fwdlyd ar adegau. Camlas Brycheiniog a’r Fenni oedd yr enw gwreiddiol ar y rhan 35 milltir rhwng Basn Aberhonddu a Basn Pont-y-moel. Mae’i chwrs gwreiddiol bron i gyd wedi’i adnewyddu ac mae’n bosibl teithio ar ei hyd – yr unig ran coll yw darn byr ar y pen uchaf y tu hwnt i Fasn Aberhonddu.

Mae ychydig yn llai na rhair milltir o Fasn Aberhonddu i’r loc cyntaf ym Mrynich. Mae pum loc yn agos ar ei gilydd yn Llangynidr ond nid oes yr un loc ar y 23 milltir olaf o Langynidr i Bont-y-moel. Mae’r rhan fwyaf o’r gamlas, yn ddeiliog a heddychlon. Mae’n hyfryd yn y gwanwyn pan fydd y coed yn blaguro, ac yn wych yn yr hydref pan fydd y lliwiau ar eu gorau.

Mae’r gamlas yn dilyn amlinell y llethrau y rhan fwyaf o’i thaith, ac mae’r golygfeydd yn hyfryd. Mae’n mynd drwy bentrefi tlws Pencelli, Talybont a Llangynidr cyn cyrraedd tref fechan, ddiddorol Crucywel gyda’i Bullpit Meadows hyfryd ar lan y dŵr.

Yna, wedi teithio trwy Langatwg, Gilwern, Gofilon a Llan-ffwyst ger y Fenni, mae’n cyrraedd Glanfa ysblennydd Goetre  sydd nepell o ddiwedd y gamlas ym Masn Pont-y-moel. Yn y lanfa, mae marina gyda chychod i’w llogi a chanolfan ymwelwyr, bwyty ac ardal bicnic yr Ymddiriedolaeth Gamlesi ac Afonydd. Mae’n lle arbennig, â chysylltiad agos â Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon, un o darddleoedd y Chwyldro Diwydiannol.

Cael hwyl ar ein camlas

Mae’n rhaid i bob cwch sy’n defnyddio Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, gan gynnwys canŵod, gael Trwydded Cychod Dyfrffyrdd Prydain. Mae hon yn cael ei chynnwys yn nhâl aelodaeth Undeb Canŵio Prydain neu Gymdeithas Canŵio Cymru, neu gellir eu prynu gan yr Ymddiriedolaeth Camlesi ac Afonydd

Gellir llogi canŵod, cychod cul a chychod modur bach mewn sawl man ar y gamlas gan gynnwys Basn Aberhonddu, Llangynidr, Gilwern a Glanfa Goetre.

Wrth deithio ar gwch gul, mae’n cymryd awr neu ddwy i fynd o Aberhonddu i Loc Brynich ac yn ôl, neu saith awr i fynd o Aberhonddu i Langynidr, gan ystyried Twnnel Ashford a lociau Llangynidr.

Os oes well gennych adael i rywun arall gymryd y llyw, gallwch fynd am daith hyfryd ar gwch cul o Fasn Aberhonddu i Loc Brynich. O’r dŵr, mae golygfeydd godidog o’r Bannau Canolog gyda’r Afon Wysg yn pefrio oddi tanynt. Mae teithiau camlas hefyd o Lanfa Goetre.

Llwybrau tynnu a theithiau beic

Gallwch archwilio’r 35 milltir gyfan o’n llwybr tynnu, gan wylio bywyd gwyllt, ac ymweld â thafarndai a mannau picnic ar hyd y ffordd.

O Fasn Aberhonddu, mae llwybr pob gallu, byr, sy’n pasio byrddau gwybodaeth, prosiectau celf gymunedol, ardal bicnic ac ail-gread o dram a dynnir gan geffyl ar ddarn byr o drac.

Basn Aberhonddu yw dechrau Llwybr Taf  Taf (Llwybr Beicio Cenedlaethol 8). Mae rhan gyntaf y llwybr beicio pellter hir a cherdded hwn yn mynd â chi ar hyd y llwybr tynnu heibio olion hen odynau calch. Mae’r daith dair milltir o Aberhonddu i Loc Brynich yn hawdd ac yn hynod o ddymunol. Pa bryd bynnag y byddwch chi’n beicio ar y llwybr tynnu, cofiwch ildio i gerddwyr.

Things to do

There are an abundance of things to do in the national park.

a waterfall in autumn
Gwarchodfa Natur Pwll-y-wrach, Melin Talgarth a Chastell Bronllys

Ymlachiwch ger Llyn Syfaddan a’r eglwysi heddychlon ger Talgarth

Y Mynyddoedd Duon: Comin Rhos Fach a Chastell Crucywel

an ariel view of an iron age fort in the evening sun from a glider
Y Mynyddoedd Duon: Castell Dinas a’r Clwb Gleidio

Y Mynyddoedd Duon: Eglwysi a chapeli hynafol

Days out around Talgarth and the Black Mountains

Geogelcio a chyfeiriannu

Gleidio a pharagleidio

Syllu ar y Sêr

Anturiaethau tanddearol

Wellness and Spa Retreats

Celfyddydau Perfformio ac Adloniant

trans wales trails
Marchogaeth

Horseback Adventure Routes

Horse Riding Holidays

trans wales trails
Horse Riding and Trekking