Paratowch ar gyfer eich antur gydag awgrymiadau i’ch helpu i gadw’n ddiogel a gwneud y gorau o’ch ymweliad.

Ewch â'r offer cywir, gwiriwch y tywydd a sicrhewch fod gennych y sgiliau a'r wybodaeth gywir

Gall tirweddau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fod yn lefydd peryglus heb i chi gymryd y camau cywir i gadw eich hunain yn ddiogel. Dylech baratoi drwy gario’r offer cywir, gadw llygaid ar ragolygon y tywydd a chael y sgiliau hanfodol ar gyfer eich taith.

Mountain Rescue team navigating in the dark to a rescue, wearing headtorches

Offer  

Dylech gario’r offer cywir i sicrhau y gallwch wynebu unrhyw ddigwyddiadau annisgwyl neu newid yn y tywydd. 

  • Map a chwmpawd: Cariwch fap a chwmpawd gyda chi, hyd yn oed os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n gyfarwydd â’r llwybr. 
  • Haenau thermal: Gall y tymheredd fynd yn oerach ar gopaon mynyddoedd. Cariwch haenau ychwanegol gyda chi bob amser. 
  • Haenau gwrth-ddŵr: Gall y tywydd newid o fewn munudau. Peidiwch â chael eich dal allan gan y glaw. 
  • Esgidiau cerdded pwrpasol: Gall tir anwastad arwain at anaf. Gwisgwch esgidiau cerdded addas gyda gwadn trwchus ac ochrau uchel. 
  • Ffôn wedi’i wefru’n llawn: Gwnewch yn siŵr bod eich ffôn wedi’i wefru’n llawn cyn cychwyn ar eich taith ac osgoi ei ddefnyddio oni bai ei fod yn argyfwng. 
  • Fflachlamp a chwiban: Cariwch fflachlamp a chwiban rhag ofn i chi gael eich dal ar gopa ar ôl iddi dywyllu. 
  • Pecyn cymorth cyntaf: Gall pecyn cymorth cyntaf fod yn ddefnyddiol i lanhau a gorchuddio unrhyw grafiadau neu glwyfau bach a helpu gyda phothelli. 
  • Bwyd a diod: Gwnewch yn siŵr eich bod yn cario digon o fwyd a diod, yn enwedig mewn tywydd cynhesach. 

Tywydd ac amodau  

Gall y tywydd mewn mannau ucheldirol o’r Parc Cenedlaethol newid o fewn oriau. Mae paratoi ar gyfer y newidiadau posib hyn yn hanfodol. 

  • Gwirio’r rhagolygon: Yr adeg gorau i wirio’r rhagolygon ydi ychydig oriau cyn cychwyn eich taith. Bydd y rhagolygon yn fwy cywir ar yr adeg yma. Defnyddiwch wasanaeth y Met Office ar gyfer y rhagolygon diweddaraf. 
  • Cynllunio ar gyfer yr amodau: Peidiwch a bod yn or-ddibynnol ar y rhagolygon. Cofiwch y gall y tywydd newid yn ddi-rybudd a bydd angen i chi gario’r offer ar gyfer pob math o amodau. 
  • Cadwch eich cynlluniau’n hyblyg: Os nad ydych chi’n teimlo’n gyfforddus gyda’r amodau, ystyriwch newid eich cynlluniau neu droi’n ôl. 

Sgiliau a gwybodaeth

Mae cael y sgiliau a’r wybodaeth perthnasol yn hanfodol i gadw’n ddiogel mewn rhai mannau.

  • Ffitrwydd: Dylech sicrhau fod eich lefel ffitrwydd yn addas ar gyfer y daith o’ch blaen. Os ydych chi’n ansicr o’ch lefel ffitrwydd, cwblhewch daith llai llafurus gyntaf. 
  • Adnabod y daith: Dylech ddod i adnabod y daith cyn i chi gychwyn a chynllunio ar gyfer unrhyw newid yn y tywydd. 
  • Sgiliau: Gwnewch yn siŵr fod gennych y sgiliau hanfodol ar gyfer y daith er enghraifft sgiliau darllen map a defnyddio cwmpawd. 
  • Bod yn ymwybodol o’ch gallu chi a gallu’r grŵp: Dylech gynllunio eich taith yn seiliedig ar eich gallu chi neu, os yn teithio mewn grŵp, ar allu’r unigolyn lleiaf medrus yn y grŵp. 
  • Rhannu eich cynlluniau: Cofiwch ddweud wrth rhywun am eich cynlluniau cyn cychwyn ar y daith. 

Beth i’w wneud mewn argyfwng  

Mewndir: Galwch 999 a gofynnwch am yr heddlu ac yna’r tîm achub mynydd 

Dŵr mewndirol: Galwch 999 a gofynnwch am y Gwasanaeth Tȃn ac Achub They will ask for the following details on the call: 

Byddant yn gofyn am y manylion canlynol ar yr alwad: 

  • Eich lleoliad
  • Eich enw, rhyw ac oed
  • Natur eich argyfwng neu anafiadau
  • Nifer o bobl sydd yn eich grŵp (os yn berthnasol)
  • Eich rhif ffôn symudol

Os oes gennych anghenion clyw neu lefaredd gallwch yrru neges destun i’r gwasanaethau brys ond bydd rhaid i chi gofrestru ymlaen llaw. Gyrrwch y gair ‘register’ i 999 a dilyn y cyfarwyddiadau. 


Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Adventure Smart