Welcome to Cyfeillon Bannau Brycheiniog
Ymunwch a ni ar ein teithiau cerdded ymysg golygfeydd syfrdanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog , dysgwch am ei hanes, a’i ddaeareg a’i ecoleg a helpwch ni i warchod, gwella a mwynhau’r ardal.
Beth ydym yn ei wneud?
Mae Cyfeillion Bannau Brycheiniog yn cynnig nifer o deithiau cerdded tywys, drwy gydol y flwyddyn, yn bennaf yn ardal Bannau Brycheiniog ond weithiau ychydig ymhellach i ffwrdd hefyd.
Rydym yn cynnig un o raglennu teithiau cerdded tywys orau a mwyaf amrywiol y Deyrnas Unedig, gyda dros 200 taith gerdded y flwyddyn – tua phedair yr wythnos.
- Mae pob un o’n harweinwyr wedi eu hyfforddi fel arweinwyr teithiau cerdded
- Mae ganddynt dystysgrifau cymorth cyntaf argyfwng yn yr awyr agored ac
- Maent yn cario offer diogelwch gyda nhw
- Mae ein teithiau cerdded yn rhad ac am ddim i aelodau ac
- Mae yna groeso i ymwelwyr hefyd
Sut allwch gymryd rhan
Mae pob taith gerdded
- Wedi eu graddio yn ôl anhawster: hawdd, cymedrol, egnïol, caled. O bryd i’w gilydd cynigir sesiynau sy’n rhoi rhagflas o’r hyn sydd ar gael.
- Uchafswm o gerddwyr ar gyfer pob taith er mwyn ychwanegu at y mesurau diogelwch trylwyr sydd gennym ar gyfer pawb.
- Mae’n hanfodol eich bod chi’n archebu eich lle drwy ein gwefan pa un ai ydych yn aelod ai peidio.
Mae’r gymdeithas yn sefydliad gwirfoddol sydd ar agor i bawb.
Mae aelodau’n mwynhau mynediad am ddim i’n teithiau cerdded tywys, ein sgyrsiau cyson a gweithgareddau gwirfoddol. Byddwch hefyd yn derbyn ein cylchlythyr chwarterol ar-lein, gyda chyfleoedd i ddylanwadu ar drafodaeth ehangach ynghylch y materion y mae’r parc cenedlaethol yn eu hwynebu.
Ymunwch am gyn lleied ag £20 y flwyddyn!

Amenities
- Croesawgar i Gŵn
- Archebu Ar-lein
- I'r Teulu

How to book
Mae’r Teithiau Cerdded ar agor i Aelodau ac i’r rhai nad ydynt yn Aelodau, a rhaid archebu lle drwy’r wefan. Gofynnir i’r rhai nad ydynt yn Aelodau wneud rhodd o £5.