Croeso i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, sy’n gartref i ffermydd, pentrefi tlws a threfi marchnad prysur wedi’u lleoli mewn ehangder o fryniau tonnog a dyffrynnoedd tawel.

Croeso i'n trefi marchnad a'n pentrefi

Yn ogystal â bod yn le hardd i ymweld ag ef, mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gartref ac yn weithle i 33,000 o bobl. Dewch i gwrdd â ni ar ddiwrnodau prysur y farchnad ac yn y siopau, caffis, atyniadau a chanolfannau gwybodaeth ar draws y parc.

Trefi a Phentrefi

Antur Awyr Agored

P’un a ydych chi’n gerddwr brwd, yn feiciwr, yn farchogwr, neu’n edrych ar y sêr, mae’r parc yn cynnig rhywbeth i bob anturiaethwr. Gyda milltiroedd o lwybrau, ffyrdd gwledig tawel, a’i ddynodiad fel Gwarchodfa Awyr Dywyll, mae Bannau Brycheiniog yn faes chwarae i’r rhai sy’n frwd dros yr awyr agored.

Adventure activities

Lle Hanes a Chwedl

Yn gyforiog o hanes, mae’r parc yn frith o gestyll a chreiriau o’r gorffennol. O fryngaerau o’r Oes Haearn i’r mythau o amgylch Llyn y Fan Fach, mae Bannau Brycheiniog yn fan lle mae hanes a chwedl yn cydblethu.

Cestyll a Threftadaeth

Canolfannau Croeso

Ymwelwch ag un o’n Canolfannau Croeso a chael cyngor arbenigol ar beth i’w wneud yn ystod eich ymweliad.

Dod o hyd i Ganolfan Groeso

Beth hoffech chi weld?

Cymrwch eich amser, mae digonedd o bethau ar gael.

Cefnogwch y Parc Cenedlaethol

Cefnogwch gadwraeth Bannau Brycheiniog trwy wneud cyfraniad. Mae eich cyfraniad yn helpu i ariannu prosiectau cadwraeth, cynnal llwybrau cerdded, a diogelu harddwch naturiol y parc ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae pob rhodd, mawr neu fach, yn gwneud gwahaniaeth.

Rhoddion