Canolfan Arddio Old Railway Line

Three Cocks nr Talgarth

Croeso i Canolfan Arddio Old Railway Line

Siopa, Bwyd a Garddio yng Ngalon Dyffryn Gwy

Wedi’i lleoli yn Three Cocks rhwng Aberhonddu a Hay-on-Wye, mae Canolfan Arddio Old Railway Line yn fan perffaith ar gyfer siopa gwych a bwyd cartref blasus. Yn sefyll yng nghalon Dyffryn Gwy prydferth, wrth droed y Mynyddoedd Duon, mae’r safle’n cynnig golygfeydd godidog dros Fannau Brycheiniog a bryniau Sir Faesyfed cyfagos.

Mae’r busnes teuluol, annibynnol hwn – sydd wedi tyfu o ddechreuadau syml bron i 30 mlynedd yn ôl – bellach yn cyfuno Canolfan Arddio, Siop Fferm a Bwyty mewn un lleoliad, ac fe’i coronwyd yn ddiweddar yn ‘Ganolfan Arddio Orau yn y DU’ gan y Gymdeithas Canolfannau Garddio.

Mae’r ganolfan arddio’n cynnig planhigion o’r ansawdd gorau, cynhyrchion garddio ac eitemau byw yn yr awyr agored i drawsnewid eich gofod gardd. Mae staff garddio profiadol a brwdfrydig wrth law i gynnig cymorth, ysbrydoliaeth ac awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich gardd.

Y tu mewn, cewch ddetholiad helaeth o anrhegion, nwyddau cartref a dillad. Pori drwy filoedd o gynhyrchion i ddod o hyd i’r anrheg berffaith neu i fwynhau rhywbeth arbennig i chi’ch hun. Mae’r adrannau anifeiliaid anwes ac acwateg hefyd yn darparu popeth sydd ei angen ar gyfer eich anifeiliaid anwes neu’ch pwll dŵr gardd.

Mae’r Railway Restaurant ar agor saith niwrnod yr wythnos ac yn gweini amrywiaeth o brydau cartref ffres, brechdai, tatws pob a dewis o gacennau a phwdinau cartref. Mae Te Prynhawn ar gael bob dydd yn ogystal â Railway Roast blasus ar ddydd Iau a dydd Sul.

Mae’r siop fferm yn stocio amrywiaeth eang o fwyd a diod lleol gan gynnwys bara ffres, cigyddiaeth leol, cynnyrch deli a gwrw a gwin crefftus. Cynhelir digwyddiadau rheolaidd yn y ganolfan gan gynnwys Gŵyl Afal a Seidr flynyddol, digwyddiadau i blant, sgyrsiau, diwrnodau gwybodaeth a digwyddiadau gyda’r nos.

Show more
Mark & Christina
Owner

Old Railway Line Garden Centre, Three Cocks, Brecon, Powys, LD3 oSG


Amenities

  1. Archebu Nwyddau Ar-lein
  2. Croesawgar i Gŵn
  3. Maes Parcio ar y Safle
  4. Wi-fi
  1. Caffi ar y Safle
  2. I'r Teulu
  3. Siop ar y Safle

Things to do nearby

The Bannau Brycheiniog National Park is full of beautiful, interesting places to visit. Take a look at a few suggestions.

Things to Do

Order online

Nid yw archebu’ch planhigion ar-lein ar gyfer danfon neu gasglu erioed wedi bod mor hawdd.

Ideas for accommodation

All Accommodation