Y Mynyddoedd Duon: Castell Dinas a’r Clwb Gleidio
Head for the sky with this itinerary – and enjoy a walk to the highest Castle ruins in Wales, and reputedly in England too, followed by an afternoon watching the skilled pilots of the Black Mountains Gliding Club soar along the mountain ridges.
Awgrymiadau amserlen
Dechreuwch y dydd trwy yrru i’r maes parcio o dafarn y Castell yn Pengenffordd ar yr A479 rhwng Talgarth a Chrucywel, lle gallwch adael eich car. Gadewch y maes parcio ar ochr Talgarth, yn agos at y bwrdd gwybodaeth, a dilyn y llwybr i fyny i Gastell Dinas yn uchel ar y grib uwchben. Bryn o’r Oes Haearn oedd y safle’n wreiddiol, ac fe adeiladwyd Castell Normanaidd caerog yn ddiweddarach ar y safle. Er bod y gweddillion yn dadfeilio erbyn hyn – mae’r golygfeydd i mewn i’r Mynyddoedd Du a thros Dalgarth tuag at Fannau Brycheiniog yn sicr wedi parhau i fod yr un mor dda!
Bydd y daith yn cymryd tuag awr ar gyfer person o ffitrwydd canolig ac mae yna rywfaint o deithiau cerdded gwych y gallwch eu gwneud o Gastell Dinas os ydych chi eisiau mynd ychydig ymhellach.
Os byddwch yn ymweld ar y penwythnos – gallwch gael cinio yn nhafarn y Castell. Neu ewch â phicnic, neu ddychwelyd i Dalgarth i gael cinio.
Ar ôl cinio ewch i ymweld â Chlwb Gleidio’r Mynyddoedd Du, sydd 970 troedfedd uwchben lefel y môr – dywedir mai dyma’r clwb gleidio crib a thon gorau yn y DU. Ac mae’n hynod ddiddorol i wylio’r gleidwyr yn cael eu tynnu i fyny ac yna’u rhyddhau i esgyn gyda’r adar. Gallai’r rhai dewr yn eich plith gynllunio ac archebu sesiwn flasu a chael y profiad llawn!
Amserlen Bosib
11.00 – 13.00
Taith Gerdded tuag at Gastell Dinas a mwynhau’r golygfeydd fel gwobr am eich llafur.
13.00 – 14.00
Ddychwelyd i Dalgarth i gael cinio.
14.00 – 16.00
Ewch i Glwb Gleidio’r Mynyddoedd Du a naill ai gwylio’r campau yn y fan honno drwy’r prynhawn – neu os ydych chi wedi archebu ymlaen llaw, cewch gyfle i fwynhau sesiwn flasu!
Ble mae e?
Castell Dinas – SO179301 mae yna lwybr troed yn arwain o’r maes parcio yn nhafarn y Castell. Argymhellir mynd a map OS.
Clwb Gleidio’r Mynyddoedd Duon – Mae wedi ei arwyddo oddi ar yr A479 ar yr ochr chwith rhwng Talgarth a Chrucywel.
Cyfleusterau a Mynediad
Castell Dinas is accessed via a steep and un-even footpath and has no facilities.
Ar drên: mae’r orsaf agosaf yn Y Fenni – mae Talgarth rhyw 18 milltir o’r Fenni.
Ar y bws: Mae Talgarth yn cael ei wasanaethu gan fysiau i bob cyfeiriad, o Henffordd, Llanfair-ym-muallt, Y Fenni ac Aberhonddu. Edrychwch ar www.traveline-cymru.org.ukam y wybodaeth deithio ac amserlenni diweddaraf.
Ar feic: Mae llwybr Cenedlaethol 8 yn mynd trwy Dalgarth.