Y Mynyddoedd Duon: Eglwysi a chapeli hynafol
What about exploring the ancient churches and chapels in the Black Mountains?
Awgrymiadau Amserlen
Dechreuwch eich dydd yn Eglwys Merthyr Issui yn Partrishow. Lleoliad bendigedig ar lethrau de orllewin cadwyn y Gader gyda golygfeydd ysblennydd. Tu mewn, byddwch yn gweld sgrin dderw a chroglofft o’r 15fed ganrif ac ar fur gorllewinol corff yr eglwys, ceir llun o ‘Amser’ wedi’i beintio, sef ysgerbwd gyda phladur, awrwydr a rhaw.
Ewch yn ôl ac arhoswch yng Ngwarchodfa Natur Cwm Coed-y-Cerrig. Mae yna lwybr pren hygyrch, ac i’r sawl sy’n teimlo’n egnïol, mae llwybr serth yn arwain drwy’r coed i’r copa. Edrychwch am gnau cyll agored ar hyd y lle – arwydd sicr bod y pathewod preswyl ar waith.
Ar ôl cerdded, ewch ar hyd Dyffryn Ewias i Landdewi Nant Hodni. Mae’n bosibl cael pryd o fwyd yng Ngwesty Priordy Llanddewi Nant Hodni, sy’n rhan o Briordy Awstinaidd gwreiddiol y 12fed ganrif.
Ar ôl cinio, beth am grwydro o amgylch adfeilion y Priordy ac eglwys Dewi Sant, sef man addoli ers 1500 o flynyddoedd.
Ewch ymlaen i fyny’r dyffryn i Gapel-y-Ffin – mae eglwys fechan y Santes Fair yma. Dywedwyd bod rhith o’r Santes Fair wedi ymddangos yn y caeau lle saif yr eglwys. Dywedodd Francis Kilvert, y dyddiadurwr enwog, ei fod yn ei atgoffa ef o dylluan; dywedir hefyd mai dyma oedd yr ysbrydoliaeth i enw ‘The Vision Farm’ yn nofel enwog Bruce Chatwin, ‘On the Black Hill ‘. Yn fwy diweddar, bu’r arlunydd enwog Eric Gill yn byw ac yn gweithio yn y pentref, ac mae’r fynwent yn cynnwys dwy garreg fedd wedi’u hysgythru ganddo.
Ewch yn ôl i lawr y dyffryn ac mae’r eglwys olaf am y dydd ar y chwith. Dyma Eglwys Sant Martin o Tours yng Nghwm-iou. Adeiladwyd yr eglwys ar ben drifft tirlithriad hynafol. Mae symudiad a setliad y ddaear wedi gwneud i’r adeilad oleddu i gyfeiriadau gwahanol. Mae mwy o oledd yn nhŵr yr eglwys na thŵr enwog Pisa!
Cyngor
Mae llawer o’r ffyrdd yn y Mynyddoedd Du yn rhai cul gyda mannau pasio; gallant fod yn hynod o rewllyd yn y gaeaf. Mae’r ffyrdd yn aml yn parhau’n rhewllyd am beth amser yn y mynyddoedd ar ôl i’r rhew doddi yn is yn y dyffrynnoedd. Mae’r signal ffôn yn wael os ar gael o gwbl. Mae arwyddion da ar gael, ond awgrymir eich bod yn mynd â map.
Taith Enghreifftiol
10.00 – 10.45
Ymweld ag Eglwys Partrishow.
10.45 – 12.15
Mynd am dro yng Ngwarchodfa Natur Cwm Coed-y-Cerrig.
12.15 – 13.45
Cael cinio yng Ngwesty Llanddewi Nant Hodni a chrwydro adfeilion y Priordy ac Eglwys Dewi Sant.
13.45 – 14.30
Drive to Capel-y-Ffin and visit the tiny church of St Mary the Virgin.
15.30 – 15.45
Dychwelyd i lawr y dyffryn ac ymweld ag eglwys Sant Martin o Tours yng Nghwm-iou
Ble mae ef?
Eglwys Patrishow
Gadewch Y Fenni ar yr A465 i gyfeiriad Henffordd. Gadewch yr A465 yn Llanfihangel Crucornau. Ar ôl 1.25 milltir, trowch i’r chwith tuag at Bwll Glo Fforest. Yn y gyffordd pum ffordd, dilynwch yr arwydd i Patrishow. Yn y gyffordd T nesaf (dim arwydd), trowch i’r dde. Mae’r eglwys ar y dde ar ôl tua milltir.
Gwarchodfa Natur Coed-y-Cerrig
Ewch yn ôl o Patrishow. Mae maes parcio bach y warchodfa natur ar y chwith ychydig ymhellach na’r gyffordd pum ffordd.
Priordy Llanddewi Nant Hodni
Troi i’r chwith wrth adael y warchodfa natur. Ar y gyffordd nesaf, troi i’r chwith a dilyn yr arwyddion am Landdewi Nant Hodni.Llanthony.
Capel-y-Ffin
Parhau i fyny’r cwm yn yr un cyfeiriad – mae Capel-y-Ffin bedair milltir yn nes ymlaen.
Cwm-iou
Dewch yn ôl lawr i’r cwm o Gapel-y-ffin. Mae’r arwydd at y pentref ar yr ochr chwith, oddi ar brif ffordd y dyffryn.