Gweithgareddau Grŵp
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gyrchfan ddelfrydol ar gyfer grwpiau, gan gynnig ystod eang o weithgareddau a dewisiadau llety ar gyfer teuluoedd, ffrindiau, myfyrwyr, partïon stag ac phlu, a thimau corfforaethol.
Rhywbeth i bob grŵp
Gallwch ddewis o sesiynau gweithgaredd wedi’u hamserlennu neu weithio gyda threfnwyr profiadol i greu rhaglen wedi’i theilwra. Os ydych chi’n chwilio am heriau tîm hwyliog, anturiaethau corfforol, neu weithgareddau sy’n canolbwyntio ar adeiladu sgiliau ac arweinyddiaeth, mae rhywbeth i bob grŵp.

Anturiaethau dŵr
Canŵio, caiacio, padlfyrddio, rafftio dŵr gwyn, adeiladu rafftiau, hwylio a hwylfyrddio.
Activities at Parkwood Outdoors Dolygaer
Archwilio ar y tir
Gweithgareddau anifeiliaid a fferm, cerdded bryniau, cyfeiriannu, geogelcio, beicio, beicio mynydd, beicio cwad, marchogaeth a merlota.
Good Day Out, Animal Experiences
Natur a sgiliau
Mordwyo, chwilota, byw yn y gwyllt, gwylio bywyd gwyllt, saethyddiaeth a saethu colomennod clai.
Borderlands Outdoor
Heriau antur
Ogofa, dringo creigiau, abseilio, cerdded ceunentydd a gwifrau sip.
Zip World Tower Colliery, Phoenix